Newid
defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan
gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau
canlynol:
Cofnod:
Newid defnydd tir
amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig gan gynnwys bloc amwynderau,
trac mynediad a mynedfa
a) Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir amaethyddol, i barc carafanau
teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys :
·
Gosod 40 llain gwair anffurfiol yn mesur
o leiaf 8m x 8m
·
Creu ffordd fynediad
3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl
yn ffurfio rhwydwaith unffordd trwy’r safle
·
Adeiladu bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi.
·
Creu clawdd newydd ar hyd ffin
orllewinol y safle
Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i
bwyllgor 22 Tachwedd, 2021 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu
i swyddogion ystyried gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ac i drafod manylion
y datblygiad ymhellach gyda’r ymgeisydd.
Eglurwyd bod y safle wedi
ei leoli mewn cefn gwlad agored
oddeutu 300m ar hyd ffordd, sy’n
rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n arwain o Bwllheli i Nefyn.
Atgoffwyd yr Aelodau am y pryderon a gyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod diwethaf,
sef diffyg ystyriaeth i faterion
bioamrywiaeth a mynedfa i’r parc carafanau. Mewn ymateb, nodwyd
bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno:
·
Asesiad Ecolegol Cychwynnol
oedd yn cynnwys
mesurau i amddiffyn coed hynafol ynghyd a chynllun gwelliannau ecolegol fyddai’n cynnwys plannu gwrych brodorol, tyfu blodau a gosod
blychau adar. Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r cynigion.
·
Cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd gyda’r A497 a fyddai’n golygu lledaenu’r llain gwair ger y ffordd, torri dwy goeden a rheoli
uchder y clawdd er mwyn creu
gwelededd hyd at 160m i gyfeiriad y gorllewin.
Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn fodlon gyda’r cynigion
a’r Swyddogion Cynllunio yn derbyn
bod y diwygiadau yn goresgyn problemau diogelwch
Ystyriwyd bod y
cynnig gyda’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd, yn cwrdd gyda’r anghenion ar
gyfer datblygu safle gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y
CDLl ac o osod amodau priodol er sicrhau'r
gwelliannau angenrheidiol i'r fynedfa briffordd a chamau lliniaru ar gyfer
amddiffyn bioamrywiaeth, y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion y
polisïau perthnasol yn y CDLl.
.
b) Yn manteisio ar
ei hawl i
siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Ei fod
yn dod o deulu ffermio Cymreig
gyda gwerthoedd Cymreig.
·
Wedi byw
a ffermio yng ngogledd Cymru ers dros 200 mlynedd a'i hun wedi
ffermio yn Bodvel am dros 50 mlynedd
·
Yn ystod
y cyfnod hwn ei bolisi erioed
fu cefnogi gwerthoedd y gymuned leol, y bobl leol
eu hunain, busnesau a gwasanaethau lleol
·
Ei fod
bob amser wedi cyflogi pobl leol
o deuluoedd lleol gan ddweud gyda
balchder bod cenedlaethau o’r un teuluoedd lleol wedi bod yn gweithio ar
y fferm ac wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am reoli agweddau amaethyddol a gofal anifeiliaid y fferm
·
Ei fod
wedi bod yn ymwneud â nifer o fusnesau yn yr ardal sy’n cynnwys
bwytai, gwestai, ysgolion marchogaeth, cwmni adeiladu, garej a chanolfan i ymwelwyr yn
Bodvel. Gyda phob un busnes ei fod wedi
cadw at yr un egwyddor o gadw popeth yn
lleol. Bydd yn parhau gyda’r
gwerthoedd hyn os bydd y cais yn
llwyddiannus
·
Ei fraint
hefyd yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol
Cymru 2023 ar y fferm yn Bodvel. Bydd
hyn yn ei
alluogi, i hybu
ei ethos o gefnogi'r iaith Gymraeg ynghyd â'i thraddodiadau, gwerthoedd a ffordd o fyw - nid yn
unig yn lleol
ond i gynulleidfa
llawer ehangach gan hyrwyddo’r ffordd Gymreig o fyw i genedlaethau’r
dyfodol.
c) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Amlygwyd bod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd
Anwen Davies y datgan buddiant
oherwydd ei bod yn berchennog maes
carafanau teithiol
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod gwelliannau i faterion
gwelededd o’r fynedfa i’r A497 yn dderbyniol
·
Bod materion bioamrywiaeth wedi cael eu
cyfarch
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd
2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd
3. Nifer o unedau ar y safle
ar unrhyw un adeg ar y safle
hwn i’w cyfyngu
i 40
4. Cyfyngu tymor i rhwng
1 Mawrth a 31 Hydref
5. Defnydd gwyliau yn unig
6. Cadw cofrestr o ddefnyddwyr
7. Dim storio carafanau ar y safle y tu allan
i'r tymor
8. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod
yn Gymraeg yn unig neu yn
ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg
9. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
10. Rhaid cynnal y gwelededd gyda'r A497 i'r safonau a'u dangosir
yn y cynlluniau yn barhaus
11. Amod Dŵr Cymru
12. Amodau tirlunio
• Nodyn - Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Trwyddedu
Dogfennau ategol: