Codi
adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dau stabl a storfa
tac.
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Simon Glyn
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
Nodyn - Uned
Draenio Tir
Cofnod:
Codi adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dwy
stabl a storfa tac.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer
adeiladu sied amlbwrpas
(Amaethyddol / Ceffylau)
fyddai’n cynnwys dwy stabl a storfa tac ynghyd a man cysgodi defaid, lle
cadw peiriannau a phorthiant a storfa llawr cyntaf. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad
agored oddeutu 700m i’r de orllewin o bentref Croeslon
Dinas; o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig a ddynodir gan Gynllun Datblygu Lleol
ar y cyd Gwynedd a Môn ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli; 180m i’r gorllewin o ffin Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Llŷn.
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr
ymgeisydd yn berthynas i aelod etholedig o'r Cyngor.
Gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais ym
mhwyllgor 13 Rhagfyr, 2021 fel bod swyddogion yn cael cyfle i ystyried
gwybodaeth hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad pellach
ynghylch yr angen am y datblygiad. Roedd hyn yn cynnwys :
·
Nad
oedd adeiladau amaethyddol yn sefyll wrth y tŷ (ar dir Tyddyn Du) - rhai
o’r adeiladau gwreiddiol erbyn hyn yn eiddo i fferm Tyddyn Gwyn.
·
Bod
mynediad i’r cae wrth y tŷ yn anaddas i gerbydau mawr gan iddo groesi ffos
a phibellau dŵr; gwifrau cyflenwadau trydan a ffôn yn croesi uwchben yr
adwy, sy’n rhwystr i beiriannau gael mynediad i’r cae ger y tŷ
·
Nad
oedd angen gwneud llawer o waith i'r tir er mwyn creu safle lefel ar gyfer y
datblygiad; fe ail-gylchir unrhyw bridd
a symudir i greu lle gwastad o amgylch yr adeilad
·
Bydd
llwyni a choed cynhenid yn cael eu plannu o amgylch yr adeilad.
·
Ni
fydd yr adeilad yn effeithio ar fwynderau gweledol unrhyw un o’r cymdogion,
adeiladau eraill nac unrhyw anheddle cyfagos
·
Y
safle yn guddiedig ac mewn safle diarffordd ac anial; gwrychoedd yn guddfan
naturiol i’r adeilad.
Adroddwyd bod trafodaethau pellach ynghyd a
chyfarfod safle wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd. Yn sgil hynny fe newidiwyd
lleoliad arfaethedig yr adeilad – ei osod ar lefel is na gynigiwyd
yn wreiddiol ac yn agosach at y gwrych aeddfed sy'n amgylchynu’r cae.
Yn sgil y newidiadau i'r cynllun ers y Pwyllgor
diwethaf, a'r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ynghylch yr angen
am yr adeilad a'r cyfiawnhad am y lleoliad, roedd y swyddogion yn derbyn bod yr
angen amaethyddol wedi ei brofi ar gyfer codi adeilad ar y safle ac felly’r bwriad yn dderbyniol dan egwyddor
datblygiad gwledig sylfaenol a pholisi PCYFF1 y CDLl
yn benodol. Yn ogystal, oherwydd bod y bwriad bellach wedi ei guddio yn rhannol
o welfannau cyhoeddus, derbyniwyd na fyddai’r adeilad
yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd. Ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol dan
bolisïau, PCYFF2, PCYFF 3 ac AMG 2 y CDLl
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:
·
Bod trafodaethau
wedi eu cynnal
i drafod y pryderon a gyflwynwyd a’u datrys - y trafodaethau hyn wedi bod yn fuddiol
a chadarnhaol.
·
Bod yr adeilad bellach wedi ei adleoli
i leoliad llai amlwg yng
nghornel y cae
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu
y cais
PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau
1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad
dim hwyrach na phum mlynedd o ddyddiad y caniatâd
2. Cwblheir y datblygiad yn llwyr unol
â'r manylion a gyflwynwyd
3. Rhaid cytuno ar y deunyddiau
/ lliwiau allanol cyn dechrau'r datblygiad
4. Rhaid defnyddio'r adeilad ar gyfer
pwrpas amaethyddol yn unig
Dogfennau ategol: