Cais ar gyfer codi tŷ
tri llawr tair llofft gyda ardal barcio
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol;
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Llechi
4. Gorffeniadau allanol.
5. Mynediad a
pharcio
6. Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer
ymlusgiaid.
7. Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod
nythu adar.
8. Enw Cymraeg i’r tŷ.
Cofnod:
Cais ar
gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio
a) Amlygodd y
Swyddog Cynllunio bod y cais yn rhannu'r un dyluniad a chais 5.4 - yn gais
llawn ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio. Nodwyd
bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu pentref Felinheli (fel y
diffinnir yn yr CDLl.) ger ffordd gyhoeddus dosbarth
3 (Ffordd Caernarfon). Ategwyd bod bwriad gan yr ymgeisydd symud i fyw yn
barhaol yn yr uned fydd yn cael ei alw yn Heulyn.
Eglurwyd
bod caniatâd cynllunio byw ar gyfer codi eiddo preswyl tri llawr (Caniatawyd
cais ar gyfer codi annedd 3 llawr o dan gyfeirnod C12/0986/20/LL yn ogystal ag
ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 mlynedd ychwanegol o dan gyfeirnod
C17/1232/20/LL). Golygai hyn, fod yr uned sydd wedi ei ganiatáu yn gynt, wedi
ei gynnwys yn y banc tir yn barod. Wedi ystyried y sefyllfa, nid oes unrhyw
newid yn yr unedau preswyl sy’n cael eu darparu ac felly nid yw’r bwriad yn
groes i bolisi TAI 4 ac nid yw’n darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai
dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y polisi hwnnw. O ganlyniad i hyn,
nid oes angen cyfiawnhad arbennig am y datblygiad. I’r perwyl hwn ystyriwyd bod
y bwriad diweddaraf hwn yn dderbyniol mewn egwyddor.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, gyda gosodiad y tŷ arfaethedig mewn
perthynas ag anheddau cyfagos, ei ddyluniad a'i raddfa ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn amharu'n
andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos ar sail colli
preifatrwydd/gor-edrych ac aflonyddwch sŵn - y
bwriad felly, yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 o'r CDLL.
Yng
nghyd-destun diogelu llecynnau agored
presennol a rheilffyrdd segur cyflwynodd yr asiant gynllun safle
diwygiedig er mwyn dengys bod pellter digonol rhwng yr eiddo a'r ardd breswyl
ac na fydd y datblygiad yn gorgyffwrdd a'r rheilffordd segur. Yn yr un modd, ni
fydd y bwriad yn amharu ar ddefnydd y llecyn agored sydd wedi ei warchod nid
yw'n gorgyffwrdd yn sylweddol i yn y llecyn (bydd gardd yr eiddo o fewn terfyn
y dynodiad). I'r perwyl hwn ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan na fydd yn
amharu ar y llecyn agored wedi ei warchod a'r rheilffordd segur a drwy hynny'n
cydymffurfio a gofynion polisïau ISA 4 a TRA 3 o'r CDLl.
Wedi ystyried yr
holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol
yn ogystal â'r cefndir cynllunio, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a'i fod
yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol
b) Nodwyd bod y gwrthwynebydd yn dymuno datgan yr un sylwadau a chais 5.4
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu pentref Felinheli ac yn ffinio gyda Ffordd Caernarfon sy’n rhedeg ar
hyn ffin ddeheuol y safle. Y safle mewn
ardal breswyl a’r plot wedi ei leoli ar dir drws nesaf i gais a drafodwyd yn
5.4
·
Cynhaliwyd trafodaethau pre-app gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn bod cais llawn
wedi ei gyflwyno - y trafodaethau wedi parhau gyda swyddogion cynllunio a
swyddogion priffyrdd ers cyflwyno’r cais.
·
Bod caniatâd
blaenorol ar y safle ar gyfer datblygiad pedwar llawr ar gyfer darparu 4 fflat.
Nodwyd bod y caniatâd yma wedi ei warchod ac felly mae hyn yn ystyriaeth
gynllunio berthnasol wrth benderfynu’r cais cynllunio.
·
Bod caniatâd ar y safle hefyd ar gyfer
datblygu ty preswyl tri-llawr a gall y caniatâd yma
gael ei weithredu hyd at Ionawr 2023 - rhaid ystyried y sefyllfa wrth gefn a
fyddai yn gallu bodoli o dan y datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo yn
flaenorol ar y safle.
·
Yn ystod cyfnod ystyried y cais, trafodaethau helaeth wedi eu
cynnal gyda’r swyddogion cynllunio a’r swyddog priffyrdd a newidiadau wedi eu
cyflwyno i’r cynllun er mwyn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd.
·
Bod yr adran briffyrdd a swyddogion
cynllunio yn fodlon gyda’r bwriad
d) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd gan yr adeilad yr un effaith a
chais 5.4 ond yr un materion yn codi
e) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol;
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Llechi
4. Gorffeniadau allanol.
5. Mynediad a pharcio
6. Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer
ymlusgiaid.
7. Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod
nythu adar.
8. Enw Cymraeg i’r tŷ.
Dogfennau ategol: