Cais
o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amod 10 o gais cynllunio
C18/0125/17/MW:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio
mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw
ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf
o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim
symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid
gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael
i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.
Y datblygiad i fod
yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd
C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr
amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais,
archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.
Cofnod:
Cais o dan
Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn.
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff bod y
cais hwn yn rhan o gais cynllunio
C18/0125/17/MW a gymeradwywyd ar gyfer gwaredu a phrosesu dyddodion
gweithio mwynau presennol gydag amodau, ar 6 Medi 2018.
Nodwyd bod dau ganiatâd
cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle ac maent yn ymwneud ag echdynnu a
phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd o’r chwarel. Er mwyn cywirdeb ac i osgoi
amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, amlygwyd bod chwaer gais, C21/0491/17/LL,
yn destun penderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu allbwn o waith y chwarel
cyfan i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith.
O dan Adran 73, Deddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol newid neu dynnu
amodau ond ni all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd. Bydd cais a.73
llwyddiannus yn golygu caniatáu caniatâd cynllunio newydd ac felly’r caniatâd
gwreiddiol yn parhau yn gyfan. Wrth benderfynu ar gais a.73, gall yr Awdurdodau
Cynllunio Lleol osod amodau y tu hwnt i'r rhai a gynigir
yn y cais gwreiddiol (er bod rhaid iddynt fod yn rhai y gellid fod wedi eu
gosod ar y caniatâd gwreiddiol). Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r
newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd
yn y cais gwreiddiol.
Adroddwyd bod y cais yn
ymwneud â chynyddu allbwn o 5 i 9 llwyth ar ddyddiau gwaith ond yn symud yr un
faint o ddeunydd gyda chaniatâd o waith y chwarel, ar raddfa gyflymach ac mai prif ystyriaethau’r cais oedd dwyster y
broses gynhyrchu a, thrwy hynny, yr effaith ychwanegol ar y briffordd.
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth, ni dderbyniwyd
sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran Briffyrdd y
byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal gan nodi
ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad
drwy Rhostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru symudiadau traffig i'r chwarel
ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er na ellid amodi'r trefniant yma,
roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd
datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio
parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i drafod Gweithrediadau'r safle.
Nodwyd bod cefnogaeth i'r
cais gan Gyngor Cymuned Llandwrog yn ddarostyngedig i symudiadau HGV yn osgoi
traffig ysgol yn y bore a'r prynhawn – y trefniant yma yn un gwirfoddol a gaiff
ei gytuno a'i ddatblygu drwy'r Grŵp Cyswllt Cynllunio ar gyfer y safle.
Wedi ystyried mai un newid
bychan fydd i'r cyfyngiadau allbwn presennol, ystyriwyd y cynnig yn dderbyniol
mewn egwyddor a'i fod yn cydymffurfio â Pholisi TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar
y Cyd Gwynedd a Môn. Yng nghyd-destun effeithiau mwynderol, cyfeiriwyd at yr amodau cynllunio sydd
wedi'u gosod ar ganiatâd C18/0125/17/MW yn barod sy’n bodloni safonau cyfoes ac
yn rhoi digon o reolaeth o ran effeithiau niwsans posib sŵn a llwch ar
fwynderau'r ardal. Nid oedd gan Gwarchod y Cyhoedd Gwynedd unrhyw sylwadau ar y
cais.
Oherwydd hyblygrwydd
amod cynllunio presennol sy'n ymwneud â llwythi dyddiol, mae'r ACM wedi
caniatáu trefniant anffurfiol i gynyddu allbwn i 9 llwyth y dydd ar gyfer y 12
mis diwethaf i ddigolledu am fesurau cyfnod clo Covid
a gyfyngodd allbwn yn 2020. Er na wnaed unrhyw gŵyn i'r ACM ynghylch
gweithrediadau yn y chwarel. Derbyniwyd sylwadau fel rhan o'r broses cais
cynllunio hon gan breswylydd cyfagos yn nodi bod llwch wedi dod yn fwy o
broblem yn ystod tywydd sych a chafwyd achosion o gerbydau yn cyrraedd y safle mor
gynnar â 6:30am. Ar ôl codi'r mater hwn gyda gweithredwr y chwarel, maent wedi
cynyddu mesurau atal llwch ac wedi cael ar ddeall y bydd gwaith monitro amlach yn cael ei wneud gan Wasanaeth Cynllunio Mwynau a
Gwastraff Gogledd Cymru gyda mesurau cydymffurfio safle. Mewn perthynas â
phroblemau cerbydau yn mynd i'r safle am 6:30am, mae’r mater hwn bellach wedi'i
ddatrys ac nid oes unrhyw gerbyd HGV yn mynd i'r safle tan 7:30am. Bydd y
materion hyn yn cael eu trafod gyda'r gweithredwr a'r gymuned yng nghyfarfod
nesaf y Grŵp Cyswllt Cynllunio.
Ystyriwyd bod yr holl
ystyriaethau cynllunio materol wedi cael eu hasesu a bod y bwriad yn gyson gyda
Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd â Pholisïau a Chanllawiau
Cynllunio Cenedlaethol. Cyflwynwyd y
cais yma dan a.73 sy'n caniatáu i amod 10 o'r caniatâd gael ei amrywio, gan
hefyd ganiatáu rheolaeth ddigonol ac ail-osod yr holl amodau eraill sy'n
ymwneud â'r effaith ar y dirwedd, archaeoleg ddiwydiannol, treftadaeth,
diogelwch amgylcheddol a mwynderol, oriau gwaith,
cyfnodedd, adfer, bioamrywiaeth, hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd
dynodedig.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y gwaith yn cynnig cyflogaeth yn
lleol
·
Bod clirio hen rwbel o’r chwarel yn gwneud y lle yn fwy deniadol
yn y pen draw
·
Er y cynnydd mewn trafnidiaeth bod hyn
yn gyfystyr efallai ag un llwyth bob awr sydd ddim yn hynod o drwm
·
Derbyn pryderon pobl leol
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amod 10 o gais cynllunio
C18/0125/17/MW:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod
cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag
unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r
gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener,
a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.
Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod
penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.
Y datblygiad
i fod yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a
roddwyd C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod
yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r
cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol
Dogfennau ategol: