Cais o dan Adran 73 i
amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dilwyn Lloyd
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio
C18/1126/17/LL:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio
mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw
ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf
o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim
symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn
o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar
gais, o fewn 21 diwrnod.
Y datblygiad i fod
yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd
C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr
amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais,
archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.
Cofnod:
Cais o dan
Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn.
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff y cymeradwywyd cais cynllunio C18/0126/17/MW ar yr 18
Chwefror 2019, yn ddarostyngedig i amodau, i amrywio amod 6 o ganiatâd
cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu pum llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd
Gwener, heb unrhyw symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.
Nodwyd bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle yn
ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd yn y chwarel. Er mwyn
cywirdeb ac i osgoi amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, mae chwaer gais,
C21/0721/17/AC, yn ddarostyngedig i benderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu
allbwn o'r holl chwarel i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth, ni
dderbyniwyd sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran
Briffyrdd y byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal
gan nodi ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad
drwy Rostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru
symudiadau traffig i'r chwarel ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er
na ellid amodi'r trefniant yma, roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio
Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu
trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i
drafod Gweithrediadau'r safle.
Ystyriwyd bod yr holl ystyriaethau cynllunio materol wedi cael eu hasesu
a bod y bwriad yn gyson gyda Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
ynghyd â Pholisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol. Cyflwynwyd y cais yma dan a.73 sy'n caniatáu
i amod 6 o'r caniatâd gael ei amrywio, gan hefyd ganiatáu rheolaeth ddigonol ac
ail-osod yr holl amodau eraill sy'n ymwneud â'r effaith ar y dirwedd,
archaeoleg ddiwydiannol, treftadaeth, diogelwch amgylcheddol a mwynderol, oriau gwaith, cyfnodedd, adfer, bioamrywiaeth,
hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd dynodedig.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio
C18/1126/17/LL:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod
cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag
unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r
gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a
dim symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau
allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio
lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.
Y datblygiad
i fod yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a
roddwyd C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod
yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r
cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.
Dogfennau ategol: