Agenda item

Cais i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad gerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cynnal ymweliad safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)

 

Cofnod:

Cais i ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad) yng nghyn safle Woolworths, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal siop  (A1) gyda fflat (2 ystafell wely) uwchben y siop a thŷ  (1 ystafell wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag (sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb. Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS 15 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adroddwyd hefyd bod Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ac mae’r  safle o fewn ffin datblygu’r ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y bwriad yn cynnig un uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi TAI8 Cymysgedd Priodol o Dai

 

Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o ymdoddi i’w cyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd cadarnhaol o safle adeilad helaeth ddefnyddiwyd o’r blaen sydd wedi sefyll yn segur a dirywio am gyfnod hir. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Tynnwyd sylw at y pryderon a dderbyniwyd ynglŷn ag effaith y datblygiad ar gymdogion ac eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais cynllunio C21/0295/03/LL a dynnwyd yn ôl er mwyn ymateb  i bryderon y Swyddogion Cynllunio. Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd diwygiwyd y cais a’r cynlluniau. Ystyriwyd bo'r effaith wedi ei asesu yn fanwl ac y byddai gosod amodau yn goresgyn y pryderon.

 

Amlygwyd y byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned, ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn â  materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau, ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y siop flaenorol megis y lorïau danfon a pharcio staff wedi cynhyrchu symudiadau traffig trwm. Gellid dadlau y byddai’r symudiadau traffig dau gar yn peri llawer llai o aflonyddwch na loriau danfon a symudiadau cwsmeriaid a staff y defnydd blaenorol.

 

Adroddwyd y  rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd sydd wedi eu datblygu o’r blaen, ac ystyriwyd felly y byddai’r bwriad yn cyflawni hynny a gwella ansawdd gweledol safle amlwg ar y Stryd Fawr gyda dyluniad a graddfa’r datblygiad yn gydnaws a’r cyffiniau.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Bod cymdogion i’r safle yn amlygu pryder bod y bwriad yn orddatblygiad

·         Pryderon am ddiogelwch sylfeini adeiladau cyfagos

·         Allanfa dan adeilad cyfagos ar yr adeilad yma

·         Bod toiledau'r Meirion ar wal yr adeilad sydd yn cael ei ddymchwel

·         Pryderon am lefydd parcio

·         Awgrym yn yr adroddiad mai lean to yw sied gyfagos – nid lean to ydyw

·         Angen ystyried preifatrwydd cymdogion – y bwriad yn uwch na’r presennol

·         Lluniau yn yr adroddiad yn awgrymu ardal flêr a gwag - hyn yn gamarweiniol

·         Angen mwy o ystyriaeth i faterion iechyd a diogelwch - angen cynnal trafodaethau gyda chymdogion

·         Awgrym cynnal ymweliad safle - gwybodaeth a ffeithiau cywir heb eu cyflwyno yn y cais

 

a)            Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle

 

b)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu

·         Bod angen ystyried yr elfen diogelwch ac agosatrwydd y bwriad i adeiladau eraill

·         Y bwriad i’w weld yn orddatblygiad o’r safle

·         Byddai ymweld yn amlygu yn well na cheisio penderfyniad o lun

·         Bod rhaid rhoi ystyriaeth briodol i faterion diogelwch ac i’r cwynion sydd wedi eu nodi

 

·         Bod yr hyn sydd yn cael ei gynnig yn well na’r hyn sydd yn bodoli yn barod - y safle yn debygol o fynd yn flêr os cadw fel y mae

·         Byddai modd ystyried cynllun diwygiedig gyda llai o dai? Hyn yn goresgyn y problemau

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â materion adeiladu, nododd y Pennaeth Cyfreithiol byddai'r rhain yn cael eu cyfarch gan Uned Rheolaeth Adeiladau a Chyfraith Tir Preifat oherwydd byddai rhai i’r bwriad gydymffurfio gyda rheolau adeiladu. Ategwyd nad oedd ‘adeiladu’r adeilad’ yn fater cynllunio.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â lluniau addas, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y lluniau yn adlewyrchiad da o’r safle a bod nifer o drafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd ynglŷn â gorddatblygiad cholli preifatrwydd - cynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno yn llacio’r effaith mewn rhai llefydd.

 

PENDERFYNWYD: Cynnal ymweliad safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)

 

Dogfennau ategol: