I ystyried yr adroddiad gan drafod
a nodi unrhyw newidiadau i’r polisi drafft Buddsoddi Cyfrifol cyn ei gyflwyno
i’r Pwyllgor Pensiynau.
Cofnod:
Cyflwynwyd Polisi (drafft)
Buddsoddi Cyfrifol i’r Bwrdd Pensiwn ei drafod a chynnig sylwadau cyn ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau ei gymeradwyo’n ffurfiol ar y 17 o Fawrth 2022.
Nodwyd, fel rhan o baratoi’r polisi bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Hymans Robertson.
Adroddwyd bod y Gronfa yn
cydnabod y gall materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu
corfforaethol fod yn risg ariannol i’r rhanddeiliaid
a gall ddylanwadu ar enillion ac enw da hirdymor y Gronfa. Yn ogystal, nodwyd
bod y Gronfa wedi rhyddhau dau ddatganiad buddsoddi cyfrifol yn Ebrill a
Gorffennaf 2021 ac erbyn hyn wedi ffurfioli’r credoau o fewn y polisi.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod y
Gronfa yn bwriadu ymrwymo i osod amcan i fod yn net sero erbyn 2050, wedi’i
gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonolrwydd y Gronfa i gyrraedd net sero 5,10
neu 15 mlynedd ynghynt gyda fframwaith wedi’i ddatblygu i gefnogi uchelgeisiau
y Gronfa, gan gwmpasu cyfleoedd, ymgysylltu, a monitro a metrigau.
Amlygwyd bod y targed sero net yn cyd-fynd a tharged y Llywodraeth a Russell Investments, ac er mai anodd yw gosod targed heb ystyriaeth
sut i gyrraedd ato, ystyriwyd bod modd cydweithio i gyrraedd y targed yn realisitig.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Derbyn bod hi’n anodd gosod
targed – cynnig gosod camau / cerrig milltir tuag at 2050 fel bod modd monitro
/ adrodd ar y camau hynny
·
Awgrym y gellid defnyddio camau
monitro buddsoddiadau
·
Awgrym i ystyried llunio ‘banc carbon’ fel y
gwelir yn y Sector Adeiladu gan osod amcanion i ffocysu’r meddwl - dim
ymrwymiad ond amlygu disgwyliadau.
·
Doeth fyddai peidio ystyried
targed a pheidio ymrwymo i bwysau gan y wasg
·
O dderbyn arweiniad a metrigau gan y TCFD haws fydd cymryd camau ymlaen
·
Derbyn cydnabyddiaeth am
faterion amgylcheddol, ond angen hefyd ystyried llywodraethiant
cymdeithasol a chorfforaethol – hawliau dynol, rhyfel, llwgrwobrwyaeth a
llygredigaeth – awgrym ymhelaethu ar hyn
Mewn ymateb i sylw am osod cerrig milltir,
nodwyd er yn derbyn y byddai cerrig milltir yn cael eu gosod mewn unrhyw
gynllun arferol, anodd fyddai gwneud yn y cyd-destun yma oherwydd dibyniaeth
ar gyrff eraill. Ategwyd, o ran defnyddio camau buddsoddi, nad
oedd ymwybyddiaeth o unrhyw gwmnïau rheoli asedau oedd yn gosod cerrig milltir.
Mewn ymateb i sylw am ystyried agweddau tu hwnt
i faterion amgylcheddol, nodwyd bod y ddogfen wedi ei chreu cyn Rhyfel Wcráin a
Rwsia ac felly derbyniwyd yr angen i ychwanegu cymal am
‘fiduciary duty’, yn
dilyn ymchwil i agweddau cyfreithiol.
Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod
trafodaethau wedi eu cynnal gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) a bod y
datganiad ynglŷn â safbwynt y gronfa a buddsoddiadau cysylltiedig â Rwsia
wedi ei lunio yn sydyn iawn. Ategwyd bod grŵp o fewn PPC yn ystyried
agweddau cymdeithasol a llywodraethiant a
thrafodaethau yn treiddio i mewn i ystyriaethau buddsoddi.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chwmnïau megis
Shell, BP a Coca Cola sydd
â chysylltiadau gyda Rwsia a bod yr elfen llywodraethiant
yn berthnasol i hyn, nodwyd bod Robeco wedi eu
comisiynu i ymgysylltu a rheolwyr
asedau’r Gronfa i weithredu ar ein rhan ac ystyriwyd hyn yn gam gweithredol
cadarnhaol.
Er yn derbyn nifer o’r sylwadau, casglwyd nad
oedd angen addasu gormod ar y ddogfen ar hyn o bryd, ar wahân i ychwanegu’r
cymal am ‘fiduciary duty’,
ond bydd modd ychwanegu i’r ddogfen fel daw mwy o wybodaeth i law am agweddau
cymdeithasol a llywodraethiant.
Derbyniwyd yr wybodaeth
Dogfennau ategol: