YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD DYFRIG SIENCYN
Diweddariad ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd diweddariad gan
Arweinydd y Cyngor yn adrodd ar yr hyn roedd y Cyngor yn ei wneud i ymateb i’r
heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor
weithredu arnynt i’r dyfodol.
Adroddwyd bod y Cabinet wedi
mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur (a luniwyd gan dasglu a sefydlwyd
gan y Cabinet – Bwrdd Newid Hinsawdd) ar 8 Mawrth 2022. Nodwyd bod y Bwrdd
Newid Hinsawdd yn cynnwys Aelodau Cabinet a Phrif Swyddogion ac yn fwy diweddar
gwahoddwyd Pencampwr Bioamrywiaeth a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn aelodau sefydlog o’r Bwrdd.
Eglurwyd bod y Cynllun Argyfwng
yn cael ei arwain gan Pennaeth yr Amgylchedd ond bod cyfrifoldeb ar bob adran
yn y Cyngor i weithredu’r cynllun ynghyd a chyfraniadau gan gymunedau’r Sir. Amlygwyd
bod sylw wedi ei wneud nad oedd cyfeiriad at fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn yn
y cynllun, a derbyniwyd ymateb gan y Pennaeth Cyllid yn nodi bod camau
sylweddol wedi eu gwneud yn y maes buddsoddi er nad oes rheolaeth uniongyrchol
gan y Gronfa ar y buddsoddi.
Nodwyd mai’r her oedd cyrraedd
targed net sero erbyn 2030. Derbyniwyd bod camau heriol i’w cyflawni ond bod y
Cyngor yn benderfynol o gyrraedd y targed a osodwyd gan Llywodraeth Cymru.
Amlygodd Pennaeth yr Amgylchedd bod y cynllun yn ddogfen fydd yn cael ei
datblygu a’i haddasu’n rheolaidd gan nodi dau gam i’r cynllun: Cam 1 yw’r
cynllun presennol sydd yn cynnwys sefydlu trefn briodol a chamau mae’r Cyngor
yn bwriadu eu cymryd er mwyn newid y gwasanaethau maent yn eu darparu’n
uniongyrchol. Byddai cam 2 yn cael ei gyflwyno ar ôl proses ymgynghori ac yn
cynnwys rhagor o wybodaeth am fwriad y Cyngor i gynghori a chefnogi
gweithgareddau yn y gymuned ar faterion e.e., ynni mewn adeiladau, rheoli a
defnydd tiroedd, ailgylchu, parthau llifogydd.
Diolchwyd am yr adroddiad a
diolchwyd i’r Bwrdd am ymestyn yr aelodaeth. Cynigiwyd y dylid ystyried gwahodd
cynrychiolwyr Arfon a Dwyfor-Meirionnydd yn Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn
aelodau o’r Bwrdd Newid Hinsawdd.. Nododd yr Arweinydd y byddai’n cyflwyno’r cynnig
i’r Bwrdd.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Bod cyfle i Cyngor Gwynedd arwain y
ffordd drwy ddylanwadu a chyflwyno’r cynllun yn effeithiol
·
Bod angen annog y 3ydd sector a’r
sector breifat i ystyried addasiadau cyffelyb
·
Byddai’n fuddiol cael dadansoddiad
costau a budd er mwyn dangos faint o arian gellir ei arbed ynghyd â’r lleihad
mewn allyriadau carbon. Drwy nodi canran agos o ran effaith gellir annog y 3ydd
sector ac unigolion preifat.
·
Bod modd adnabod adeiladau y gellid
cyflwyno system gwresogi ddaearol
·
A roddir ystyriaeth i fuddsoddi mewn
systemau dŵr poeth solar ynghyd â buddsoddi mewn systemau PV (Photovoltaic) i leihau ôl-troed carbon?
·
Bod angen cynnal archwiliad yn
seiliedig ar garbon o adeiladau a cherbydau
·
Bod angen ystyried technoleg amgen
e.e., niwclear, hydrogen. Yr Almaen yn buddsoddi mewn prosiectau hydrogen
adnewyddadwy, a gynhyrchir drwy ddefnyddio dŵr.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â thrydan ac o ble daw’r cyflenwad trydan o ystyried yr argyfwng tanwydd
presennol ac effaith y Rhyfel yn Wcráin, a beth yw safiad y Cyngor o ddefnydd
ynni niwclear (gwyrdd), nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chyrff
allanol ynglŷn â safle gorsaf bŵer Trawsfynydd a’r posibilrwydd o
weld datblygiad fyddai’n darparu trydan yno. Ategwyd bod angen ystyried
cynlluniau ynni adnewyddol megis, dŵr a môr ond
bod angen hwb sylweddol gan y Llywodraeth i arwain ar hynny. Er yr awydd i weld
Gwynedd yn mabwysiadu technoleg newydd a manteisio ar adnoddau a phrofiad sydd
eisoes yn bodoli yn Nhrawsfynydd a Phrifysgol Bangor,
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan fydd yn gwneud penderfyniad
terfynol ar hyn. Mewn ymateb gan Aelod i’r sylw am ynni niwclear, nodwyd yr
angen i ystyried peryglon technoleg niwclear i genedlaethau’r dyfodol a’r angen
am ofal wrth ystyried lleoliadau addas i orsafoedd niwclear.
Mewn ymateb i ddefnydd hydrogen,
amlygwyd bod cynlluniau cyffrous yn ymwneud a thrafnidiaeth yn y Gogledd yn
rhan o’r Cynllun TWF gyda syniadau o fewn y maes hydrogen, fydd yn allweddol
i’r dyfodol, yn cael eu trafod yn y Bwrdd Uchelgais Economaidd.
Mewn ymateb i gwestiwn a fydd
cefnogaeth ariannol ar gael i gymunedau addasu adeiladau, prynu offer newydd
sydd yn garedig tuag at yr amgylchedd ayyb, derbyniwyd bod y gwasgedd ariannol
presennol yn bryder, ond y bwriad yw y bydd y Cyngor, yn ystod cam dau
o’r cynllun, gyda rôl ymgynghorol o godi ymwybyddiaeth, yn rhoi
cyngor i gymunedau, rhannu gwybodaeth am grantiau posib neu gyfeirio at
asiantaethau eraill sydd yn cynnig cefnogaeth.
Diolchwyd am yr holl sylwadau.
Nodwyd bod y Bwrdd yn agored i bob syniad ac awgrym ond mai’r her yw dehongli’r
holl wybodaeth sydd ar gael a thrafod gyda chymunedau sydd a’r awydd i
weithredu. O dderbyn bod yr awydd i arbed arian wrth gyflawni rhai o’r
cynlluniau rhagwelir costau i’r Cynllun Argyfwng - o ganlyniad mynegwyd bod £3m
wedi ei neilltuo ar gyfer hynny.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i’r holl Aelodau am eu gwaith caled ac i’r swyddogion am eu cefnogaeth. Dymunwyd y gorau i’r Aelodau Etholedig hynny oedd yn ymddeol a diolchwyd iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr i’r Cyngor. Dymunwyd y gorau i’r Aelodau oedd yn dychwelyd i’r Cyngor ac i’r rhai oedd yn sefyll etholiad
Dogfennau ategol: