I ddarparu gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Adfer
Natur.
Penderfyniad:
Derbyn y wybodaeth am y Cynllun
Gweithredu Adfer Natur a dderbyniwyd gan y Swyddog Bioamrywiaeth.
Cofnod:
Croesawyd y Swyddog Bioamrywiaeth Ann
Williams i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad ble nodwyd fod y blynyddoedd
diwethaf wedi bod yn drobwynt ar gyfer cydnabod yr argyfwng natur a chynyddu
camau gweithredu.
Darparwyd cefndir ar y Cynllun Gweithredu
Adfer Natur Genedlaethol sy’n manylu ar sut y dylai pob ardal fynd i’r afael ag
adfer natur a chynhyrchu Cynllun Gweithredu eu hunain. Eglurwyd mai’r Swyddog
Bioamrywiaeth fydd yn arwain ar y cynllun hwn fydd yn gynllun ar y cyd rhwng
Gwynedd a Llŷn. Bwriad y cynllun fydd mynd i’r afael â’r chwe amcan cenedlaethol
tra hefyd yn cyfarch heriau, pryderon a’r gofynion amgylcheddol yn lleol.
Cydnabyddwyd fod yr amgylchedd yn bwysig
ofnadwy i drigolion Gwynedd a Llŷn; bydd y cynllun yn sicrhau fod y
cymunedau hyn yn gallu parhau i elwa a mwynhau byd natur. Fydd y ddogfen a’i
amcanion yn cael ei anelu at amrywiaeth eang o bobol. Bwriedir i’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwynedd a
Llŷn fod yn ddogfen bolisi statudol efo fydd â phedwar rhan.
Adroddwyd y bydd ymgynghoriadau yn cael eu
cynnal cyn yr Haf fel rhan o broses creu'r ddogfen; bydd y Cydbwyllgor hwn yn
cael eu cynnwys yn y sesiynau ymgynghori hyn. Nodwyd yn y cyfamser fod drafft o
ran gyntaf y Cynllun Gweithredu wedi ei baratoi, gofynnwyd am adborth a
sylwadau’r Cydbwyllgor ar y drafft hwn. Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn ar sut i
gyflwyno sylwadau a bydd y Swyddog Bioamrywiaeth yn anfon y drafft i aelodau’r
Cydbwyllgor. Yn ogystal, byddai’r Swyddog Bioamrywiaeth yn gwerthfawrogi pe
bai’r Cydbwyllgor yn cymryd rhan a chyfrannu yn yr ymgynghoriadau cyn iddynt
fynd ati i ffurfio gweddill y ddogfen.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:-
-
Gofynnwyd am eglurhad pellach ynglŷn â pha ran o’r
ddogfen fydd yn destun i’r ymgynghoriad.
-
Holiwyd beth
fydd yn digwydd ar ôl i’r ddogfen gael ei chynhyrchu a pwy fydd yn gweithredu
cynnwys y ddogfen.
-
Cwestiynwyd pam
fod y Cydbwyllgor heb gael copi o gynllun drafft rhan un ymlaen llaw. Pryderwyd
nad yw aelodau’r Cydbwyllgor yn ymwybodol beth fydd cynnwys y drafft hwn.
Mewn ymateb, nodwyd:
-
Y bydd yr ymgynghoriadau ynghylch ffurfio ail a trydedd
rhan y cynllun fydd yn amlygu sut gall y boblogaeth gyffredinol helpu adferiad
byd natur yn ogystal â’r camau gweithredu a’r blaenoriaethau lleol. Rhain fydd
rhannau pwysicaf y cynllun ac yn destun i’r ymgynghoriadau ble bydd cyfle i
gyfrannu. .
-
Nodwyd mai cefndir y cynllun yn unig oedd rhan un sydd
wedi ei baratoi ar ffurf drafft ble gofynnwyd am sylwadau.
-
Bod bwriad i’r
ddogfen fod yn ddogfen fyw ble gellir ychwanegu ati. Ychwanegwyd fod Llywodraeth
Cymru wedi blaenoriaethu adfer natur a bioamrywiaeth dros y blynyddoedd
diwethaf, golyga hyn fod cronfeydd o arian yn dod ar gael yn fwy aml. Eglurwyd
y bydd y ddogfen ar gael pe bai prosiectau eraill eisiau cyfeirio at y cynllun
a’i ddefnyddio fel adnodd i gefnogi ceisiadau am arian.
-
Ychwanegwyd y
bydd y cynllun hwn yn clymu fyny efo cynllun rheoli’r AHNE; bydd y ddau gynllun
yn cyd-redeg ac yn ffynonellau i ddenu cyllid er mwyn gweithredu prosiectau.
PENDERFYNIAD
Derbyn y wybodaeth am y Cynllun
Gweithredu Adfer Natur a dderbyniwyd gan y Swyddog Bioamrywiaeth.
Dogfennau ategol: