Bleddyn Jones,
Swyddog AHNE i roi adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.
Penderfyniad:
Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.
Cofnod:
Tywyswyd y Cydbwyllgor drwy Adroddiad y
Swyddog AHNE oedd yn nodi bod angen adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE bob pum
mlynedd. Nodwyd fod y Cynllun Rheoli presennol oedd yn cael ei weithredu o
2015-2020 bellach wedi ei ddyddio a dylai adolygiad wedi cael ei gynnal eisoes.
Eglurwyd bod amryw o resymau wedi amharu ar yr amserlen e.e. y pandemig a materion capasiti.
Adroddwyd bod ychydig o waith cefndirol wedi
ei gwblhau a bod bwriad i ddod ag adroddiad gerbron y cyfarfod nesaf o’r
Cydbwyllgor gyda mwy o wybodaeth a thaflen amser ar gyfer adolygu’r Cynllun
Rheoli mor fuan â phosib.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:-
-
Soniwyd am yr adroddiadau sydd wedi eu darparu gan
gwmnïau allanol a holwyd os oes posib eu rhannu efo aelodau’r cydbwyllgor.
Nododd y Swyddog AHNE fod yr adroddiadau
hyn yn Saesneg ar hyn o bryd ond gallai drefnu i’w cyfieithu a’u dosbarthu
-
Gofynnwyd â oes modd cryfhau’r polisïau sy’n gwarchod yr
AHNE a’r adeiladau traddodiadol sydd o fewn y ffin wrth adolygu’r Cynllun.
-
Mynegwyd pryder am y cyfnod adolygu gan nodi fod y cyfnod
yn fyrrach y tro hwn o’i gymharu â’r cynllun blaenorol a chwestiynwyd sut y
bydd hyn yn gweithio.
-
Nodwyd fod llawer o adolygiadau ac ymgynghoriadau wedi eu
cynnal yn ddiweddar ynglŷn â thai a mynegwyd y dylem fod yn barod i fedru
gweithredu yn sydyn fel y gallwn gynorthwyo a chefnogi unrhyw gynlluniau pe bai
newidiadau yn deillio o’r Llywodraeth.
Mewn ymateb, nodwyd:
-
Bydd yr adolygiad o’r Cynllun rheoli yn rhoi cyfle i ail
edrych ar y polisïau a chyfle i weld os oes angen eu haddasu a’u
diweddaru. Nodwyd fod canllawiau gan
Gyngor Cefn Gwlad Cymru y bydd angen eu dilyn yn fras a bod angen dilyn y
strwythur presennol i ryw raddau. Ni ellir newid y cynllun yn llwyr ond yn sicr
mae lle i addasu pe bai angen.
-
Fod gobaith gall llawer o waith gael ei gwblhau ar y
Cynllun mewn blwyddyn. Gobeithir gallu adolygu'r cynllun yn gynt na’r tair
blynedd oedd wedi ei gymryd yn y cyfnod diwethaf. Nodwyd ei bod yn anodd
rhagdybio pryd fydd y cynllun wedi ei gwblhau yn derfynol am fod llawer o
ystyriaethau eraill e.e. dogfennau a chynnwys polisïau cynllunio Cenedlaethol
a’r cynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn. Bydd adroddiad arall yn dod gerbron y
pwyllgor yn fuan.
-
Bod swyddogion
yn y broses o gael eu penodi yn yr ardal yma i ymwneud a gwaith ar y Cynllun
Peilot Dwyfor; awgrymwyd y gall y Swyddog AHNE gysylltu â nhw i weld os oes yna
unrhyw beth fedr y Cydbwyllgor ei wneud i hwyluso eu gwaith.
PENDERFYNIAD
Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.
Ar ddiwedd y cyfarfod
nodwyd y bydd Cadeirydd newydd yn cael ei ethol yn y cyfarfod nesaf a chymerwyd
y cyfle i ddiolch i Aelodau am eu gwasanaeth ar y Cydbwyllgor.
Dechreuodd y
cyfarfod am 4.05yh a daeth i ben am 4.55yh
Dogfennau ategol: