I ddarparu trosolwg
o waith Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gwynedd a’r datblygiadau ar gyfer 2022-23.
Penderfyniad:
b) Gofyn am adroddiad arall ymhen
3-4 mis ar ganfyddiadau'r gwaith ymchwil ‘Prosiect Iechyd Meddwl’ fydd wedi ei
gynnal.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi
diweddariad i aelodau o waith y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a’r datblygiadau ar
gyfer 2022-23. Nodwyd fod y Gwasanaeth yn un aml ddisgyblaethol a thraws
adrannol. Ychwanegwyd mai’r Bwrdd Iechyd sydd yn arwain y Gwasanaeth a’i bod yn
bartneriaeth gadarn a datblygiadol.
Ymhelaethwyd fod y gwasanaeth yn gweithio efo unigolion dros ddeunaw
oed. Mae’r mwyafrif o’r unigolion hefo capasiti ac yn derbyn y gwasanaeth yn
ddewisol. Adroddwyd ar y Prosiect Iechyd Meddwl sydd yn un o’r cynlluniau
datblygol ar raglen waith y gwasanaeth. Nodwyd fod yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant wedi comisiynu ymgynghorydd i ymgymryd â’r gwaith o graffu’r adnoddau
a’r gwasanaeth o fewn y ddarpariaeth gynradd. Gobeithir y bydd cynlluniau a
chynigion yn deillio o’r gwaith hwn a gobeithir gallu dod â’r argymhellion
hynny ger bron y Pwyllgor Craffu Gofal yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Pryderwyd sut mae unigolion yn cael mynediad i’r
Gwasanaeth Iechyd Meddwl; adroddwyd ar un achos ble nad oedd cyfeiriad wedi ei
wneud ar ran yr unigolyn. Soniwyd hefyd am achosion ble mae unigolion wedi cael
tabledi yn unig gan y meddygon teulu a ni chynhigiwyd cymorth pellach.
·
Ychwanegwyd fod diffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb efo
meddygon yn creu pryderon yn enwedig i’r sawl sydd ddim yn defnyddio rhaglenni
fel Zoom. Mynegwyd balchder fod pethau i’w gweld yn gwella ac apwyntiadau wyneb
yn wyneb yn cael eu hadfer.
·
Mynegwyd fod y nifer o
gyfeiriadau yn ystod 2021 yn uchel; gofynnwyd sut oedd y ffigyrau hyn yn
cymharu â blynyddoedd blaenorol.
·
Holiwyd sut mae’r Adran yn mynd i’r afael â’r anawsterau
recriwtio a’r prinder staff oherwydd absenoldebau a swyddi gwag sydd yn
cyfrannu at restrau aros.
·
Gwnaethpwyd sylw am y problemau
yn y maes Iechyd Meddwl ac oddi fewn y Bwrdd Iechyd a mynegwyd pryder am fod y
Cyngor mor ddibynnol ar wasanaethau'r Bwrdd Iechyd. Cwestiynwyd os ydi’r Cyngor
yn datgan y problemau sy’n cael eu profi ac yn herio’r Bwrdd Iechyd yn
ddigonol. Roedd dymuniad i’r Cyngor gydnabod y problemau hyn a chredwyd y dylai
fod wedi ei nodi yn yr adroddiad.
·
Cwestiynwyd os yw’r gefnogaeth ddigonol yn cael ei roi i
unigolion sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl.
·
Pryderwyd am les meddyliol plant
a pe bai hyn yn arwain at broblemau Iechyd Meddwl hir dymor; holwyd os oedd
adnodd ychwanegol wedi ei roi mewn ysgolion er enghraifft i ddelio â hyn.
·
Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi y byddai derbyn
diweddariad pellach yn cael ei groesawu.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod cyfeiriadau i’r Gwasanaeth
fel arfer yn cael eu gwneud gan y meddygon teulu. Adroddwyd bod unigolion yn
cael trafferth derbyn apwyntiad efo’u meddygon teulu yn achlysurol, mewn
achosion fel hyn gellir gofyn i weithwyr eraill sy’n cefnogi unigolion i wneud
y cyfeiriad. Adroddwyd fod croeso i Aelodau gysylltu yn uniongyrchol efo’r Uwch
Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd ac Iechyd Meddwl os ydynt yn dymuno sgwrs
bellach am achosion penodol.
·
Nad oes ffigyrau cyfeiriadau i
gymharu â blynyddoedd eraill ond bod nifer y cyfeiriadau yn eithaf sefydlog ar
y cyfan. Nodwyd fod nifer y cyfeiriadau wedi disgyn ar ddechrau’r pandemig ond
bellach yn sefydlog. Rhagwelir bydd nifer y cyfeiriadau’n cynyddu oherwydd
effaith y pandemig.
·
Bod recriwtio yn broblem yn
enwedig yn Ne’r Sir. Nodwyd bod recriwtio yn broblem i’r Bwrdd Iechyd yn
ogystal, sy’n cael effaith ar Wasanaeth y Cyngor am fod y ddau dîm yn
integredig. Eglurwyd bod trafodaethau cyson yn digwydd ac ymgyrchoedd ar draws
y Gogledd yn ceisio mynd i’r afael a’r broblem hon. Ychwanegwyd bod grŵp
tasg wedi ei sefydlu o fewn yr Adran i edrych ar recriwtio a cheisio denu mwy o
bobl i’r swyddi.
·
Bod y gwasanaeth yn deall
rhwystredigaethau’r Aelodau o amgylch y maes Iechyd Meddwl a’r Bwrdd Iechyd yn
benodol. Adroddwyd bod y Cyngor yn canolbwyntio ar rannau o’r Gwasanaeth Iechyd
Meddwl a bod angen deall beth yw’r cyfraniad hwn yn y lle cyntaf. Unwaith y
bydd y Cyngor yn glir am ei gryfderau yna bydd yn haws herio rhai o agweddau
cyfraniad y Bwrdd Iechyd.
·
Mewn ymateb i sylw os oedd y
Cyngor yn gwneud digon o waith ataliol ac yn camu mewn yn amserol; nodwyd fod
hyn yn rhan o’r gwaith ychwanegol sydd wedi cychwyn, bydd y gwaith yn cael ei
ddatblygu dros y misoedd nesaf. Gobeithir gallu cryfhau'r ddarpariaeth a chael
cynlluniau mewn lle er mwyn ymateb i’r galw.
·
Ei bod yn deg i gydnabod fod
angen gwneud mwy ond yr her fwyaf yw darganfod beth sy’n mynd i wneud y
gwahaniaeth mwyaf ac adnabod maint y dasg. Nodwyd bod syniadau yn bodoli ond
bod angen tynnu’r syniadau hynny at ei gilydd er mwyn rhoi cynllun addas a
phriodol mewn lle ar gyfer llenwi’r bylchau sy’n cael eu hamlygu gan Aelodau.
·
Nodwyd mai adroddiad am
wasanaethau iechyd meddwl oedolion oedd yr adroddiad a gyflwynwyd. Nid yw'r
gwasanaeth hwn yn darparu ar gyfer y maes plant. Pwysleisiwyd bod
cydweithrediad rhwng gwasanaethau oedolion a phlant ar faterion iechyd meddwl
ond bod y prif gyfrifoldebau yn gorwedd gyda’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
a’r Adran Addysg. Ychwanegwyd bod y cydweithio rhwng Adrannau yn edrych ar beth
fydd galw ar wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y tymor hir.
Mynegwyd awydd gan y Pwyllgor i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl ddarparu
adroddiad pellach ar ganfyddiadau’r gwaith ymchwil sydd ar y gweill. Gobeithir
bydd y gwaith yma wedi ei gwblhau o fewn y 2-3 mis nesaf.
Mynegodd y Cadeirydd a'r Cyn-gadeirydd ddiolchiadau i’r Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Aelod Cabinet am eu cydweithrediad yn ystod y
tymor diwethaf. Ategwyd diolchiadau i’r holl swyddogion o fewn yr Adran.
PENDERFYNWYD:
a) Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o waith y Gwasanaeth
Iechyd Meddwl a’r datblygiadau ar gyfer 2022-23.
b) Gofyn am adroddiad arall ymhen
3-4 mis ar ganfyddiadau'r gwaith ymchwil ‘Prosiect Iechyd Meddwl’ fydd wedi ei
gynnal.
Dogfennau ategol: