Agenda item

I ddarparu diweddariad ar weithrediad y Cynllun Gweithredu Tai, Adran Tai ac Eiddo.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

b)    Gofyn am ddiweddariad pellach i’r Pwyllgor Craffu Gofal ar y Cynllun Gweithredu Tai flwyddyn nesaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Tai ac Eiddo a chynhigiwyd diweddariad ar rai o brif brosiectau’r Cynllun Gweithredu Tai gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020.

 

Adroddwyd ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni ers mabwysiadu’r Cynllun ym mis Ebrill 2021, oedd yn cynnwys adeiladu 89 tŷ cymdeithasol a dod 41 o dai gwag yn ôl i ddefnydd. Derbyniwyd trosolwg o brosiectau a meysydd unigol gan fanylu ar y cynnydd sydd wedi ei wneud a'r camau sydd ar y gweill.

 

Cyfeiriwyd at yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan yr Adran megis y cynnydd sylweddol yn y nifer o gyflwyniadau digartref a dderbyniwyd ac amlinellwyd ar y datblygiadau sydd ar y gweill i ddelio â’r heriau hyn. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y prosiect Siop un Stop a’r cam nesaf o adnabod modelau gwahanol ar gyfer gweithrediad yr uned. Yn dilyn casglu gwybodaeth ac ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar yr opsiynau gwahanol.

 

Ategwyd pwysigrwydd cyfathrebu ac adrodd ar lwyddiannau’r Cynllun Gweithredu Tai gan ychwanegu bod tudalen eisoes wedi ei sefydlu ar y Fewnrwyd Aelodau er mwyn cyhoeddi diweddariadau i Aelodau. Ychwanegwyd y byddai’r Adran yn croesawu’r cyfle i ddychwelyd at y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol i roi diweddariad pellach ar gynnydd y Cynllun. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Diolchwyd am adroddiad manwl a Chynllun uchelgeisiol sy’n adnabod ac ymateb i broblemau Tai'r Sir.

·         Mynegwyd gwerthfawrogiad am waith yr Adran a mynegwyd balchder yn yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma. Edrychwyd ymlaen at yr hyn gellir ei gyflawni yn y dyfodol.

·         Nodwyd nad oedd nifer o dai yn ardal Blaenau Ffestiniog yn cyrraedd y safon briodol; serch hyn roedd y tai yn cael eu rhentu i drigolion am nad oedd eiddo o safon well ar gael. Holiwyd os yw Swyddogion o fewn yr Uned Dai yn parhau i ymweld ag eiddo rhent preifat er mwyn gwirio eu safon a chost y rhent fel yn y gorffennol. Cwestiynwyd os oedd y Cynllun yn mynd i’r afael a thai anaddas.

·         Gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn cydweithio efo Rent Smart Wales. Credwyd bod y sefydliad hwn yn nodi safonau disgwyliedig ond fod pobl yn derbyn tai o safon is oherwydd prinder eiddo yn y Sir.

·         Gofynnwyd beth oedd y rhesymau dros y nifer isel o’r ymatebion a dderbyniwyd pan gafodd dros 300 o lythyrau eu gyrru at berchnogion tai gwag ar draws y Sir. Holwyd ymhellach pryd ddaeth y 41 o dai gwag yn ôl i ddefnydd.

·         Gwnaethpwyd sylw fod llawer mwy o’r grantiau tai gwag i brynwyr tro cyntaf wedi eu rhoi i ymgeiswyr o ardal Arfon o gymharu ag ymgeiswyr o Dde’r Sir. Holwyd os oedd yna restr aros ar gyfer Meirionnydd neu reswm pan nad oedd pobl o Dde’r Sir yn ymgeisio am y grantiau hyn. Tybiwyd y dylid gwneud mwy i hyrwyddo’r grantiau yma yn Ne’r Sir.

·         Arsylwyd bod rhaid i bobol fod yn wynebu digartrefedd o fewn 56 diwrnod cyn cael eu hadnabod fel bod mewn perygl o ddigartrefedd ond bod rhybuddion i adael weithiau yn cael eu rhoi 6 mis ymlaen llaw. Gofynnwyd beth mae’r adran yn ei wneud er mwyn ceisio helpu’r bobl hyn cyn y cyfnod 56 diwrnod.

·         Mynegwyd rhwystredigaeth cysylltu â derbyn ymatebion gan rai o’r Cymdeithasau Tai. Nodwyd y byddai Aelodau yn dymuno cael gwybod pa dai cymdeithasol sydd yn mynd i ddod yn wag ond nad yw’r wybodaeth yma fel arfer yn cael ei ddarparu gan y Cymdeithasau Tai.

·         Mynegwyd fod rhai Aelodau yn aros yn hir i dderbyn ymateb i’w hymholiadau gan y Tîm Opsiynau Tai ac wedi profi trafferthion cysylltu â’r tîm. Nodwyd fod y cyhoedd hefyd wedi profi’r rhwystredigaeth hon a chredwyd fod diffyg cyfathrebu gan y tîm. Holwyd am farn y Pennaeth Tai ac Eiddo ar y sefyllfa.

·         Cyfeiriwyd at y gosodiad statudol gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod y pandemig oedd yn nodi y dylai Awdurdodau Lleol gartrefu unrhyw un a gyflwynai’n ddigartref a thybiwyd fod hyn yn heriol i’r Uned Ddigartrefedd. Gofynnwyd a yw hyn wedi cael ei adlewyrchu yn y graff ar dudalen 20 o’r pecyn a beth fydd yn digwydd petai’r Llywodraeth yn codi’r Ddeddf hon.

·         Teimlwyd ei bod yn bwysig hyrwyddo’r Cynllun Gweithredu Tai a bod gan yr Aelodau ran i’w chwarae. Awgrymwyd y dylai Aelodau hyrwyddo’r Cynllun drwy eu Cynghorau Cymuned a Thref.

·         Credwyd fod cynnydd da iawn wedi ei wneud ers mabwysiadu’r Cynllun. Adroddwyd fod amryw o ffigyrau calonogol yn yr adroddiad. Dymunwyd derbyn rhagor o wybodaeth h.y. ble cafodd yr 89 tŷ cymdeithasol eu hadeiladu.

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Nad oedd yr hen drefn o osod rhenti bellach yn bodoli. Nodwyd fod oddeutu 9,000 o dai rhent preifat yng Ngwynedd ac mai nifer fach o’r landlordiaid hyn sy’n creu trafferthion. Adroddodd y Pennaeth Tai ac Eiddo bod tîm o Swyddogion o fewn y gwasanaeth yn gyfrifol am archwilio safonau tai. Gofynnwyd i’r Aelodau gysylltu â’r gwasanaeth os ydynt yn ymwybodol o unrhyw dai problemus. Ychwanegwyd bod y tîm ar gael i ymgymryd ag archwiliadau unrhyw adeg.

·         Bod yr Adran Dai yn gweithio yn agos iawn efo Rent Smart Wales. Nodwyd bod 90% o dai sydd yn cael eu rhentu yng Ngwynedd wedi cofrestru efo Rent Smart Wales. Ychwanegwyd fod y sefydliad yn rhoi cydnabyddiaeth o wiriad ar y person (landlord) ond yn ddibynnol ar y Cyngor i sicrhau fod safonau'r eiddo yn cael eu cynnal. Adroddwyd nad oes rhaid datgelu safonau eiddo er mwyn gallu ei gofrestru efo Rent Smart Wales. Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â’r Adran Dai os efo pryderon am safonau eiddo penodol.

·         Nad oedd y diffyg ymateb i’r llythyrau a anfonwyd i berchnogion tai gwag yn syndod i’r Uned. Adroddwyd fod yr ymarferiad hwn o lythyru perchnogion yn digwydd yn aml a bod yr ymateb o hyd yn wael; nid yw’r Uned yn sicr pam. Nodwyd fod nifer o resymau pan fod perchnogion yn dewis cadw eu tai yn wag, mae’r rhain yn amrywio o resymau sentimental i resymau eraill fel teuluoedd yn cadw’r tai i’w plant. Ychwanegwyd fod y 300 o lythyrau gafodd eu hanfon ar draws arfordir y Sir yn unig er mwyn gweld beth fyddai’r ymateb; y cam nesaf fydd llythyru perchnogion tai gwag y Sir yn ei gyfanrwydd fydd o gwmpas 1,200. Gobeithir cael gwell ymateb i’r llythyrau hyn. Ychwanegwyd fod y 41 o dai gwag sydd eisoes wedi dod yn ôl i ddefnydd yn gyfuniad o nifer o gynlluniau ar draws y Sir e.e. benthyciadau prynwyr tro cyntaf a benthyciadau i ddod a thai yn ôl i safon.

·         Bod yr un neges yn cael ei rannau ar draws y Sir a bod y grantiau tai gwag i brynwr tro cyntaf ar gael i bawb. Adroddwyd nad oes rhestr aros ac efallai bod angen hyrwyddo’r cynllun ymhellach fel bod pobl yn ymwybodol o’i fodolaeth; bydd yr Uned yn gweithredu ar hyn.

·         Bod y Gwasanaeth Digartrefedd yn derbyn achosion o ddigartrefedd cyn y cyfnod statudol o 56 diwrnod. Derbynnir achosion pan gaiff y rhybudd ei gyflwyno, fel arfer o fewn 6 mis; bydd llawer o waith ataliol yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn cyn cyrraedd y 56 diwrnod. Adroddwyd fod y Gwasanaeth yn gallu cyfathrebu efo landlordiaid a gallu ceisio dod o hyd i dai eraill i’w cleientiaid. Ychwanegwyd fod Cyngor Gwynedd yn un o’r pedwar Cyngor Gorau ar draws y wlad am gymryd camau i atal digartrefedd.

·         Bod perthynas agored rhwng y Cyngor a’r Cymdeithasau Tai gyda chyswllt rheolaidd. Croesawyd Aelodau i gysylltu â’r Adran Dai os ydynt yn cael trafferthion derbyn ymateb gan y Cymdeithasau Tai yng Ngwynedd. Ychwanegwyd nad yw gadael i Aelodau wybod pryd fydd Tai Cymdeithasol yn dod yn wag yn rhan o’r broses gosod tai cymdeithasol. Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yntau yn awyddus i’r Cymdeithasau Tai hysbysu Aelodau o pan fydd tai cymdeithasol yn dod yn wag. Credwyd y dylid ail ofyn i'r Cymdeithasau Tai ddarparu’r wybodaeth yma ar ddechrau’r cyfnod Cyngor newydd. Nodwyd fod hyn yn rhan o’r egwyddorion o rannu gwybodaeth y mae’r Adran yn ceisio ei gyflawni efo’r Siop un Stop a’r Fewnrwyd Aelodau.

·         Bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn ceisiadau am eiddo cymdeithasol yn ystod y flwyddyn sydd wedi arwain at oedi mewn rhai achosion o ymateb i ymholiadau’r cyhoedd ac Aelodau. Eglurwyd fod yr uned yn edrych ar ddatrysiadau i nifer o ymholiadau e.e. yn edrych ar opsiynau i ddatblygu Ap fel y gall ymgeiswyr gael mynediad uniongyrchol i’w ceisiadau. Ymddiheurwyd am yr oedi sydd wedi bod. Ychwanegwyd fod y tîm wedi bod dan bwysau a gobeithir gallu ymateb â’r sefyllfa drwy’r Siop un Stop a gwella cydweithio. Nodwyd fod datblygiadau eraill ar y gweill i ddarparu gwybodaeth uniongyrchol i Aelodau drwy’r Fewnrwyd ble bydd posibilrwydd o weld gweithgareddau diweddar mewn ardal benodol. Gobeithir y bydd y datblygiad yma yn weithredol ar ôl sefydlu’r Siop un Stop.

·         Bod cynnydd yn y niferoedd o gyflwyniadau digartref yn sicr oherwydd bod y diffiniad o ‘ddigartref’ wedi newid yn ystod cyfnod y pandemig. Yn y gorffennol os nad oedd pobl mewn blaenoriaeth angen yna nid oedd y Gwasanaeth digartrefedd yn eu derbyn. Yn dilyn y cyfarwyddyd gan y Llywodraeth y dylai bawb sy’n cyflwyno'n ddigartref gael eu derbyn a’u cartrefu, arweiniodd hyn at gynnydd sylweddol yn y niferoedd. Adroddwyd fod y niferoedd yn parhau i gynyddu sy’n bryderus iawn. Tybiwyd fod y niferoedd cynyddol o ganlyniad i rybuddion gan landlordiaid preifat i denantiaid adel oherwydd eu bod eisiau gwerthu eu tai neu eu troi yn dai gwyliau. Nodwyd hefyd bod cynnydd wedi bod mewn nifer o dor-perthynas yn ystod y pandemig, Rhagwelir na fydd y niferoedd yn lleihau yn y dyfodol a bod gofyniad y Llywodraeth wedi cael ei wneud yn un parhaol.

Mewn ymateb i sylwi craff un o Aelodau ynghylch y ffigwr o bobl Gwynedd sydd wedi derbyn cymorth i fyw mewn tŷ yn lleol hyd yma, adroddwyd mai’r ffigwr o 1163 fel sydd wedi ei nodi ar y Fewnrwyd Aelodau sydd yn gywir. Nodwyd fod y ffigwr 1754 sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad yn gywir ar gyfer y Strategaeth Tai oedd yn weithredol ers 2019 ond mai’r ffigwr o 1163 sydd yn berthnasol ar gyfer y Cynllun Gweithredu Tai sy’n weithredol ers 2021.

 

Ychwanegwyd fod Aelodau yn cael eu hannog i gyfeirio at y Fewnrwyd Aelodau fydd yn cael ei diweddaru’n gyson gan yr Adran Dai. I gloi diolchwyd i’r Pwyllgor am eu holl graffu dros y blynyddoedd ac am eu hadborth positif ac adeilado ac am fod yn rhan o broses datblygu’r Cynllun Gweithredu Tai.

 

Mynegwyd diolch i’r Pennaeth Tai a’r Aelod Cabinet am eu gwaith yn ogystal â swyddogion yr Adran.

 

PENDERFYNWYD:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

b)    Gofyn am ddiweddariad pellach i’r Pwyllgor Craffu Gofal ar y Cynllun Gweithredu Tai flwyddyn nesaf.

 

 

 

Dogfennau ategol: