I dderbyn diweddariad ar y Strategaeth Faethu yng Ngwynedd
yng nghyd-destun y Fframwaith Maethu Cenedlaethol.
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth.
b) Argymell i’r Adran wahodd
gofalwyr maeth a phlentyn i’r hyfforddiant Rhiant Corfforaethol fydd yn cael eu
cynnal yn y dyfodol.
Cofnod:
Cafwyd rhagair i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi
Teuluoedd yn nodi ei bod yn bleser cyflwyno diweddariad ar Strategaeth Faethu
Gwynedd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch am y mewnbwn a dderbyniwyd i ddatblygu’r
strategaeth yma yn lleol ac yn Genedlaethol; ac i ddiolch i’r teuluoedd sydd yn
maethu am eu gwaith arbennig ac ymroddgar. Ychwanegwyd fod Pennaeth Gwasanaeth
Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd yn arwain ar y strategaeth ranbarthol ar ran
yr awdurdodau ac yn aelod o’r grŵp llywio cenedlaethol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gweithredol - Adnoddau Gofal
gan nodi ei fod yn ddilyniant ar adroddiad a gyflwynwyd yn flaenorol i’r
Pwyllgor ar y Strategaeth Faethu Genedlaethol. Nodwyd bellach fod tîm
Cenedlaethol wedi ei sefydlu fel estyniad o’r Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol fydd yn parhau i roi ffocws i’r gwaith hwn. Adroddwyd fod y chwe
Rheolwr rhanbarthol yn cyfleu’r negeseuon yn lleol ac yn sicrhau fod y rhaglen
waith yn mynd yn ei flaen o fewn eu rhanbarthau a Siroedd.
Adroddwyd ar y sefyllfa maethu yng Ngwynedd gan nodi fod yr angen am
leoliadau newydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn; oherwydd hyn mae denu
gofalwyr maeth newydd yn un o brif nodau'r fframwaith maethu. Pwrpas y
gwasanaeth maethu yng Ngwynedd yw darparu cartref diogel a hapus i blant
Gwynedd a thanlinellwyd ar flaenoriaethau’r tîm er mwyn cwrdd â’r pwrpas.
Adroddwyd bod deg gweithiwr Cymdeithasol o fewn y tîm. Bellach mae
pedwar yn canolbwyntio ar y gofalwyr maeth teuluol ac yn rhoi ffocws clir i’r
gwaith yno, tra bod y chwe gweithiwr cymdeithasol arall yn cefnogi ac asesu
gofalwyr maeth cyffredinol. Nodwyd bod Rheolwr y Tîm Maethu yn gweithredu fel Rheolwr Datblygu
Maethu ar draws rhanbarth y Gogledd am gyfran o’r wythnos, ac o ganlyniad mae
dau Arweinydd Ymarfer yn arwain ar y ddau faes gwaith. Ychwanegwyd bod Swyddog
Marchnata Rhanbarthol wedi ei phenodi sydd yn gyflogedig gan Wynedd ac yn
gwasanaethu’r chwe awdurdod ar draws y Gogledd. Bydd y Swyddog yn gwneud gwaith
pellach ar ddatblygu strategaeth recriwtio a marchnata ar draws y rhanbarth.
Ategwyd ei bod yn
bwysig darganfod faint o ofalwyr fydd ei hangen er mwyn cyflawni anghenion
plant yng Ngwynedd. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm Maethu bod Gwynedd angen edrych
ar gynnydd o 25% mewn gofalwr maeth er mwyn parhau i fod mewn sefyllfa
sefydlog; dangosa hyn pa mor hanfodol yw’r gweithgareddau recriwtio.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd i’r Uned am eu gwaith
da a mynegwyd gwerthfawrogiad i’r rhieni maeth.
·
Credwyd fod y brandio Maethu
Cymru yn dal llygad ac yn sefyll allan ar draws y cyfryngau cymdeithasol.
·
Cydnabyddwyd gwaith caled y tîm
wrth geisio ymateb i’r her recriwtio a chroesawyd penodiad y swyddog marchnata
rhanbarthol. Gwnaethpwyd sylw am y lleihad bychan yn niferoedd y gofalwyr
oherwydd ymddeoliadau ond ei bod yn galonogol clywed am y gwaith marchnata a
recriwtio sy’n cael ei wneud.
·
Holiwyd os ydyw yn anoddach dod o
hyd i rieni maeth i faethu plant hŷn er enghraifft plant yn eu harddegau o
gymharu â phlant iau, ac os oes yna ymgyrch i ddenu rhieni maeth plant
hŷn. Holiwyd hefyd os ydyw yn anoddach dod o hyd i rieni maeth sy’n siarad
Cymraeg ac os oes yna recriwtio penodol ar gyfer plant Cymraeg.
·
Gofynnwyd a oedd syniadau newydd
ynghylch recriwtio yn sgil bod yn rhan o’r strategaeth Genedlaethol.
·
Mynegwyd bod clwstwr o ofalwyr
maeth o amgylch ardal Bala sydd yn gefnogol o'i gilydd ac wedi datblygu yn naturiol
iawn. Tybiwyd os oedd lle i ail greu hyn mewn ardaloedd eraill. Dymunai rai
Aelodau dderbyn diweddariad ar hyn yn y dyfodol.
·
Adroddwyd bod gan y broses
gymhwyso i fod yn rhieni maeth ddelwedd o fod yn drwm, anodd a llafurus ar yr
ymgeiswyr. Pryderwyd fod hyn yn digalonni ymgeiswyr ac yn eu hatal rhag
cofrestru. Gofynnwyd sut y byddai’r Uned yn ymateb i honiad o’r fath ac yn
annog a chefnogi ymgeiswyr.
·
Nodwyd y byddai Aelodau yn hoffi clywed yn
uniongyrchol gan y rhai sy’n maethu am eu profiadau ac y byddai o fudd codi
ymwybyddiaeth maethu ymysg yr Aelodau. Awgrymwyd y byddai cyflwyniad i’r Cyngor
Llawn yn fuddiol er mwyn i’r holl Aelodau gael deall mwy am fanteision maethu a
sut gall yr Aelodau helpu yn yr ymdrech recriwtio.
·
Holiwyd os yw rhieni maeth yng
Ngwynedd yn cael llai o daliad o gymharu â rhieni maeth mewn ardaloedd eraill.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Ei bod yn anoddach recriwtio
rhieni maeth ar gyfer plant oedran hŷn ond fod y tîm wedi bod yn ffodus i
gael gofalwyr profiadol sydd â llawer i gynnig i blant hŷn. Nodwyd fod y
tîm yn ceisio amlygu’r angen am rieni maeth i blant hŷn ond ddim yn hollol
siŵr sut i ddenu’r niferoedd sy’n ddymunol. Adroddwyd os na all y tîm
gyflawni’r anghenion yn fewnol o fewn y ddarpariaeth yna byddant yn edrych ar y
sector breifat annibynnol, ychwanegwyd nad hyn yw’r nod.
·
Yng Ngwynedd, fod ffocws yn cael
ei roi ar recriwtio rhieni maeth Cymraeg iaith gyntaf ond fod heriau yn bodoli
oherwydd demograffig y bobl sydd yn dueddol o faethu. Mae’r tueddiadau
traddodiadol hyn yn cynnwys pobl sydd wedi ymddeol yn gynnar neu wedi symud i’r
ardal ac mewn sefyllfa ariannol i fedru maethu. Nodwyd fod ymdrechion yn cael
ei wneud i fod yn fwy hyblyg a chefnogol; adroddwyd fod llwyddiannau i’w gweld
yn ddiweddar ble roedd mwy o rieni iau yn eu tridegau wedi cofrestru fel rhieni
maeth. Credwyd fod Gwynedd yn gwneud ychydig yn well na’r tueddiadau
Cenedlaethol o ran recriwtio amrywiaeth o rieni maeth.
·
Nad oes gymaint o bwyslais ar
ddarganfod syniadau newydd ond yn hytrach marchnata; yma fyddi rôl y swyddog
marchnata rhanbarthol yn amlygu ei hun, sef edrych ar sut i farchnata’r
syniadau sydd yn bodoli eisoes. Credwyd bod angen rhoi pwyslais ar sut i
farchnata’n strategol gyda ffocws penodol ar bwy y bwriedir ei dargedu o ran
demograffeg ac yn ddaearyddol; gobeithir wedyn gallu recriwtio’n well.
·
Bod y sefyllfa yn Bala wedi
datblygu yn organig heb lawer o ymyrraeth gan yr Uned. Adroddwyd bod cymuned
glos iawn o ofalwyr maeth wedi datblygu yn yr ardal gyda rhywfaint o gefnogaeth
ac anogaeth gan y tîm maethu. Nodwyd bod hyn yn rhywbeth mae’r tîm â’r Swyddog
Marchnata yn awyddus i edrych arno i ddarganfod sut ddatblygodd y cysylltiadau
o fewn y gymuned. Bydd astudiaeth achos yn cael ei gwblhau drwy siarad efo
rhieni maeth yr ardal. Soniwyd bod cynlluniau cyn Cofid19 i drefnu cyfarfodydd
i rieni maeth gyfarfod ei gilydd; bwriedir ail afael yn y trefniadau hyn yn
ogystal â threfnu Diwrnod Maethu yn yr Haf i rieni maeth, y plant a’r
Swyddogion. Ychwanegwyd mai un o’r adnoddau gorau o ran marchnata yw'r rhieni
maeth a bod cynlluniau i wneud mwy o ddefnydd o’r rhieni maeth e.e. drwy
ymgyrchoedd lleol a rhanbarthol. Bydd y Swyddog Marchnata yn edrych ar y
cyfleoedd hyn.
·
Bod y rheoliadau o fewn y Ddeddf
yn golygu bod rhaid i’r Uned ymgymryd â gwiriadau trylwyr sy’n cynnwys edrych
ar gefndir rhieni maeth posib er mwyn sicrhau diogelwch y plant. Nodwyd bod y
Swyddogion sy’n gwneud yr asesiadau yn egluro’r broses yn glir i’r ymgeiswyr
fel eu bod yn ymwybodol o’r broses. Nodwyd bod y tîm yn edrych ar rinweddau a
nodweddion unigolion sy’n eu gwneud yn addas i faethu. Ychwanegwyd y gall y
broses fod yn hir gydag asesiadau yn cymryd o gwmpas 6 mis i’w cwblhau.
Eglurwyd fod y gwiriadau DBS yn gallu arafu’r broses ond o ganlyniad i
newidiadau diweddar gellir cwblhau’r gwiriadau hyn ar lein sydd yn cyflymu’r
broses rhywfaint. Adroddwyd fod y Swyddogion yn ceisio ymateb i unrhyw ymholiad
yn esbonio’r gofynion ac yn parchu sensitifrwydd y broses a pa mor heriol ydyw
ar ddarpar rieni maethu. Yn ogystal, nodwyd bod holl weithwyr cymdeithasol y
tîm wedi ennill cymhwyster ychwanegol DDP a bod gwelliannau wedi eu gwneud yn
ddiweddar o ran cyflymder asesu ceisiadau gyda rhai yn cael eu cwblhau o fewn
4-5 mis.
·
Ei bod yn ofynnol i’r holl
Aelodau gwblhau hyfforddiant Rhiant Corfforaethol a'i fod yn syniad da i
ychwanegu profiadau rhieni maeth i’r hyfforddiant hwn. Gellir hefyd gweld os
ydi’n bosib cael person ifanc i fynychu’r hyfforddiant er mwyn rhoi eu
profiadau a’u safbwynt o fod mewn gofal maeth yng Ngwynedd. Cymerwyd y cyfle i
annog Aelodau i fynychu’r hyfforddiant Rhiant Corfforaethol gan ei fod yn gyfle
i ddeall beth yw’r profiad o fod yn rhieni maeth. Ychwanegwyd bod bwriad i
gynnwys gwybodaeth am Riant Corfforaethol ar y Fewnrwyd Aelodau a chroesawyd
unrhyw syniadau gan Aelodau am ba wybodaeth i’w gynnwys yno.
·
Bod dwy elfen i daliadau maethu
sy’n cynnwys Lwfans Maethu a thaliadau ychwanegol. Nodwyd bod Gwynedd yn cwrdd
â’r isafswm Lwfans maethu sydd wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd
fod yr amrywiaeth fel arfer o ganlyniad i daliadau ychwanegol sydd yn seiliedig
ar brofiad a sgiliau a’r hyfforddiant mae’r rhieni maeth yn fodlon eu cwblhau. Nid yw hwn yn daliad sy’n statudol i’w roi ond yn hytrach yn cael ei
ddefnyddio i geisio denu a chadw rhieni maeth. Eglurwyd mai un o’r heriau mwyaf
o ran datblygu fframwaith Cenedlaethol yw oherwydd bod gymaint o amrywiaeth
rhwng y 22 Awdurdod o ran y taliadau ychwanegol. Yng Ngwynedd ceir 3 lefel sy’n
seiliedig ar hyfforddiant. Ychwanegwyd fod amrywiaeth o fewn Gwynedd ymysg
gofalwyr maeth sy’n perthyn i’r plant gyda rhai yn dewis peidio ymgymryd â’r
hyfforddiant ac o ganlyniad ddim yn derbyn y taliad ychwanegol tra bod eraill
yn ei dderbyn; yma ceir yr anghysondeb.
Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn â pha oedran rhieni maeth mae’r
uned yn ceisio ei dargedu yn eu hymdrech recriwtio, nodwyd nad yw’r uned yn
edrych ar oedran a chefndir yn uniongyrchol ond yn hytrach ar ansawdd a
rhinweddau’r person a beth y gallent ei gynnig i’r plant. Eglurwyd bod cael
sbectrwm eang o bobl a chefndiroedd yn amhrisiadwy i gyd fynd ag anghenion
amrywiol y plant.
Adroddodd yr Aeloda
Cabinet ei fod wedi cael cyfle dros y blynyddoedd i sgwrsio dros baned â’r
rhieni maeth a’r plant; nododd fod y profiad yma yn gadarnhaol iawn gyda
straeon hapus, positif a chalonogol yn cael eu hadrodd gan y plant gyda
negeseuon cyson o ddiolch i’r rhieni maeth.
Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn benodol i’r Cynghorydd Menna Baines am ei
chyfraniad a’i gwaith ar y Panel Maethu. Diolchwyd hefyd i’r Cynghorwyr Beth
Lawton ac Angela Russell sydd wedi cynrychioli’r Pwyllgor hwn yn y cyfarfodydd
Herio Perfformiad am eu cyfraniad dros y blynyddoedd. Yn olaf diolchwyd i’r
Cynghorwyr Dewi Roberts ac Eryl Jones-Williams am Gadeirio’r Pwyllgorau Craffu
Gofal dros dymor y Cyngor. Ategwyd fod y Pwyllgor Craffu Gofal wedi bod yn rhan
annatod o’r Adran Plant a’i waith a diolchwyd am gyfraniad adeiladol y
Pwyllgor.
I gloi ymestynnwyd diolch gan y Pwyllgor i’r Pennaeth Adran a’r Aelod
Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r holl Swyddogion am eu cydweithrediad a’u
parodrwydd i drafod dros y blynyddoedd.
PENDERFYNWYD:
a)
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth.
b)
Argymell i’r Adran wahodd gofalwyr
maeth a phlentyn i’r hyfforddiant Rhiant Corfforaethol fydd yn cael eu cynnal
yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: