Agenda item

I ystyried yr adroddiad a  chymeradwyo’r polisi Buddsoddi Cyfrifol

 

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn ddarostyngedig i addasu cymal o dan y pennawd ‘Lleihau Allyriadau Carbon y Gronfa ac Amcanion y Dyfodol’

 

“... mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 15 mlynedd ynghynt...”

 

i

 

“... mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 20 mlynedd ynghynt...”

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd. Adroddwyd bod Buddsoddi Cyfrifol wedi datblygu yn bwnc trafod pwysig a phoblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf a bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cymryd camau cadarnhaol yn y maes, yn gynnwys rhyddhau datganiadau buddsoddi cyfrifol yn Ebrill a Gorffennaf 2021 sydd bellach wedi eu ffurfioli o fewn y polisi.

Nodwyd bod y polisi yn amlinellu mai nod y Gronfa yw sicrhau enillion buddsoddi cryf dros y tymor hir gan ddiogelu buddiannau rhanddeiliad, er yn cydnabod y gall materion llywodraethu, amgylcheddol a chymdeithasol gynrychioli risg ariannol sylweddol i’r rhanddeiliaid a dylanwadu ar elw ac enw da'r Gronfa. Ategwyd bod y polisi hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ganllawiau cyfreithiol, credoau buddsoddi, ymgysylltu a datgelu ac adrodd gan ddisgrifio’r egwyddorion a’r gweithdrefnau hynny y mae’r gronfa yn ei ddilyn yn y maes buddsoddi cyfrifol.

Cyfeiriwyd at ymrwymiad net sero'r Gronfa gan amlygu ystyriaeth o ymrwymo i darged net erbyn 2050, ond asesu’r posibilrwydd yn barhaus o gyrraedd 5,10, neu 15 mlynedd ynghynt. Amlygwyd nad oedd dymuniad gosod targed heb gynllun o sut i’w gyrraedd, ond nodwyd bod y targed o 2050 yn cyd fynd gyda tharged Rusell Investments Darparwr Atebion Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Tynnwyd sylw at y fframwaith a ddatblygwyd i gefnogi’r uchelgais sydd yn cwmpasu cyfleoedd, ymgysylltu, monitro a metrigau.

Ategodd Cyfarwyddwr y Gronfa, er nad oedd targed wedi ei osod yn flaenorol bod ymrwymiad i fod yn sero net a chamau rhesymol wedi eu cyflawni at gyrraedd hyn wedi eu gweithredu, ond bod disgwyliad bellach i osod targed a ffurfioli’r sefyllfa.

Cyflwynwyd y polisi i’r Bwrdd Pensiwn am sylwadau Mawrth 7fed 2022. Nodwyd bod eu cynigion wedi eu hymgorffori yn y polisi

Diolchwyd am yr adroddiad

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â goblygiadau’r Mesur Sancsiynau gan Lywodraeth San Steffan yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ymddengys bod Llywodraeth San Steffan eisiau cyfyngu cronfeydd o weithredu yn Wleidyddol. Er i rai penderfyniadau gael eu herio yn y gorffennol ymddengys bod bwriad gan y Llywodraeth i osod polisi, ond ystyriwyd y gall hyn amrywio yn ddibynnol ar y llywodraeth sydd mewn grym ar y pryd. Amlygodd bod y ‘dyletswydd ymddiriedolyn rheoli’r cyfyngiadau ar hyn o bryd ac yn unol ag awgrym y Bwrdd Pensiwn bod cyfeiriad at hyn wedi ei gynnwys yn y Polisi.

Yng nghyd-destun Rwsia a Wcráin amlygwyd bod gan y Pwyllgor yr un farn, y grym a’r hyder i ddylanwadu ar y portffolio drwy rannu pryder am y sefyllfa gydag aelodau’r Cynllun gan ryddhau datganiad a thrwy nodi nad oedd risg o niwed ariannol sylweddol i’r Gronfa o fuddsoddi a Rwsia (llai na 1%). Gyda materion eraill megis arfau, nid oes un farn gyffredin ymysg mwyafrif aelodau’r Gronfa, ac mae’n heriol i adnabod maint y buddsoddiadau. Derbyniwyd fod hyn yn anodd, a rhaid bod yn gyfforddus o’r sefyllfa cyn symud ymlaen, gan fod y dyletswydd ymddiriedol yn berthnasol yma.

Mewn ymateb i sylwadau am osod targed sero net ac o’r posibilrwydd o gyrraedd y targed cyn 2050, amlygodd y Cadeirydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad dylai sector cyhoeddus Cymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd Mawrth 3ydd 2022, cymeradwywyd mabwysiadu a gweithredu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030. Bydd y cynllun yma yn amlinellu’r camau gweithredu y bydd y Cyngor yn eu cymryd er mwyn cyrraedd y nod o fod yn Gyngor carbon sero-net erbyn 2030. Er mwyn cysoni’r uchelgais yma gyda’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol, awgrymwyd addasu’r amserlen fel bod uchelgais i gyrraedd y nod o fod yn sero net erbyn 2030.

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi comisiynu cwmni Robeco i ymgysylltu gyda rheolwyr asedau’r gronfa mewn perthynas â gweithgarwch pleidleisio ar faterion sydd yn ymwneud â’r hinsawdd, ac i ymgysylltu gyda'r cwmnïau mae cronfewydd PPC yn buddsoddi ynddynt, i ddylanwadu a gwella eu gweithgareddau ac ymddygiad ar faterion yn ymwneud â hinsawdd. Ategwyd bod mesurau pellach i’w mabwysiadu ynghyd â gofynion ‘TCFD’ (Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n gysylltiedig â'r Hinsawdd). Cyfeiriwyd at yr atodiad i’r polisi – ‘Monitro Rheolwyr Asedau Cronfa Bensiwn Gwynedd’, sydd yn ddogfen fyw fydd yn cadw cofnod o’r datblygiadau yn y maes buddsoddi cyfrifol mae’r holl reolwr asedau wedi eu cyflawni.

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r Polisi yn ddarostyngedig i addasu’r amserlen fel bod uchelgais i gyrraedd y nod o fod yn sero net erbyn 2030, os yn bosib.

PENDERFYNWYD

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth

·         Cymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn ddarostyngedig i addasu cymal o dan y pennawd ‘Lleihau Allyriadau Carbon y Gronfa ac Amcanion y Dyfodol’

 

“... mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 15 mlynedd ynghynt...”

 

i

 

“... mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 20 mlynedd ynghynt...”

 

Nododd y Cadeirydd bod cwestiynnau gan y cyhoedd wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor a rhoddwyd ymatebion i’r cwestiynnau hynny gan Gyfarwyddwr y Gronfa:

1.    Gan gofio natur ansicr buddsoddiadau tanwydd ffosil yng ngoleuni rhyfel Rwsia; adroddiad diweddar yr IPCC, a barn arbenigwyr bod ymgysylltu â chyfranddalwyr yn arwain at siarad yn hytrach na gweithredu, a wnaiff y pwyllgor ymrwymo yn awr i wyro oddi wrth yr holl asedau sy’n ymwneud â thanwydd ffosil yn yr amser byrraf posibl? Rwy'n galw am ddadfuddsoddi o fewn 2 flynedd.

Nodwyd bod Polisi Buddsoddi Cyfrifol uchelgeisiol bellach wedi ei fabwysiadau a bod tystiolaeth sylweddol o’r camau y mae’r Gronfa eisoes wedi ei gymryd i weithredu. Gan fod asedau’r Gronfa’n cael eu buddsoddi’n fyd-eang, ac ar draws llawer o sectorau, bydd lleihau allyriadau carbon y Gronfa yn fwy heriol nag y byddai i sefydliad unigol. Felly, ni fydd modd ymrwymo i ymateb yn gynt oherwydd y dyletswydd ymddiriedol.

2.    O ystyried y swm sylweddol o dystiolaeth sy'n dangos nad yw ymgysylltu yn arf effeithiol i sicrhau bod cwmnïau'n tynnu'n ôl o danwydd ffosil yn enwedig o fewn yr amserlen sydd ei hangen, a fydd Cronfa Bensiwn Gwynedd yn hytrach yn canolbwyntio ei ymdrechion ar ddadfuddsoddi?

Tanlinellwyd drwy gyfeirio at esiamplau yn yr atodiad i’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol sy’n monitro cynnydd rheolwyr asedau Cronfa Bensiwn Gwynedd bod dadfuddsoddi eisoes yn cael ei weithredu, lle’n bosibl, gyda pharch dyledus i’r dyletswydd ymddiriedol ac amodau cyfreithiol eraill.

Cadarnhawyd barn y Pwyllgor a’r swyddogion fod ymgysylltu yn arf hanfodol, ac ymhelaethwyd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi comisiynu cwmni Robeco i ymgysylltu gyda rheolwyr â'r cwmnïau rydym yn buddsoddi ynddynt i ddylanwadu a gwella eu gweithgareddau ac ymddygiad ar faterion yn ymwneud â hinsawdd, ynghyd a cheisio dylanwadu’r cwmnïau hynny gan eu hannog i symud o danwydd ffosil i ynni adnewyddol.

3.    A ellir darparu diweddariad ar: (a) faint o arian y mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi’i fuddsoddi ar hyn o bryd mewn asedau sy’n ymwneud â thanwydd ffosil a (b) datblygiad polisi buddsoddi cyfrifol y gronfa?

(a) Cadarnhawyd bydd gofynion adrodd penodol ‘TCFD’ ar gyfer cronfeydd CPLlL yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn nesaf, ac yn y cyfamser, nid oes dull cydnabyddedig o adrodd yn gyson.

(b) Ymhelaethwyd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol uchelgeisiol bellach wedi ei fabwysiadau.

4.    A yw'r Pwyllgor yn cydnabod bod y rhyfel yn Wcráin, yr ansicrwydd ynghylch cyflenwad olew a nwy a'r ymgyrch o'r newydd i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn tynnu sylw at natur ansicr buddsoddiadau tanwydd ffosil?

Nodwyd nad y rhyfel yn unig sydd wedi amlygu’r ansicrwydd yma, bod y Pwyllgor eisoes wedi ystyried natur ansicr buddsoddiadau tanwydd ffosil, a bod camau perthnasol eisoes wedi’u cymryd, fel y’i amlinellwyd yn y Polisi Buddsoddi Cyfrifol ai’r atodiad sy’n monitro cynnydd.

5.    A fyddech chi'n ystyried strategaeth o restru'r cwmnïau mwyaf llygredig o'ch portffolio buddsoddi ac ymuno â'r NZAOA (Cynulliad y Cenhedloedd Unedig - Net Zero Asset Owner Alliance)

Bod Cronfa Gwynedd yn derbyn cyngor ac yn gweithredu yn unol â’r cyngor hynny. Nodwyd nad oedd bwriad ymuno gyda NZAOA ar hyn o bryd, ond fod parodrwydd i ymchwilio i’w rhinweddau ac i rannu gwybodaeth gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru, pe bai’n fuddiol.

Gwerthfawrogwyd diddordeb y cyhoedd yn y pwnc ac anogwyd hwy i gyflwyno eu cwestiynnau yn gynt fel bod modd i’r swyddogion a’r aelodau gael cyfle i baratoi ymatebion llawn.

 

Dogfennau ategol: