Creu
mynedfa gerbydol i'r ffordd
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu
Amodau sylfaenol
yn cynnwys:
5 mlynedd, yn unol
a’r cynlluniau, lefelau, deunyddiau a thirweddu
Cofnod:
Creu mynedfa gerbydol i'r ffordd
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
mai cais ydoedd ar gyfer
creu mynedfa gerbydol newydd i safle anheddol
presennol oddi ar ffordd ddosbarth
3 sy’n rhedeg i’r de o Sarn Mellteyrn,
o Danrallt i Dŷ Fair. Eglurwyd y byddai’r
fynedfa wedi ei lleoli 7.8m i’r de o adeilad allanol presennol gyda giât wedi
ei osod 5m yn ôl o’r
ffordd gyda chlawdd pridd / carreg 1m o uchder ar y ddwy ochr
i “gloch” y fynedfa. Y bwriad yw creu ffordd
i gysylltu o fan parcio presennol yng nghefn yr eiddo.
Nodwyd bod y cais
yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.
Er i’r safle fod o fewn ffin ddatblygu, adroddwyd mai natur cefn gwlad,
amaethyddol sydd iddo ac y byddai’r datblygiad yn y bôn, yn ymestyn ardal ddatblygedig
y pentref i gefn gwlad gan newid natur y dirwedd mewn modd arwyddocaol. Cydnabyddiwyd y bwriedir codi cloddiau newydd yn lle’r
clawdd a gollir fodd bynnag ni ystyriwyd y byddai hynny’n ddigonol i
ddigolledu’r newid gweledol i’r dirwedd a’i hachosir gan y gwaith peirianyddol
sylweddol fydd yn hanfodol i greu’r fynedfa newydd.
Amlygwyd bod y safle
eisoes wedi bod yn destun tri chais cynllunio aflwyddiannus ar gyfer
datblygiadau cyffelyb gan gynnwys un cais a'i gwrthodwyd ar apêl gyda'r
Arolygydd wedi nodi;
"Mae Polisi PCYFF 3 yn disgwyl dyluniad
o ansawdd uchel a bod datblygiad yn cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy,
deniadol sy’n ychwanegu at ac yn gwella cymeriad a golwg y safle, yr adeilad
neu’r ardal, ac yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol. Mae
Polisi AMG 2: Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw
effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd ac y dylai datblygiad geisio cynnal,
gwella neu adfer cymeriad a rhinweddau cydnabyddedig yr ATA. Rwyf o’r farn y byddai’r
cynnig hwn yn gwrthdaro â’r polisïau dywededig hyn."
Nodwyd, er i'r cynnig yma olygu cymryd llai o dir nag y bwriadwyd yn
flaenorol, nid yw egwyddor y cynllun wedi newid yn arwyddocaol a byddai'n
parhau i fod angen tynnu'r ffin bresennol gyda'r briffordd, clirio llystyfiant
a mewn lenwi tir er mwyn sicrhau cyswllt cerbydol rhwng yr ardd a'r fynedfa
newydd - byddai hyn yn digwydd mewn
safle cefn gwlad y tu hwnt i unrhyw ddatblygiad presennol gan olygu y byddai'r
naws drefol yn ymestyn i mewn i'r Ardal Tirwedd Arbennig (ATA). Ategwyd y dylai datblygiadau, ble’n bosibl, ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer
cymeriad cydnabyddedig yr ATA -
ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn andwyol i ansawdd yr ATA ac felly’n groes i
bolisi AMG 2.
Yng nghyd-destun materion
trafnidiaeth a mynediad, er nad oedd ymateb wedi ei dderbyn i'r ymgynghoriad ar
y cais, datganodd yr Uned Trafnidiaeth eu bodlonrwydd gyda chynllun cyffelyb a
fu'n rhan o gais blaenorol. Ystyriwyd fod y cynnig yn cwrdd gydag amcanion
Polisi TRA 4 y CDLl.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth amlygwyd nad oedd gan yr Uned
Bioamrywiaeth wrthwynebiad i’r datblygiad, er eu bod yn nodi y dylid cyfyngu
torri llystyfiant i’r tu allan i’r cyfnod nythu adar ac yn gofyn am welliannau
bywyd gwyllt megis plannu coed / gwrychoedd i fod yn rhan o unrhyw ganiatâd. O
wneud hynny byddai’r datblygiad yn dderbyniol dan bolisi PS19 y CDLl.
Wedi asesu’r bwriad
presennol yn erbyn y polisïau cynllunio perthnasol ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi newid annerbyniol
yn natur y dirwedd a fyddai’n niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal wrth
ddynesu at bentref Sarn Mellteyrn ac felly argymhellwyd gwrthod y cais
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:
·
Nad oedd y cais am fynedfa ychwanegol - roedd bwriad cau'r
fynedfa bresennol
·
Mynedfa bresennol yn beryglus - anodd gweld cyn tynnu
allan - y fynedfa rhwng dau adeilad
ar ongl a thro
·
Amhosib troi tuag at gyfeiriad Rhiw - rhaid troi tuag at Sarn
a throi yn ôl
·
Byddai mynedfa newydd yn gwella’r sefyllfa
ynghyd a goleuo’r gofod sydd ar
hyn o bryd yn dywyll a chul
·
Bod cymdogion gyferbyn a’r fynedfa
wedi cytuno bod y bwriad yn fwy
diogel gyda gwell gwelededd
·
Nad oedd y lluniau a gyflwynwyd yn amlygu'r
lefelau tir yn glir ac na
fyddai angen gwaith sylweddol i adfer y gwaith
·
Nad oedd
bwriad creu man parcio newydd
·
Ni fydd pridd yn cael
ei symud o’r safle - ei angen ar
gyfer creu cloddiau a thirlenwi
·
Bwriad plannu
coed
·
Er bod pedwar cais wedi ei gyflwyno,
dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn - y Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais
oherwydd bod y fynedfa fwriededig yn well, a’r gymuned yn
gefnogol
Darllenwyd llythyr cefnogaeth gan gymydog oedd
yn byw gyferbyn
a’r fynedfa
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu
y cais yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
cefnogi barn y Cyngor Cymuned; bod y cais yn un rhesymol,
bod y fynedfa fwriededig yn fwy diogel
ch) Mewn ymateb i’r
rhesymau gwrthod, amlygodd y Pennaeth Cyfreithiol, o ystyried bod gwrthodiad apêl wedi ei wneud
ar gais blaenorol
bod angen ystyried beth sydd yn
wahanol y tro hwn ac nad oedd
cefnogi barn y Cyngor Cymuned yn
fater cynllunio - rhaid oedd ystyried
rhesymau oedd yn adlewyrchu materion
cynllunio.
-
Byddai’r gwelededd yn gwella o symud y fynedfa
-
Na fyddai’r
fynedfa bwriededig yn creu effaith
niweidiol ar y dirwedd
-
Bod cynnydd
mewn lefelau trafnidiaeth yn dilyn datblygiad twristiaeth 2020 -2022
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
· Nad oedd yr uned drafnidiaeth
wedi mynegi pryder
· Byddai ymweliad safle yn fuddiol
· Bod angen
ystyried diogelwch
· Naws drefol yn ymestyn
i’r ardal weledig?
· Bod y cais
wedi ei wrthod
nifer o weithiau - sefyllfa'r un fath
PENDERFYNWYD Caniatáu
Amodau sylfaenol yn cynnwys:
5 mlynedd, yn unol â’r
cynlluniau, lefelau, deunyddiau a thirweddu
Dogfennau ategol: