Agenda item

Codi adeilad yn lle adeilad presennol (rhannol ôl-weithredol) ar gyfer defnydd fel gweithdy masnachol, storfa, a modurdy, ac hawl ol weithredol ar gyfer ffurfio mynedfa newydd ynghyd a ffordd mynediad ynghyd a dymchwel modurdy a sied

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

Amodau safonol yn cynnwys

 

5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, cwblhau’r fynedfa, defnydd B2 yn unig ac ond i gael ei weithredu gan drigolion Llain Meddygon, pe byddai’r defnydd B2 yn dod i ben rhaid defnyddio’r adeilad ar gyfer dibenion sy’n atodol i Llain meddygon yn unig

 

COFNODION:

Codi adeilad yn lle adeilad presennol (rhannol ôl-weithredol) ar gyfer defnydd fel gweithdy masnachol, storfa, a modurdy, ac hawl ôl weithredol ar gyfer ffurfio mynedfa newydd ynghyd a ffordd mynediad ynghyd a dymchwel modurdy a sied.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y Pwyllgor, yng nghyfarfod 13 Rhagfyr 2021 wedi  penderfynu gohirio ystyriaeth fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i gyflwyno gwybodaeth bellach parthed :

(a) yr angen am weithdy ym Mhenygroes a Bontnewydd,

(b) y bwriad i gau'r fynedfa bresennol i’r tŷ yn barhaol, a

(c) cyfiawnhad dros faint a graddfa'r adeilad.

 

Yn dilyn gohirio y cais, derbyniwyd datganiad pellach gan yr ymgeisydd yn egluro'r pwyntiau uchod yn Chwefror 2022.  Adroddwyd mai cais ôl weithredol ar gyfer codi gweithdy diwydiannol (dosbarth defnydd B2) ar leoliad adeilad amaethyddol blaenorol oedd dan sylw. Byddai’r gweithdy newydd yn mesur 20 medr o hyd, 12 medr o led a 5.2 medr i’r crib ac yn cael ei adeiladu o fframwaith ddur wedi ei gorchuddio a sitiau dur ac yn cael ei ddefnyddio ar  gyfer busnes yr ymgeisydd. Nodwyd bod fframwaith y gweithdy wedi ei godi eisoes.

 

Tynnwyd sylw at Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (Gorffennaf 2010) gyda pharagraff 3.1.2 yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio gefnogi arallgyfeirio yn yr economi wledig fel ffordd o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth leol, cynyddu ffyniant economaidd lleol a lleihau'r angen i deithio i weithio. Dylai'r Cynllun Datblygu hwyluso arallgyfeirio'r economi wledig drwy ddiwallu anghenion y diwydiannau gwledig traddodiadol a mentrau newydd, wrth leihau'r effeithiau ar y gymuned leol a'r amgylchedd. Nodwyd bod paragraff 3.1.4 o'r NCT yn nodi bod llawer o fusnesau mewn ardaloedd gwledig yn fach, gyda hunangyflogaeth yn gyffredin gyda’r busnes yn aml yn cael ei weithredu o adref, gan ddarparu model busnes cynaliadwy. Dylid cefnogi ceisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd gweithio o adref ar yr amod nad yw amwynder lleol yn cael ei beryglu i raddau annerbyniol.

 

Amlygwyd bod Polisi Cyf 6 yn rhestru meini prawf sydd angen cydymffurfio a hwy ac yn annog datblygiadaiu ar raddfa fach sy’n gwneud defnydd priodol o adeiladau sy’n bodoli yn barod ac sy’n gweddu a’r ardaloedd gweledig.

 

Yng nghyd-destun Llain Meddygon ymddengys bod y rhesymau dros y bwriad i godi'r uned ddiwydiannol yng nghartref yr ymgeisydd yn deillio o amgylchiadau personol ac nad yw, yn nhermau cynllunio yn hanfodol i’w leoli yng nghefn gwlad. Ymddengys bod y busnes yn cael ei redeg o ystâd ddiwydiannol Peblig Caernarfon ond oherwydd cyflwr gwael yr adeilad roedd bellach wedi ei  ail leoli mewn Uned ym Mhenygroes.

Nodwyd bod gwraig yr ymgeisydd yn anabl ac angen gofal drwy'r dydd a byddai'r datblygiad yn caniatáu iddo weithio a chynnal ei fusnes ynghyd a bod wrth law i edrych ar ôl a gofalu am ei wraig. Ef yn unig fyddai’n gweithio o’r gweithdy bwriededig ym Montnewydd.

 

Cydnabuwyd y wybodaeth ychwanegol, ond ni ystyriwyd bod yn newid y farn bod cyfiawnhad yr ymgeisydd dros y bwriad yn troi o amgylch ei anghenion personol yn hytrach nac angen cynllunio gwirioneddol i sefydlu uned ddiwydiannol newydd yng nghefn gwlad agored. Ystyriwyd bod y cais yn groes â pholisi PCYFF1, PCYFF2 a CYF6 o fewn CDLl.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:         

·      Cadarnhau nad oedd uned bellach yn Peblig - y busnes bellach wedi ei gofrestru ym Mhenygroes

·      Bod y gwaith o sefydlu prototype yn cael ei wneud yn Bontenwydd ac yn cael ei gynhyrchu ym Mhenygroes

·      Byddai gweithio ym Montnewydd yn hwyluso bywyd personol yr ymgeisydd

·      Bod yr ymgeisydd yn cyflogi 9 o weithwyr

·      A yw 20m yn rhy fawr? Yn addas ar gyfer peiriannau gwaith

·      Nad oedd gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned

·      Rhaid rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn wneud

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad gydag awgrym i gynnwys amodau, mai preswylwyr Llain Meddygon yn unig fydd yn cael gweithredu o’r safle a nodi terfyn amser ar waith diwydiannol ar y safle

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen gwarchod swyddi o safon uchel

·         Bod y sefyllfa yn dderbyniol

·         Bod y fframwaith presennol yn debyg iawn i’r un blaenorol

 

PENDERFYNWYD Caniatáu

 

Amodau safonol yn cynnwys

 

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, cwblhau’r fynedfa, defnydd B2 yn unig ac ond i gael ei weithredu gan drigolion Llain Meddygon, dim storio tu allan a pe byddai’r defnydd B2 yn dod i ben rhaid defnyddio’r adeilad ar gyfer dibenion sy’n atodol i Llain meddygon yn unig

 

Dogfennau ategol: