Addasu
Adeilad yn Uned Gwyliau
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod:
1.
Ystyrir bod y bwriad yn groes i
ofynion meini prawf 2 (i) a (ii) o Bolisi TWR 2 yn ogystal a maen prawf 3(i) o
Bolisi CYF 6 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mon, 2017 ac i'r
cyngor a gynhwysir yn y dogfennau Canllaw Cynllunio Atodol: Ail-adeiladu Tai a
Throsi yng Nghefn Gwlad a Nodyn Cyngor Technegol 23: Datblygu Economaidd
oherwydd cyflwr bregus ac adfeiliog y strwythur presennol.
2.
Mae’r bwriad yn golygu creu uned
gwyliau newydd yng nghefn gwlad agored i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni
ystyrir fod y bwriad yn gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei
fod yn leoliad anghynaladwy ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar
ddefnyddio eu cerbydau preifat. Nid yw’r bwriad felly, yn cydymffurfio gyda
gofynion perthnasol polisïau PS 14 a PS 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllawiau Cynllunio
Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid a Cynnal a chreu cymunedau nodedig a
chynaliadwy, Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth a Pholisi Cynllunio Cymru,
Argraffiad 11, 2021.
Cofnod:
Addasu
Adeilad yn Uned Gwyliau gan gynnwys gwaith cysylltiedig o ddarparu llecyn
parcio a gosod system drin
garthffosiaeth preifat.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ail gyflwyniad o
gais a wrthodwyd llynedd ar gyfer addasu ag ymestyn adfail i uned wyliau hunan
gynhaliol yn Uwch Hafoty, Trefor. Tynnwyd
sylw at strwythur yn adfail oedd heb do a chyda mynediad di-rwystur iddo. Eglurwyd y byddai ei drosi a’i ymestyn yn
golygu codi tô a simneau
newydd, fyddai’n debygol o fod yn uwch na'r bwthyn gwreiddiol a bod bwriad
cadw’r agoriadau gwreiddiol a gosod ffenestri to yn y to newydd.
Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ar lethrau gogleddol serth Yr Eifl
i'r de orllewin o bentref Trefor gyda ffordd fynediad cyhoeddus cul a serth yn
arwain i fyny o'r pentref - trac mynediad i’r safle ei hun hefyd yn serth
ac yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Saif
y safle o fewn yr AHNE, Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac
yn agos i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Amlygwyd mai prif faterion y cais oedd cyflwr ac addasrwydd y strwythur
ar gyfer ei ddatblygu. Nodwyd bod Adroddiad Strwythurol wedi ei dderbyn gan
berson cymwys sy'n ymwneud ac arolwg o'r safle gan hefyd nodi fod twll prawf
wedi ei dyllu rywdro yn y gorffennol (does dim dyddiad pendant) sydd yn
cadarnhau fod sylfeini'r adeilad wedi eu gosod ar siâl. Daw'r Arolwg i'r
canlyniad oherwydd trwch y waliau presennol a'r ffaith fod y sylfeini ar graig,
fod strwythur y tŷ yn solet ac y byddai ail doi ag ail bwyntio waliau,
ynghyd a lleihau tir i gefn yr adeilad yn ei wneud yn drigiadwy.
Tynnwyd
sylw at hanes Cynllunio helaeth y safle. Amlygwyd bod tri chais arall ac apêl
hefyd, i gyd wedi eu gwrthod i drosi’r adfail i dŷ gyda’r un egwyddorion
yn berthnasol boed yn troi i dŷ neu uned wyliau. Ystyriwyd bod y strwythur
wedi colli ei statws preswyl ers blynyddoedd maith gyda’r cofnod gwrthodiad
cyntaf yn dyddio nôl i 1989, sef 32 mlynedd yn ôl sy’n cyfeirio at y strwythur
fel adfail bryd hynny; bod gwybodaeth o fewn yr apêl a wrthodwyd yn 2009 yn
nodi fod y defnydd preswyl wedi darfod yn yr 1960au tra bod y to wedi dymchwel
yn 1977.
Cyfeiriwyd at Canllaw Cynllunio Atodol Ailadeiladu Tai a Throsi
Adeiladau yng Nghefn Gwlad, sy’ n rhoi arweiniad clir ar gyfer trosi adeilad yn dŷ na yn llety gwyliau, sydd yn datgan,
Bydd rhaid i unrhyw
adeilad a fwriedir ei drosi yng nghefn gwlad fod yn adeilad parhaol gydag
adeiladwaith cadarn. Ni chaniateir datblygiadau sydd yn cynnwys gwaith
ail-adeiladu sylweddol, gan y byddai hynny gyfwerth ag adeiladu adeilad o’r
newydd mae’n mynd ymlaen i ddweud Ni fydd adeilad yng nghefn gwlad sydd mewn
cyflwr mor adfeiliedig bod angen ail-adeiladu rhannu sylweddol ohono neu ei
ailadeiladu’n llwyr yn addas.
O ystyried yr hanes cynllunio a’r penderfyniad apêl, sydd wedi datgan yn
gyson dros y blynyddoedd na fyddai ail ddefnyddio'r adfail yn dderbyniol, mae'n
amlwg nad yw'r safle yn addas i'w ddatblygu. Codwyd pryderon am gyflwr yr
adeiladwaith yn yr apêl bron i 13 mlynedd yn ôl, felly, mae'n sefyll i reswm
nad yw'r cyflwr wedi gwella dros y blynyddoedd ac fwy na thebyg ei fod o wedi
dirywio gan ei fod yn agored iawn i’r elfennau mewn lleoliad o’r fath. Nid yw
canlyniadau'r Adroddiad Strwythurol wedi
argyhoeddi yn ddi-amheuol y gellid addasu'r
strwythur presennol heb ymgymryd a gwaith strwythurol helaeth felly gellid
dadlau y byddai ail sefydlu'r strwythur gyfystyr a chodi tŷ newydd yng
nghefn gwlad.
Ystyriwyd
bod y bwriad i drosi yn annerbyniol oherwydd cyflwr bregus y strwythur a’i
leoliad yn anghynaladwy yng nghefn gwlad i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd ac
felly yn gyson a phenderfyniad a chanlyniadau blaenorol, argymhellwyd gwrthod y
cais.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd yn berson lleol ac yn adeiladwr - yn credu yn
gryf mewn gwarchod cymeriad a natur cefn gwlad
·
Nad oedd bwriad ymestyn yr eiddo – cadw
ar yr un ôl troed
·
Nad oedd gwrthwynebiadau -
y Cyngor Cymuned a’r AHNE yn gefnogol
·
Bod y ceisiadau a wrthodwyd yn cynnig estyniad - cais i addasu sydd yma heb ehangu
·
Yr adroddiad strwythurol yn nodi waliau
a sylfeini cadarn i gynnal to newydd
·
Adfer yn unig – dim gwaith helaeth
·
Bod yr eiddo yn wag ers blynyddoedd, ond posib ei adfer a dod yn
ôl i ddefnydd yn hytrach na’i chwalu a
llygru’r dirwedd
·
Angen cefnogi pobl leol - i’w cadw yn lleol
c) Cynigiwyd ac eilwiyd gwrthod y cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod:
1.
Ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion meini
prawf 2 (i) a (ii) o Bolisi TWR 2 yn ogystal â maen
prawf 3(i) o Bolisi CYF 6 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn,
2017 ac i'r cyngor a gynhwysir yn y dogfennau Canllaw Cynllunio Atodol:
Ail-adeiladu Tai a Throsi yng Nghefn Gwlad a Nodyn Cyngor Technegol 23:
Datblygu Economaidd oherwydd cyflwr bregus ac adfeiliog
y strwythur presennol.
2.
Mae’r bwriad yn golygu creu uned gwyliau newydd yng nghefn gwlad agored
i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir fod y bwriad yn gwneud defnydd o
safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn leoliad anghynaladwy ble byddai’r
mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau preifat. Nid yw’r
bwriad felly, yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol polisïau PS 14 a PS 5
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a
gynhwysir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid
a Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy, Nodyn Cyngor Technegol 18:
Trafnidiaeth a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 11, 2021.
Dogfennau ategol: