Cais ar gyfer
newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad
toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
Amodau sylfaenol yn
cynnwys;
5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, defnydd
teithiol yn unig, defnydd gwyliau yn unig a cadw cofrestr, tymor gwyliau 1
Mawrth – 31 Hydref
Cofnod:
Cais ar
gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 18 uned gan gynnwys darparu
adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer
datblygu maes carafanau teithiol newydd. Byddai’r bwriad yn cynnwys defnyddio
cae amaethyddol ar gyfer gosod 18 carafán deithiol, adeilad toiledau, gwella
mynedfa bresennol a gwaith tirlunio ar hyd clawdd / gwrych presennol.
Disgrifiwyd y cae ble bwriedir lleoli y carafanau teithiol yn weddol wastad
Nodwyd bod y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i
bwyllgor 22/11/2021 lle gohiriwyd ystyriaeth er trafod y mater gyda’r
ymgeisydd. O ganlynaid, derbyniwyd manylion pellach
ar ffurf cynllun safle diwygiedig yn dangos
manylion tirlunio ynghyd a ail leoli rhes carafanau ar hyd terfyn gogledd ddwyreiniol
ac adroddiad diogelu coed (21/101/22).
Roedd yr ymgeisydd wedi datgan bwriad plannu planhigion ar hyd y terfyn
de dwyreiniol; byddai'r adeilad toiled yn cael ei osod ger y fynedfa ac yn
mesur 11 medr o hyd a 3.75 medr o led ac na fydd bwriad adeiladu trac fel
ffordd mynediad mewnol na llecynnau caled ar gyfer y carafanau teithiol
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan ei fod yn ymwneud
â lleoli unedau teithiol ar dir sy’n mesur mwy na 0.5 hectar. Dynodwyd y safe fel Ardal
Safle Bywyd Gwyllt ac mae’r tiroedd i’r de gorllewin wedi eu dynodi yn Ardal
Tirwedd Arbennig. Bwriedir cynnal gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r ffordd
sirol dosbarth 3 cyfochrog.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, amlygwyd er y bwriad o blannu planhigion
ychwanegol ar y cloddiau er mwyn tewychu a chryfhau'r terfynau presennol, na
fyddai hynny yn creu sefyllfa barhaol ac na fyddai’n ddigonol ar gyfer bodloni
amcanion polisi'r Cyngor ar reoli effaith y bwriad ar gefn gwlad. Ystyriwyd nad
yw gwrych yn nodwedd barhaol nac sylweddol o ran ei wneuthuriad a gallai gael
ei dorri neu niweidio yn ddamweiniol.
Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu’n andwyol ar gymeriad a naws cefn
gwlad y tirlun lleol ac felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF3, TWR 5 a PS19
parthed ei effaith ar yr amgylchedd naturiol lleol. Er y derbyniwyd cynllun
safle diwygiedig yn dangos manylion plannu, ni ystyriwyd y byddai yn datrys
pryderon parthed effaith y bwriad ar y tirlun (sydd yn farn sydd yn cael ei
rannu gan y Swyddog Coed). Bydd unrhyw blannu ychwanegol yn cymryd amser
helaeth i sefydlu ac ni fyddai sicrwydd bydd yn cydio na pha mor llwyddiannus
bydd y plannu yn sgrinio’r safle.
Nid
oedd y wybodaeth ychwanegol wedi argyhoeddi’r swyddogion bod y bwriad i sefydlu
maes carafanau teithiol ar gyfer 18 uned yn dderbyniol ac argymhellwyd i wrthod
ar sail y byddai’r bwriad oherwydd ei leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd yn
sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad gan gael effaith
niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr ardal wledig.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais
c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Mai’r effaith weledol oedd y prif fater dan ystyriaeth
·
Bod y safle wedi ei sgrinio gan goed
aeddfed
·
Bod y cais yn un am faes tymhorol –
byddai’r coed a’r gwrychoedd yn llawn ar yr adegau yma
·
Bod
yr honiad o’r maes yn ‘amlwg’ yn gamarweiniol
·
Byddai modd adfer gwrych neu glawdd
sydd wedi ei niweidio drwy osod amod yn nodi bod angen cwblhau gwaith cynnal a
chadw
·
Os nad oes effaith ar gymdogion – pwy
felly?
·
Byddai tocio a chynnal y gwrych wrth y
fynedfa yn gwella gwelededd
·
Y cais yn dderbyniol
PENDERFYNWYD
Caniatáu
Amodau
sylfaenol yn cynnwys;
5 mlynedd,
yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, defnydd teithiol yn unig, defnydd
gwyliau yn unig a cadw cofrestr, tymor gwyliau 1 Mawrth – 31 Hydref
Dogfennau ategol: