Adeiladu
tŷ fforddiadwy
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones
Penderfyniad:
Caniatáu
BYDD Y CAIS YN
CAEL EI GYFLWYNO I GYFNOD O GNOI CIL
Cofnod:
Adeiladu
tŷ fforddiadwy
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar
gyfer adeiladu tŷ fforddiadwy (4 ystafell wely) ar dir ger Uwch y Dôn,
Pistyll sydd wedi ei ddynodi yn bentref
Clwstwr yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Nodwyd bod
y cais wedi ei drafod ym mhwyllgor 13
Rhagfyr 2021, lle gohiriwyd y cais er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth gan
yr ymgeiswyr i brofi eu hangen am dŷ fforddiadwy. Yn dilyn y Pwyllgor
derbyniwyd gwybodaeth ariannol, Gwerthusiad Llyfr Coch a Phrisiad ar gyfer eu
tŷ presennol. Derbyniwyd hefyd Cynllun Diwygiedig yn newid gosodiad y
tŷ, cwtogi maint y llain a newid triniaeth y ffiniau ynghyd ag Adroddiad
Ecolegol gan fod y tir wedi ei adnabod fel Safle Bywyd Gwyllt. Ail ymgynghorwyd
ar y wybodaeth newydd ac fe dderbyniwyd llawer o gefnogaeth leol.
Adroddwyd
nad oedd amheuaeth fod yr ymgeisydd yn berson lleol wedi ei fagu ym Mhistyll,
ond prif fater gyda’r cais oedd angen fforddiadwy y teulu am y tŷ gan eu
bod eisoes yn berchen ar gyn dŷ Cyngor yn Nefyn sy’n destun amod lleol
157.
Adroddwyd
bod y cais yn cwrdd â llawer o feini prawf prif bolisi TAI 6, ond bod Tai Teg wedi
ail asesu’r ymgeiswyr ar y wybodaeth ariannol ddiweddaraf ac yn dod i’r
casgliad nad oedd yr ymgeiswyr yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Cyflwynwyd y
rhesymau canlynol - bod y teulu mewn eiddo addas ar gyfer maint y teulu, bod yr
eiddo yn fforddiadwy ac nad oes unrhyw anghenion penodol ganddynt.
Amlygwyd
bod prisiad llyfr coch ar gyfer tŷ arfaethedig wedi ei gyflwyno yn nodi y
byddai’r pris marchnad agored yn debygol o fod yn £315,000. Er na dderbyniwyd
ymateb gan yr Uned Strategol Tai i’r ymgynghoriad, awgrymwyd y byddai angen
disgownt o tua 50% i ddod a’r pris yn fforddiadwy i £157,000 (fyddai’n
fforddiadwy ar gyfer eiddo canolradd). Nodwyd fod y Cynllun Datblygu Lleol ond
yn cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy lle gellid sicrhau eu bod yn aros yn
fforddiadwy am byth. Mewn lleoliad o’r fath gyda golygfeydd arfordirol all
ddylanwadu ar bris y tŷ i’r dyfodol, ni ellid bod yn sicr y byddai’r
tŷ yma yn parhau’n fforddiadwy i’r dyfodol.
Eglurwyd
bod y newidiadau i faint a thriniaeth ffiniau’r llain yn ogystal â chanlyniadau
ac argymhellion yr Adroddiad Ecolegol a gyflwynwyd i gyd yn dderbyniol a bod
maint a dyluniad y tŷ, mwynderau preswyl a materion ffyrdd yn dderbyniol.
Fodd bynnag, nid oedd hyn yn goresgyn problem elfennol y cais - nid oedd yr ymgeiswyr yn cwrdd â’r gofynion
i fod mewn angen fforddiadwy.
Derbyniwyd
y byddai gwerthu eu tŷ presennol
sy’n destun amod 157 yn rhyddhau tŷ i drigolion lleol, fodd bynnag nid
oedd hyn yn cyfiawnhau caniatáu adeiladu mewn lleoliad eithriad cefn gwlad.
Derbyniwyd hefyd bod y sefyllfa yn rwystredig iawn i’r ymgeiswyr a’u dymuniad i
symud, ond ni ellid gwyro oddi wrth y polisïau .
Ar sail
asesiad ac ymateb diweddaraf Tai Teg, argymhellwyd gwrthod y cais gan nad oedd
yr ymgeiswyr wedi profi gwir angen am dy fforddiadwy.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn un unigryw
·
Bod y teulu ar hyn o bryd yn byw yn
Nefyn o dan amgylchiadau anodd iawn, yn derbyn ymosodiadau gwrthgymdeithasol
·
Rhieni'r ymgeisydd yn cynnig darn o dir i adeiladu cartref a
gwella ansawdd bywyd - un o brif amcanion Strategaeth Tai Gwynedd
·
Yr ymgeisydd yn cynorthwyo ei dad ar y fferm
·
Tŷ Cyngor gwag amod 157 - hyn yn cyfyngu pwy all fyw yno
·
Cadarnhad wedi ei dderbyn gan yr Adran Tai i brynu tŷ yn ôl i
feddiant - tŷ ychwanegol i deulu arall lleol
·
Nifer wedi ymdrafferthu i ysgrifennu i gefnogi’r cais
·
Yr ymgeisydd wedi ymateb i ofynion y
Swyddogion – wedi cyflwyno adroddiadau a gwybodaeth ychwanegol
·
Yr ymgeisydd wedi dangos yn glir ei
angen am gartref
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:
·
Byddai tŷ yn cael ei ryddhau i bobl leol
Mewn
ymateb i’r cynnig i ganiatáu, nododd y Pennaeth Cynorthwyol, byddai hyn yn
ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer ymgeiswyr sydd yn gymwys ar gyfer
tŷ fforddiadwy. Nodwyd nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ac felly ni fydd yn
gallu trigo yn y tŷ.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu yn groes i argymhelliad y swyddogion
Nododd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y
pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach
gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r cais.
Dogfennau ategol: