Trosi adeilad allanol i
ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol presennol,
gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu
Amodau sylfaenol
yn cynnwys;
5 mlynedd, yn unol
a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, deunyddiau, cyfyngiad PD
Cofnod:
Trosi
adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa
gerbydol presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn
cyfeirio penderfyniad y Pwyllgor 10-01-22 i gyfnod o gnoi cil. Gohiriwyd penderfynu’r cais er galluogi'r
ymgeisydd baratoi gwerthusiad marchnad agored o’r eiddo arfaethedig er mwyn
asesu os byddai modd pennu disgownt i’w wneud yr eiddo yn fforddiadwy. Pwrpas
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd i amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau
posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol
ar y cais.
Yn dilyn cyfeirio’r cais, ysgrifennwyd at asiant yr ymgeisydd ar
12/01/22 yn gofyn am brisiad marchnad llawn o'r eiddo er galluogi'r Cyngor
asesu os byddai'n bosib sicrhau i'r eiddo aros yn fforddiadwy yn barhaol drwy
sicrhau disgownt priodol ar y pris farchnad.
Derbyniwyd ymateb gan yr asiant dyddiedig 11/02/22 yn cynnwys
Gwerthusiad Marchnad Agored wedi ei baratoi gan brisiwr cofrestredig i safonnau'r RICS (Royal Institute
of Chartered Surveyors) gan
ddilyn yr arddull rhyngwladol cydnabyddedig "Red Book".
Daethpwyd i'r casgliad mai pris marchnad teg ar gyfer yr eiddo wedi ei gwblhau
yn unol â'r cynlluniau a gyflwynwyd byddai £275,000.
Wedi ystyried y diffiniad o dŷ fforddiadwy canolradd yn y CDLl fel tŷ lle mae’r prisiau neu renti’n uwch na
rhenti tai cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu renti ar y farchnad agored, a
bod yr ymgeisydd yn yr achos hwn wedi ei asesu gan Tai Teg i fod yn gymwys am
eiddo fforddiadwy, ni ystyriwyd y byddai pris, gyda disgownt o 50%, yn
afresymol o safbwynt sicrhau y byddai’r eiddo ar gael i berson lleol ar incwm
na fyddai’n caniatáu mynediad i’r farchnad dai agored. Ystyriwyd y byddai cynnwys disgownt o 50% mewn Cytundeb 106 a fyddai’n
cyd-fynd a chaniatâd yn cadw’r eiddo’n fforddiadwy ac o fewn pris rhesymol i
rai o’r gymuned sydd wedi eu hadnabod i fod yn gymwys am eiddo o'r fath um dderbyniol.
Er cyfiawnhad dros yr elfen fforddiadwy, ystyriwyd nad oedd yr adeilad
presennol yn strwythur addas i'w drosi'n uned breswyl yn unol â pholisïau lleol
a chenedlaethol. Nodwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored ar adeilad mewn
cyflwr adfeiliedig sydd wedi ymdoddi i'r dirwedd. Eglurwyd bod polisi lleol a
chenedlaethol yn gwbl eglur mai dim ond tai ar gyfer gwasanaethu mentrau
gwledig neu ddatblygiad un-blaned y dylid eu hystyried yng nghefn gwlad agored
ac nad oedd cyfiawnhad o'r fath wedi ei gynnig yn yr achos hwn.
Ategwyd bod cynnydd yn yr arwynebedd llawer yr adeilad o thua 50% yn
deillio o’r cynllun dan sylw a hyn yn groes i ofynion polisi TAI7 o’r Cynllun
Datblygu Lleol sydd yn nodi na ddylid fod angen estyniadau helaeth i alluogi’r datblygiad
a dylai’r adeilad yn ei ffurf bresennol (o ran maint) fod yn addas. Mae'n
amlwg, o'r angen am estyniadau helaeth, nad yw’r cais yn cwrdd gyda'r meini
prawf gorfodol ar gyfer derbyn cynlluniau i drosi adeiladau traddodiadol yng
nghefn gwlad agored i ddefnydd preswyl.
Amlygwyd y
risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y
swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael ei asesu yn drylwyr
gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod
gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau mabwysiedig
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a chenedlaethol
a pholisïau cynllunio cenedlaethol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau
canlynol:
·
Mai unfryfol
oedd y penderfyniad i gefnogi’r cais ym Mhwyllgor 10-01-22
·
Bod pris marchnad agored wedi ei
gyflwyno
·
Yr ymgeisydd yn gymwys am dŷ
fforddiadwy
·
Hwn yn gyfle euraidd i berson ifanc
lleol gael tŷ
·
Anobeithiol yw prynu tŷ yn lleol
yn ward Botwnnog – angen disgownt o 50% i gyfarch yr elfen fforddiadwy – hyn yn
amlygu sefyllfa tai Penllŷn
·
Pam fyddai ‘tŷ gwyliau’ yn fwy derbyniol na
‘tŷ cartref’?
·
Bod adroddiad strwythurol yn nodi bod y
tŷ yn addas i’w drosi
·
Rhaid cefnogi pobl lleol
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais
Wrth ystyried caniatáu y cais, nododd y Penaneth Cyfreithiol bod rhaid pwyso a mesur y rhesymau
dros ganiatáu yn ofalus fel modd o atal gosod cynsail.
Cynigiwyd opsiwn b - Caniatáu’r
cais gyda chytundeb 106 - Yr unig ffordd o allu gwneud y tŷ yn fforddiadwy
yw os rhoddir disgownt uchel megis 50% arno.
ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Rhaid cadw ein cymunedau Cymreig yn fyw
·
Gormod o siarad am gefnogi pobl lleol –
rhaid gweithredu
·
Hwn yn gyfle i roi bywyd newydd i
adfail
·
Bod yr adroddiad strwythurol yn nodi
bod yr adfail yn gadarn i’w atgyweirio
·
Bod ymdrech wedi ei wneud i ymateb i
ofynion y Pwyllgor
·
Hwn wedi bod yn gartref Cymreig – cyfle
iddo fod yn gartref Cymreig eto
·
Os am neiwd - rhaid herio polisiau cenedlaethol
·
Bod y cais yn ymateb i’r angen am dai
fforddiadwy yn yr ardal
Mewn ymateb i gynnig o ganiatáu y cais a phatrwm o
benderfyniadau croes i ganllawiau lleol a chenedlaethol, amlygodd y Pennaeth
Cynorthwyol y posibilrwydd y gall y penderfynaid
orwedd gyda Llywodraeth Cymru – y cais yn groes i bolisïau ac o osod cynsail
beryglus.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r adroddiad
strwythurol cadarnhaol a’r swyddogion yn nodi yn wahanol, nodwyd bod yr
adroddiad yn cadarnhau bod posib atgyweirio’r adeilad ond polisiau
yn herio’r angen am waith tu hwnt i godi waliau a thô
– estyniadau helaeth o fewn y cais yma ac felly yn groes i bolisïau.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu gyda chytundeb 106
Yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:
O blaid y
cynnig i ganiatáu y cais (13) Y Cynghorwyr: Stephen Churchman, Elwyn Edwards,
Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Gareth T Jones, Huw Wyn
Jones, Eric M Jones, Cai Larsen, Edgar Owen, Gareth A Roberts, Eirwyn Williams
ac Owain Williams
Yn erbyn y
cynnig i ganiatáu y cais (0):
Atal, (0)
Amodau
sylfaenol yn cynnwys:
5 mlynedd,
yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, deunyddiau, cyfyngiad PD
Dogfennau ategol: