I ystyried
a) adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
b)
adroddiad yr Harbwrfeistr
c) astudiaeth Posibilrwydd Carthu
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau.
a) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr
harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022.
Cyn cychwyn nodwyd
bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn anfon ei ddymuniadau gorau i’r Pwyllgor.
Gobeithiai fod yn ôl yn ei waith cyn diwedd mis Mai. Dymuna’r Pwyllgor anfon eu
dymuniadau a gwellhad buan at Arthur.
Tynnwyd sylw at y
materion canlynol:
Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod
Adroddwyd bod y ceisiadau i gyd wedi
cael eu hanfon i’r cyn-gwsmeriaid a bod rhai eisoes wedi dychwelyd. Bydd y
system Cofrestru Cychod Pŵer a Badau Dŵr Personol ar lein yn cael ei
lansio wythnos yma. Nodwyd bod oedi efo’r system o gadarnhau angorfa ar lein yn
yr holl harbyrau; ychwanegwyd bod y system yn prysur ddatblygu a bydd yn mynd
yn fyw ym mis Mawrth 2023.
Cod Diogelwch
Morwrol Porthladdoedd
Nodwyd bod archwiliadau wedi eu cynnal
gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod statws cod diogelwch Gwynedd wedi ei
gadarnhau. Eglurwyd bod datganiad wedi ei arwyddo gan yr Aelod Cabinet Economi
a Chymuned wedi ei anfon i’r asiantaeth i gadarnhau cydymffurfiaeth â’r cod.
Bydd y cod diogelwch harbyrau yn parhau i gael ei adolygu yn rheolaidd.
Pwysleisiwyd bod y tîm harbyrau yn dibynnu ar fewnbwn aelodau’r Pwyllgor gan
nodi ei bod yn bwysig dod a materion sy’n ymwneud â diogelwch yr harbwr i sylw
Swyddogion.
Holiwyd beth oedd canlyniad yr ymgynghoriad
Cenedlaethol ynglŷn â jet-sgi. Nodwyd bod sylwadau cynhwysfawr wedi eu
cyflwyno i’r Llywodraeth. Rhagwelir y bydd ymateb gan y Llywodraeth tua canol y
flwyddyn a bydd y sylwadau hyn ar gael i aelodau’r Pwyllgor. Ychwanegwyd bod
croeso i aelodau’r Pwyllgor dderbyn copi o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad os
ydynt yn dymuno.
Adroddwyd na fydd digwyddiad y ‘Black
Rock Blast’ yn digwydd eleni ychwaith oherwydd Cofid. Gobeithiwyd ei gynnal y
flwyddyn nesaf. Nodwyd bod y digwyddiad hwn wedi rhoi platfform cadarn i dynnu
sylw at ymddygiad da yn ymwneud a chychod pŵer a jet-sgis.
Gwnaethpwyd sylw am gwynion gafodd eu
derbyn ynglŷn â jet-sgis ble deliodd y Rheolwr Morwrol yn gyflym â’r
cwynion, roedd y Cynghorwyr yn hapus iawn efo’r canlyniad. Anogwyd y Cynghorwyr
i gysylltu â’r tîm harbyrau cyn gynted ag y bo modd os ydynt yn derbyn cwynion
er mwyn gallu ymateb a delio efo’r sefyllfa yn syth. Ychwanegwyd nad oedd nifer
fawr o gwynion wedi eu derbyn a bod llawer o’r cwynion yn ymwneud â diffyg
dealltwriaeth o reoliadau. Gobeithiwyd y bydd Heddwas yn mynychu gwahanol
harbyrau dros gyfnod yr Haf ac yn mynd allan o gwmpas yr arfordir. Nodwyd bod
ail afael yn y cydweithio oedd yn arfer bodoli efo Heddweision yn gam positif.
Materion Staffio
Adroddwyd y bydd yr Harbwr Feistr
presennol yn gadael ei swydd ar y 1af
Ebrill. Bydd angen edrych ar benodi Harbwr Feistr newydd i Abermaw gan
gydnabod y bydd yn her ceisio cael presenoldeb yn yr harbwr mor aml dros y
Gwanwyn a dechrau tymor yr haf. Cymerwyd y cyfle i ddymuno’n dda i’r Harbwr
Feistr yn ei gyrfa gan nodi mai hi yw’r unig Harbwr Feistr sy’n ferch drwy
Gymru. Canmolwyd ei gwaith gan nodi ei bod hi o hyd yn broffesiynol a
brwdfrydig a dymunwyd pob llwyddiant iddi. Gobeithiwyd y bydd yr hysbyseb swydd
allan yn fuan.
Adroddwyd y bydd y cymhorthydd harbwr
yn parhau yn ei swydd am y tro ond bob bwriad ganddo i adael ym mis Medi ac y
byddai hyn hefyd yn gadael bwlch arall. Ychwanegwyd bod y farchnad gyflogaeth
bresennol yn peri pryder gan nad yw pobl yn dueddol o geisio am swyddi. Nodwyd
y bydd angen penodi 5 aelod o staff achlysurol i draeth Abermaw dros gyfnod yr
Haf a chymerwyd y cyfle i ofyn am ddealltwriaeth aelodau’r Pwyllgor a’u
cefnogaeth yn y cyfnod heriol sydd i ddilyn. Efallai bydd angen i’r Rheolwr Morwrol
gynorthwyo yn harbwr Porthmadog ac Abermaw dros y cyfnod ble bydd prinder staff
i sicrhau bod trefniadau yn ddiogel. Dymuna’r Rheolwr Morwrol ddiolch i aelodau’r Pwyllgor am yr holl gefnogaeth sydd wedi ei roi i
staff yr harbwr yn Abermaw dros y blynyddoedd.
Materion Ariannol
Rhannwyd gwybodaeth am sefyllfa
ariannol a chyllidebau'r harbyrau a’r ddau marina hyd at ddiwedd Chwefror 2022.
Soniwyd am y cyllidebau sydd yn bodoli ynghyd a’r targed incwm y gobeithir ei
gyrraedd a manylwyd am y gwariant net sef y gost i’r trethdalwyr er mwyn cynnal
harbwr Abermaw. Cyfeiriwyd at y tanwariant a’r gôr-wariant mewn gwahanol
gategorïau ond yn gyffredinol adroddwyd bod y gyllideb yn edrych yn iach iawn
gyda £8,000 ar ôl yn weddill ym mis Mawrth. Bydd angen cymryd i ystyried
materion staff a thalu anfonebau ond credwyd bod yr harbwr mewn sefyllfa
gyllidol gyfforddus.
Ffioedd a Thaliadau
Nodwyd y bydd ffioedd yn cynyddu 4%
sydd yn llai na’r gyfradd chwyddiant. Eglurwyd bod yr argymhelliad hwn wedi ei
gymeradwyo gan y swyddogion Cyllid a’r Arweinydd Portffolio ac yn aros am
gymeradwyaeth gan Brif Swyddogion y Cyngor. Nodwyd bod gohebu wedi digwydd
efo’r cwsmeriaid er mwyn rhoi rhag rybudd o’r cynnydd. Adroddwyd y bydd y ffi
ar gyfer cychod ymweld yn cael ei gynyddu 20%. Nid oedd unrhyw sylwadau gan yr
Aelodau.
(b)
Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a
wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022, gan
gynnwys materion cynnal a chadw.
Rhedwyd drwy’r adroddiad gan gyfeirio
at y stormydd cryf diweddar ac apeliwyd i aelodau’r Pwyllgor gysylltu â’r tîm
harbyrau os ydynt yn gweld unrhyw beth o’i le yn yr Harbwr. Soniwyd am yr
ymsuddiant yn yr Harbwr ac adroddwyd ar y gwaith sydd yn digwydd yn bresennol
efo Ymgynghoriaeth Gwynedd i wneud gwelliannau.
Cyfeiriwyd at y Pontŵn a’r
dryswch a chamddealltwriaeth diweddar am ei berchnogaeth. Nodwyd bod Awdurdod
yr Harbwr yn awyddus i weithio efo’r Cyngor Tref a’r Clwb Hwylio ar ddefnydd y
Pontŵn; ychwanegwyd bod cryn waith angen ei wneud arno i sicrhau ei
ddiogelwch a’i fod yn adnodd pwysig. Nodwyd bod angen edrych ar reolaeth y
Pontŵn ac osgoi i’r holl gostau o’i gynnal ddisgyn ar y Cyngor.
Adroddwyd ar y cais sydd wedi ei
dderbyn i adeiladu Llithrfa newydd gan Glwb Hwylio Meirionnydd. Nodwyd nad yw’r
gwasanaeth wedi cefnogi’r cais yma ac ni ellir ei ariannu efo refeniw. Bydd y
Rheolwr Morwrol yn trafod ymhellach efo’r Clwb Hwylio.
Sylwadau
gan Aelodau’r Pwyllgor
Nodwyd
bod Cyngor Tref Abermaw heb gymryd perchnogaeth o’r Pontŵn eto, ni all hyn
ddigwydd nes bydd y Cyngor Tref wedi derbyn yr adroddiad ac wedi darganfod os
yw’n ymarferol o ran arian i wneud hyn. Nododd y Rheolwr Morwrol y bydd yn rhaid i
rywun gymryd cyfrifoldeb ac archwilio’r Pontŵn; am y tro bydd staff harbwr
Abermaw yn ei archwilio yn rheolaidd.
Ychwanegwyd
gan un o aelodau’r Pwyllgor bod y Pontŵn yn ased a budd i harbwr Abermaw a
bod angen sicrhau y bydd yn cael ei warchod. Mynegwyd bod y Clwb Hwylio efo
grant ar gyfer y Pontŵn ond pryderwyd bod amodau i’r grantiau; dymunwyd
i’r tîm morwrol edrych mewn i sefyllfa’r grant. Bydd Cyngor Tref Abermaw yn
cysylltu efo’r tîm morwrol pan fydd yr adroddiad wedi ei dderbyn ac i drafod pa
ddatblygiadau fydd yn deillio o hynny. Nododd aelod y Grŵp Mynediad
Traphont Abermaw y byddai’r holl ddogfennaeth wreiddiol a’r cais gwreiddiol ar
gael i bwy bynnag fydd yn cymryd perchnogaeth o’r Pontŵn.
(c)
Astudiaeth Posibilrwydd Carthu
Nodwyd y dylai bawb fod wedi derbyn
copi o’r adroddiad Carthu ac i aelodau gysylltu efo’r Rheolwr Morwrol os ydynt
eisiau copi papur o’r adroddiad. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar
gyfer y disgwyliadau pe bai cynllun i garthu harbwr Abermaw. Ychwanegwyd bod
costau sylweddol iawn i hyn o dros £500,000.
Bydd
astudiaeth bellach angen ei wneud i gydymffurfio â gofynion Cyfoeth Naturiol
Cymru ac efallai bydd angen trwydded forwrol i wneud y gwaith. Nodwyd y bydd
angen edrych ar yr adroddiad yn fanwl a phenderfynu pa lwybr i’w gymryd ac os
ydyw yn briodol i edrych i fuddsoddi i gael astudiaethau pellach ynglŷn â
charthu harbwr Abermaw a pa fudd fyddai yn dod allan o wneud hyn. Nododd y
Rheolwr Morwrol ei fod yn methu cadarnhau y bydd arian ar gael i fuddsoddi
gwaith pellach ar hyn o bryd.
Sylwadau
gan Aelodau’r Pwyllgor
Soniwyd am gynlluniau a
phrosiectau gafodd eu creu flynyddoedd yn ôl gan Gyngor dosbarth Meirionnydd a
holwyd os ydi’r prosiectau yma ar gael yn unrhyw le. Nodwyd bod prosiectau yn dyddio
nôl i 1994 ar gael yn Swyddfeydd y Cyngor a gall y tîm morwrol eu darganfod pe
bai angen. Nodwyd mai’r bwriad bryd hynny oedd rhoi marina yn ardal y Baddon
drwy garthu ac ychwanegu pontŵn. Oherwydd costau hirdymor penderfynodd y
pwyllgor ar y pryd i beidio bwrw mlaen efo’r prosiect yma. Adroddwyd hefyd ar gynllun oedd yn
bodoli i greu ynys yng nghanol yr harbwr i geisio cyflymu’r dŵr i garthu’r
harbwr yn fwy cyflym ond bod y cynllun hwn wedi disgyn drwodd oherwydd ei fod
yn cael effaith amgylcheddol negyddol. Nodwyd bod y cynlluniau hyn ar gael.
Holwyd
beth yw’r camau nesaf a syniad o’r gost. Adroddwyd dros y misoedd nesaf bydd y
tîm morwrol yn ceisio fframio rhaglen ond nad yw’r gwaith yn flaenoriaeth i’r
gwasanaeth ar hyn o bryd oherwydd bod rhaid canolbwyntio ar y sefyllfa staffio
a rhedeg yr harbwr. Nodwyd y byddai costau cychwynnol e.e. costau modelu; bydd
y Rheolwr Morwrol yn cynnal trafodaethau anffurfiol efo Cyfoeth Naturiol Cymru
i geisio derbyn sylwadau a chyngor ar y ffordd ymlaen.
Ychwanegodd
cynrychiolydd y Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion y byddai
yn siomedig pe bai dim byd pellach yn digwydd yn dilyn derbyn yr adroddiad.
Cadarnhaodd hefyd nad oedd arian pellach ar gael ond bod yr arian oedd wedi ei
bennu i garthu harbwr Abermaw dal ar gael sef cyfanswm o £40,000. Nodwyd bod
angen ceisio am yr arian yno cyn mis Medi; bydd y gronfa ariannu yn cau bryd
hynny felly bydd angen i’r tîm morwrol anfon anfonebau cyn gynted ag y bo modd.
Cymerwyd
y cyfle i ddiolch i gynrychiolydd y Grwp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae
Ceredigion am y gwaith a’r gefnogaeth a bydd y Rheolwr Morwrol yn creu'r
anfonebau i dargedu’r arian ar gyfer y gwaith. Ychwanegodd ei fod yn deall y
rhwystredigaeth ond angen darlun clir o’r sefyllfa. Nodwyd na fydd dim yn
digwydd y flwyddyn yma heblaw ymgynghori pellach efo Cyfoeth Naturiol Cymru ac
edrych ar dderbyn costau modelu.
Soniwyd am bosibilrwydd i’w ystyried
yn y tymor hir o osod peipen carthu o dan y lôn, yn debyg i’r hyn gafodd ei
osod ym Mhwllheli sef peipen o’r harbwr i’r Gogledd. Nodwyd bod nifer o
bosibiliadau i’w hystyried ond rhaid trafod ymhellach efo Ymgynghoriaeth
Gwynedd.
Cyfeiriwyd
at y fframwaith adfywio a’r gwaith sy’n digwydd i weld beth yw’r prif faterion
sy’n wynebu ardaloedd. Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned bod yr
adroddiad yn ddefnyddiol ac yn gosod sail o ran be sydd angen ei wneud a’r
ystyriaethau a chostau o ran carthu. Ychwanegwyd bod angen rheoli disgwyliadau
a bod amcan bris ar gyfer y gwaith yn £820,000. Rhaid edrych os oes cyfle i
blethu’r cynllun yma efo cynlluniau ehangach yn yr ardal. Nodwyd bod sail i
wneud gwaith pellach ond bod pryder o ran y gofyn am adnoddau ar gyfer y cam
nesaf; cadarnhawyd y bydd cost o £150,000 i wneud yr astudiaethau pellach.
Cwestiynwyd os oes lle i Lywodraeth
Cymru edrych fewn i faterion fel hyn am fod costau cychwynnol o £150,000 yn
annheg ar y gymuned ac ar y Cyngor.
I gloi nododd aelod o’r Pwyllgor bod
yr adroddiad yn ddefnyddiol ond nad yw’r cynllun mawr yn mynd i helpu yn y
tymor byr. Pryderwyd bod angen gweithredu yn fuan er mwyn osgoi colli rhan o’r
harbwr a’r traeth. Credwyd bod angen rhoi ystyriaeth lawn i’r uchod gan nad
oedd gwario sylweddol wedi bod ar draeth Abermaw ers blynyddoedd.
Dogfennau ategol: