Agenda item

I ystyried materion ar gais yr Aelodau

 

-       Materion a godwyd gan Gyngor Tref Abermaw (e-bost dyddiedig 4ydd o Fawrth 2022)

Cofnod:

Ramp yn Fairbourne

 

Gwnaethpwyd cais gan grŵp cymunedol am arian ar gyfer gosod ramp i alluogi preswylwyr ac ymwelwyr Fairbourne i allu cael mynediad i’r traeth. Nodwyd ei bod yn annheg nad oedd mynediad yn bodoli. Ychwanegwyd bod y Cyngor Cymuned yn ceisio dod o hyd i arian; bydd angen o gwmpas £50,000 i gyllido’r gost.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol ei fod wedi cael trafodaethau efo Clerc Cyngor Cymuned Arthog am y ramp. Adroddodd y bydd angen i unrhyw beth gaiff ei ychwanegu yn Fairbourne fod yn gadarn a pheidio ag yn amharu ar y llif arfordirol a’i bod yn bwysig cael y trefniadau a’r hawliau priodol mewn lle. Nodwyd y byddai angen trwydded forol am ei fod o dan y marc dŵr llanw uchel cymedrig felly mae’n debyg y byddai’r gost yn llawer fwy na £50,000. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cyfarfod efo Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl y Pasg i drafod eu gofynion ar y safle.

 

Eglurodd y Rheolwr Morwrol ymhellach ei fod wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer grantiau arfordirol ond nad oes capasiti i’w ddatblygu ar hyn o bryd. Nododd ei fod yn deall y rhwystredigaeth ac yn gobeithio cael trafodaeth bellach efo’r Cyngor Cymuned yn fuan.

 

Llecynnau yn y compownd a rheoli parcio yn y compownd.

 

Cyfeiriwyd ar y pwyntiau oedd wedi eu codi gan gynrychiolydd Cyngor Tref Abermaw mewn e-bost blaenorol. Nododd y Rheolwr Morwrol nad oedd ganddo ateb pendant i’r cwestiynau am yr uchod. Ychwanegodd y bydd oedi ar y cynlluniau oedd mewn lle oherwydd y bydd Harbwr Feistr newydd yn cael ei benodi a bydd angen caniatáu amser iddyn nhw setlo yn y rôl felly nid oes rhaglen bendant ar hyn o bryd.

 

Cofnodion

 

Holiwyd pwy sy’n derbyn copi o gofnodion y cyfarfodydd ac os ydynt yn cael trafodaeth bellach yn unrhyw le. Adroddwyd bod y cofnodion yn cael eu rhannu efo’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned. Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i’r Aelod Cabinet presennol am ei gefnogaeth dros y blynyddoedd. Ychwanegwyd nad oes trafodaeth bellach yn y Cabinet o ganlyniad i gofnodion y Pwyllgor hwn ond bydd y tîm morwrol yn dod a materion pwysig ger bron y Tîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet pe bai angen.

 

Ras 10km Abermaw

 

Cymerodd gynrychiolydd y Pwyllgor Ras y Tri Copa y cyfle i sôn am y digwyddiad uchod fydd yn cael ei gynnal ar y 9fed o Orffennaf ac am y gwaith parhaus i allu cynnal y digwyddiad. Nodwyd ei fod yn ddigwyddiad mawr i Abermaw gyda gwaith paratoi mewn lle ers blynyddoedd. Ychwanegodd y bydd angen gofyn caniatâd i glirio wal gefn maes parcio’r Clwb Hwylio gan bod llawer o dywod wedi pentyrru yno. Diolchwyd am waith cynrychiolydd y Pwyllgor Ras y Tri Copa a gobeithiwyd y bydd y diwrnod yn llwyddiant.

 

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i aelodau’r Pwyllgor, staff y Cyngor a staff yr harbwr am eu gwaith a’r gefnogaeth dros y blynyddoedd gan mai hwn fydd ei gyfarfod olaf. Dymunodd yn dda i bawb at y dyfodol.

Dymuna’r Rheolwr Morwrol ddiolch i’r Cadeirydd am ei holl waith, ei gyfeillgarwch a’i broffesiynoldeb gan gydnabod y cyd-weithio gwych sydd wedi cymryd lle dros y blynyddoedd. Ategwyd hyn gan aelodau’r Pwyllgor.