I ystyried adroddiad yr Uwch
Swyddog Harbwr
Penderfyniad:
Derbyn a nodi yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau.
a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar
faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn
a ddaw i ben Mawrth 2022.
Yn absenoldeb yr
Uwch Swyddog Harbyrau nododd Rheolwr Gwasanaeth
Morwrol mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer
ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor.
Tynnwyd sylw at y
materion canlynol:
Angorfeydd a chofrestru cychod
Adroddwyd y
byddai’r gwasanaeth cofrestru a thalu ar lein yn agor i gwsmeriaid gofrestru eu
llestr drwy wefan y Cyngor ar y 31ain o Fawrth 2022. Adroddwyd bod y drefn a
gyflwynwyd Mawrth 2021 wedi bod yn llwyddiannus iawn a gwelwyd am y tro cyntaf
restr aros am angorfeydd yn Harbwr Pwllheli.
Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd
Nodwyd bod y
Gwasanaeth yn adolygu’r Côd Diogelwch Morol yn
rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio’n llawn gyda’r
safonau diogelwch yn harbyrau Gwynedd - bydd
archwiliad allanol o’r côd yn cael ei gynnal gan
unigolyn dynodedig. Ategwyd bod datganiad cydymffurfiaeth wedi ei arwyddo ac
wedi ei gyflwyno i’r Asiantaeth Gwylwyr y Glannau. Amlygwyd pryderon difrifol
ynglŷn â chyflwr y cei yn Aberdyfi (dim o ran ei strwythur ond y risg
uchel i ddefnyddwyr eraill). Er bod gwybodaeth ac arwyddion yn ymddangos ar y
cei yn amlygu risgiau a phryderon i ddiogelwch y cyhoedd, rhaid gwneud mwy ac
mae yn anorfod bod yr Uned Morwrol yn gweithredu ar frys i sicrhau diogelwch y
safle. Nodwyd bod y risg o beidio clirio / cadw offer pysgotwyr wedi ei gyfarch
drwy greu lle cadw offer yn y compownd a derbyniwyd
bod angen sicrhau cydweithrediad gan y pysgotwyr i flaenoriaethu diogelwch y
cyhoedd. Ategwyd, pan fydd y gwaith clirio yn dechrau ar gyfer wal y cei, bydd
yr offer yn cael ei symud yn barhaol i’r compownd.
Anogwyd yr Aelodau
i gyflwyno sylwadau rheolaidd ar addasrwydd y Côd
Diogelwch Morol
Materion Staffio
Canmolwyd yr holl
staff (harbwr a thraeth) am eu gwasanaeth drwy gydol y pandemig
i sicrhau diogelwch yr harbwr a’r traeth gan gydymffurfio yn llawn gyda
chanllawiau Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod 2 swydd barhaol yn Harbwr Aberdyfi
gyda bwriad o gyflogi 2 swydd dymhorol yno a 3 yn Nhywyn. Ategwyd, bod ymateb
i’r swyddi wedi bod yn siomedig iawn ond braf oedd cael adrodd bod Mr George
Watson yn dychwelyd - un a phrofiad yn y maes, yn arweinydd tîm cryf ac yn
gyfathrebwr da.
Materion Ariannol
Amlygwyd y
tebygolrwydd y byddai ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr Aberdyfi,
ynghyd a ffioedd lansio cychod pŵer a chychod personol am 2022/23, yn codi
yn unol â chyfradd chwyddiant.
Diolchwyd am yr
adroddiad. Braf oedd adrodd bod y sefyllfa ariannol yn bositif ac er mai bychan
yw’r incwm, bod cyfraniad yr Harbwr a thraeth Aberdyfi yn werthfawr i’r economi
leol.
(b) Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r
materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis
Hydref 2021 a Mawrth 2022, gan gynnwys materion cynnal a chadw.
Diolchodd yr
Harbwr feistr am gefnogaeth yr Uned Forwrol ac am yr holl negeseuon a
dderbyniodd ef a’i deulu yn ystod gwaeledd ei wraig.
Nodwyd bod dau
Hysbysiad Lleol i Forwyr yn weithredol sy'n ymwneud
â'r marciau mordwyo yn y sianel - y gwasanaeth wedi bod mewn cysylltiad gyda
chontractwr lleol i ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol pan fydd y tywydd yn
caniatáu.
Adroddwyd bod
Ymddiriedolaeth yr Outward Bound
wedi cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar yr afon a bod gweithgareddau
pysgota masnachol wedi parhau dros fisoedd y gaeaf. Nodwyd bod Asiantaeth y Môr
a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn weithredol ym mis Mawrth gyda thîm yn cynnal
archwiliadau diogelwch ar hap ar gychod pysgota
masnachol.
Cyfeiriwyd at
archwiliad dŵr isel a gynhaliwyd 03/03/22 yn ardal Cliffside
wrth hen lithrfa'r Bad Achub. Nodwyd y byddai swyddogion yn parhau i fonitro'r
sefyllfa cyn i’r contractwr angorfeydd ddechrau ar ei waith.
Adroddwyd y
byddai’r gwaith cynnal a chadw yn parhau drwy’r misoedd nesaf mewn paratoadau
ar gyfer gwaith wal y cei a thymor prysur o ymwelwyr a digwyddiadau.
Diolchwyd am yr
adroddiad. Diolchwyd i Wil Stockford (Harbwr feistr) ac Oli Simmons
(Cymhorthydd
Harbwr Aberdyfi) am y gwaith clirio oedd wedi ei wneud o gwmpas yr Harbwr ac am
wynebu heriau o bob math gan ymwelwyr.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â threfniadau symud tywod a chais i symud tywod sydd yn casglu yn y
maes parcio cyn gwyliau’r Pasg, nodwyd bod ardal y promenâd ynghyd ag ardal y
Bad Achub wedi ei glirio a bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Uned
Trafnidiaeth a YGC am gynnal y llithrfa. Ategwyd bod cyfrifoldebau’r Uned
Forwrol ynglŷn â gwaith rheolaeth yr Harbwr yn cael ei weithredu.
Mewn ymateb i
gwestiwn ategol ynglŷn â’r awgrym o ddefnyddio arian o’r maes parcio i
dalu i’r Uned Forwrol glirio'r tywod, nodwyd nad oedd trefniant trosglwyddo
arian mewn bodolaeth ond bod modd annog mwy o gydweithio rhwng adrannau. Er yn
derbyn bod sgil effeithiau’r arbedion yn amlygu eu hunain erbyn hyn a bod symud
tywod yn frwydr yn erbyn natur, cydnabuwyd bod angen cynllun yn ei le i ymateb
i’r pryderon lleol.
Amlygodd D George
bod aelodau o gwmni TMS, wrth gynnal ymweliad safle, wedi awgrymu defnydd o’u
peiriannau, fydd ar y safe, i glirio tywod. Awgrymwyd
y gall Clwb Hwylio Aberdyfi gyfrannu’n rhannol at unrhyw gostau, gyda
chyfraniadau pellach efallai gan Gyngor Gwynedd a’r Clwb Cychod.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: