Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Cofnod:
Diweddariad ar
brosiectau Wal y Cei a Phont Bryn Llestair (Picnic Island Bridge)
Wal Cei Aberdyfi
Croesawyd Owain
Griffiths (Prif Beiriannydd Ymgynghoriaeth Gwynedd)
i’r cyfarfod i roi diweddariad ar brosiect wal y cei. Adroddwyd, wedi derbyn tri
chais am y gwaith bod yr Uned, wedi dilyn proses o asesu’r ceisiadau, yn y
broses o gynnig y gwaith i gwmni sydd yn arbenigo fel Contractwr Morol o fewn
Peirianneg Sifil o’r enw Teignmouth Maritime Services Ltd (TMS) o Ddyfnaint.
Derbyniwyd bod y
broses wedi bod yn un hir, ond bellach bod llythyr gan Lywodraeth Cymru wedi ei
dderbyn yn cadarnhau telerau'r grant ynghyd ag arian cyfatebol gan Gyngor
Gwynedd i dalu am y gwaith. Amlygwyd mai’r cam nesaf fydd gosod rhaglen
ddiwygiedig a thrafod cyfnod yr achos busnes yn llawn gyda’r cwmni. Nodwyd nad
oedd dyddiad pendant ar gyfer dechrau’r gwaith, ond unwaith y daw rhaglen
ddiwygiedig i law, byddai’r wybodaeth yn cael ei rhyddhau. Cadarnhawyd bod yr
arian yn ddiogel a bod y cwmni eisoes wedi ymweld â’r safle ac wedi cyfarfod
rhai rhandaliad. Ategwyd mai dymuniad YGC oedd sefydlu un grŵp i
ymgysylltu gyda’r gymuned fydd yn cyfarfod yn rhithiol unwaith y mis i drafod
materion yn ymwneud â’r prosiect - y bwriad yw cynnal y cyfarfod cyntaf yn
ystod mis Ebrill.
Yn dilyn y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau;
·
Bod y newyddion yn bositif
ac i’w groesawu
·
Doeth fyddai cael Clerc Cyngor Cymuned Aberdyfi yn
aelod o’r grŵp cymunedol
·
Dylid llunio
rhaglen waith a pharatoi ar gyfer
cyfnod cyn gweithredu – posib trefnu storfeydd, symud offer a pharatoi mynediad – awgrym amser o ryw 6 wythnos
·
Bydd angen ystyried effaith y gwaith ar yr economi leol
- y gwaith yn debygol o gael ei weithredu yn
ystod cyfnod prysur / gwyliau ysgol. Os yw’r
arian yn ei le onid gwell
fyddai oedi fel y bydd llai
o darfu ac effaith ar y gymuned?
·
Bod prisiau offer,
dur, tanwydd ac adnoddau yn codi
·
Bydd loriau
trwm yn cario
dur yn amharu ar symudiadau yn
y dref – angen paratoi ar gyfer
hyn
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn ag oedi’r gwaith, ystyriwyd mai gwell fyddai gweithredu mor fuan â
phosib gan y byddai dechrau ar y gwaith yn ystod misoedd yr Hydref yn agored i
risgiau tywydd garw a chynnydd mewn costau adnoddau. Ategwyd bod pryderon
eisoes yn bodoli ynglŷn â phryniant offer (sheet
piles) ar gyfer creu sylfaen - dyma’r mater fydd yn
pennu dechrau’r gwaith. Sicrhawyd bod y pryderon yn cael eu hystyried, ond
doeth fyddai parhau ac ymdrin ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.
Phont Bryn Llestair
(Picnic Island Bridge)
Amlygodd Mr Barry
Davies (Rheolwr Gwasanaeth Morwrol), er yr oediad, bod bwriad cwblhau'r gwaith
yn 2022. Nodwyd bod y gwaith yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau gan Cyngor Gwyendd, Outward Bound Wales, FLAG a Network Rail, ond bellach bod costau dur wedi cynnydd yn sylweddol
ac felly y gyllideb yn brin o ryw £30k.
Awgrymwyd cynnal trafodaethau pellach gyda’r partneriaid i geisio modd o
gwrdd â’r bwlch ariannol. Nododd y Cadeirydd, bod y cyfryngau yn awyddus i
wneud rhaglen ar y gwaith oherwydd bod diddordeb a brwdfrydedd yn y gymuned
leol i gwblhau’r gwaith.
Diolchwyd i’r swyddogion am y diweddariadau