Agenda item

Stuart Whitfield i gyflwyno cais i newid yn ymwneud â strwythur y Rhaglen Ddigidol a chynnig newid i strwythur cyflawni'r Rhaglen Ddigidol.

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo’r cais i ailstrwythuro tri o brosiectau isadeiledd digidol y Rhaglen Ddigidol i greu dau brosiect newydd.

2.    Nodi’r cynnig i gyfuno'r prosiectau Campysau Cysylltiedig a Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol yn un prosiect i ganolbwyntio ar gyflawni capasiti rhwydwaith ffibr-optig i fodloni amcanion gwario'r ddau brosiect. Yn ddarostyngedig i asesiad pellach o'r gofynion (lle mae gofyn am rwydweithiau ffibr-optig newydd wedi'i adnabod) gallai elfen o'r prosiect Campws Cysylltiedig gael ei chynnwys yn y prosiect newydd hwn. Ni argymhellir newid i'r prosiect Ychydig % Olaf na'r prosiect Ymchwil a Datblygu DSP.

3.    Nodi strwythur cyflawni ac amserlen ddiwygiedig y rhaglen fel y nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

4.    Nodi bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi'i gytuno.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol).

 

PENDERFYNWYD

 

(1)       Cymeradwyo’r cais i newid i ailstrwythuro tri o brosiectau isadeiladedd digidol y Rhaglen Ddigidol i greu dau brosiect newydd.

(2)       Nodi’r cynnig i gyfuno’r prosiectau Campysau Cysylltiedig a Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol yn un prosiect i ganolbwyntio ar gyflawni capasiti rhwydwaith ffibr-optig i fodloni amcanion gwario’r ddau brosiect.  Yn ddarostyngedig i asesiad pellach o’r gofynion (lle mae gofyn am rwydweithiau ffibr-optig newydd wedi’i adnabod) gallai elfen o’r prosiect Campws Cysylltiedig gael ei chynnwys yn y prosiect hwn.  Ni argymhellir newid i’r prosiect Ychydig % Olaf na’r prosiect Ymchwil a Datblygu DSP.

(3)       Nodi strwythur cyflawni ac amserlen ddiwygiedig y rhaglen fel y nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

(4)       Nodi bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi’i gytuno.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Deilliant y gweithdai Achos Economaidd ar gyfer y prosiect Coridorau Cysylltiedig oedd adnabod opsiwn a ffefrir sy'n cynnwys buddsoddi mewn darpariaeth rhwydwaith ffibr-optig newydd yn y rhanbarth.  Mae prosiect Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol y Rhaglen Ddigidol, sydd ar y cam SOC ar hyn o bryd, hefyd yn targedu darpariaeth rhwydwaith ffibr-optig, gyda'r 'safleoedd allweddol' cyfredol fel arfer yn agos i'r safleoedd 'coridorau' trafnidiaeth sydd o fewn sgôp y prosiect Coridorau Cysylltiedig.  Mae'r ffaith fod y lleoliadau a bellach y ddarpariaeth gwasanaeth yn alinio yn rhoi cyfle i ddod â'r ddau brosiect ynghyd i gyflawni amcanion gwario dan un prosiect yn unig.  Cefnogir yr egwyddor hon gan arferion gorau Trysorlys EM yn ei Ganllaw i Ddatblygu Achos Busnes y Rhaglen (‘Better Business Cases for better outcomes’).

 

Er mwyn lleihau'r effaith i'r amserlenni ar gyfer datblygu achosion busnes prosiectau a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais, bydd angen gweithredu newidiadau i strwythur y rhaglen cyn gynted â phosibl.  Bydd angen gwneud newidiadau i gwmpas yr achosion amlinellol strategol nesaf cyn comisiynu cymorth ymgynghori pellach.

 

Bydd angen i'r broses o gaffael cymorth ymgynghori i gwblhau Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiectau Coridorau Cysylltiedig, Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol a Champws Cysylltiedig ddechrau'r chwarter nesaf ac ni ellir cadarnhau cwmpas y gwaith hwn hyd nes y gwneir penderfyniad ar strwythur y rhaglen.  Mae Trysorlys EM yn argymell adolygiadau rheolaidd o Achos Busnes y Rhaglen i gyfrif am newidiadau yn yr achos strategol a chanlyniadau diweddar gweithdai prosiect, ac mae gweithgarwch y farchnad a'r Llywodraeth yn awgrymu bod digon o newidiadau wedi digwydd i fod angen eu hadolygu.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nododd y Cadeirydd fod hwn yn ymddangos yn gam rhesymegol ymlaen, a phetai yna obaith o leihau’r strwythur llywodraethiant, bod hynny i’w groesawu’n fawr, a bod y buddion o gaffael hefyd yn glir yma.

 

Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, y Rheolwr Rhaglen Digidol a’r tîm am eu gwaith caled.

·         Gofynnwyd i’r mater ddod yn ôl i’r Bwrdd petai’r amserlen yn llithro.

·         Nodwyd bod y cais yn synhwyrol ac yn gymesur, a chroesawyd y parodrwydd i addasu, petai angen, wrth i bethau esblygu.

·         Mynegwyd pryder bod y cynnydd sylweddol mewn prisiau yn golygu bod perygl y gallai cwmnïau fethu cadw at eu pris, neu dynnu allan o gontract yn llwyr.  Nodwyd mai rhan o’r broblem oedd y symudiad yn y farchnad yn ystod y cyfnod rhwng diwedd y broses bwrcasu a chymeradwyo’r cynlluniau busnes.  Pwysleisiwyd bod raid i lywodraeth, yn genedlaethol ac yn lleol, edrych ar ffyrdd o gael pethau i symud yn fwy sydyn, ac roedd hynny’n fater i’w ystyried yn ystod cyfnod y Cynllun Twf, neu, fel arall, byddai’n rhaid ail-dendro am waith yn barhaus.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Digidol fod yna gyfleoedd diddorol i symleiddio caffael, cyn belled â phosib’, yn y maes digidol.  Cyfeiriodd yn benodol at y defnydd o fframweithiau Gwasanaethau Masnachol y Goron, gan egluro, yn achos y rhaglen ddigidol, y gellid dibynnu ar waith a gyflawnwyd ers tro gan Adran Digidol Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn sefydlu system brisio ddynamig sy’n darparu dull hynod amlbwrpas ac ymatebol o gaffael, ac sydd bellach yn dechrau cael ei ddefnyddio gan yr awdurdodau cyntaf yn y DU.  Ar fater mwy cyffredinol, nododd y Rheolwr Gweithrediadau y cytunwyd y byddai’r PMO yn cynnal gweithdy gyda thimau rhanbarthol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i drafod ein risgiau, er mwyn edrych sut y gallai’r llywodraethau ein cefnogi, gan gynnwys edrych ar sut i symleiddio’r broses o wneud penderfyniadau

 

Dogfennau ategol: