Dewi A Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, frifydd Grŵp yr Awdurdod Llety i gynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2022/23 ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais).
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022/23 fel y'i
cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth
gefn a glustnodir.
2. Cymeradwyo cyfraniadau ariannu
yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a
chyfraniadau llog partneriaid.
3.
Cymeradwyo cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y
tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb 2021/22 yn cael ei gario ymlaen i
2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000 iddynt.
4.
Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ar
gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd
Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau).
PENDERFYNWYD
1.
Cymeradwyo Cyllideb Refeniw
2022/23 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth
gefn a glustnodir.
2.
Cymeradwyo cyfraniadau ariannu yn cynnwys cyfraniadau partneriaid,
cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.
3. Cymeradwyo
cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb
2021/22 yn cael ei gario ymlaen i 2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000
iddynt.
4. Cymeradwyo
Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Er mwyn gweithredu'n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar
gael, mae angen i gyllideb
flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.
TRAFODAETH
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Diolchwyd
i’r Swyddog Cyllid Statudol a’r Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a
Phrosiectau am y gwaith a’r cyflwyniad clir.
·
Eglurwyd
fod y gyllideb gwariant Hyfforddiant yn cyfeirio at hyfforddiant penodol y bydd
staff y Bwrdd Uchelgais ei angen yn ystod y flwyddyn.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn am y gwariant yswiriant o £2,980, eglurwyd ei fod yn cyfeirio
at gostau yswiriant atebolrwydd cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus sy’n cael ei
drefnu fel rhan o waith yr awdurdod lletya ac fel rhan o bolisi yswiriant
Cyngor Gwynedd.
·
Mewn
ymateb i ymholiad ynglŷn â pham na chafodd cyllid y Bwrdd Cyflawni Busnes
ei wario yn y flwyddyn ddiwethaf, nodwyd nad oedd y Bwrdd hwn yn siŵr ble
i wario’r arian yn flaenorol. Hyderwyd y bydd yr arian sy’n cael ei gario
drosodd pe caniateir y penderfyniad yn cael ei wario’n ddoeth a’n gynhyrchiol
yn y flwyddyn i ddod ynghyd a’r arian o’r gyllideb 2022/23. Ychwanegwyd fod
amseru wedi bod yn broblem; dylid defnyddio’r gyllideb hon tuag at dargedu a
denu buddsoddiadau i’r rhanbarth; adroddwyd ei bod yn anodd cyflawni hyn nes
oedd y brand newydd yn ei le. Bellach mae gan y Bwrdd Uchelgais lawer mwy o
eglurder a nod cadarn ynglŷn â ble i fynd a beth i’w gyflawni o ran denu
buddsoddiadau. Diolchwyd i’r Bwrdd Cefnogi Busnes am eu cefnogaeth.
·
Tynnwyd
sylw at y ffaith bod cyfraddau llog o 2.2% yn parhau heb eu newid ers Hydref
2020, cytunwyd ar hyn yn dilyn derbyn barn cwmni ymgynghorol trysorlys
annibynnol. Bydd cronfa ar wahân yn cael ei greu ar gyfer y llog sy'n cael ei
glustnodi fel ei fod yn cael ei ddangos ar wahân.
·
Mewn
ymateb i sylw y bydd pwysau chwyddiant cynyddol ar yr holl brosiectau, eglurwyd
y bydd pob prosiect wrth fynd drwy’r broses ddatblygu yn cael gwiriad trylwyr
ynghylch fforddiadwyedd; bydd mwy o ffocws yn cael ei roi ar yr elfen hon
ynghyd ag adolygu rheolaidd. Ychwanegwyd fod materion chwyddiant a chyfraddau
llog wedi derbyn ystyriaeth lawn a bod trafodaethau rheoli risg parhaus yn cael
eu cynnal efo’r timau rhanbarthol yn y DU ac efo Llywodraeth Cymru ynghylch
hyn.
·
Holwyd
ynghylch y cyfarfodydd risg ac os oedd modd gwahodd Awdurdodau Lleol i’r
cyfarfodydd hyn gan fod materion tebyg yn berthnasol i Awdurdodau. Adroddwyd
mai’r bwriad gwreiddiol oedd i’r cyfarfodydd drafod eitemau Cynlluniau Twf
penodol gyda’r ddau dîm rhanbarthol, bydd y Rheolwr Gweithrediadau yn holi i
weld os oes lle i ehangu’r drafodaeth.
Dogfennau ategol: