Agenda item

Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio  a Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno cynnig a sail resymegol i'r Bwrdd ar gyfer ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo'r egwyddor o ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd at 31 Mawrth 2024 a gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio weithredu hyn ar unwaith.

2.    Nodi y telir costau'r ymestyniad hwn o ffynonellau ariannu presennol (yn cynnwys cronfeydd wrth gefn) ac ni fydd yn arwain at unrhyw ofynion ariannol ychwanegol gan bartneriaid.

3.    Nodi bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi yn flaenorol [Ionawr 2020] i'r Cyfarwyddwr Portffolio i wneud newidiadau i strwythur y Swyddfa Rheoli Portffolio mewn ymgynghoriad â Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lletya a'r Swyddog Cyllid Statudol i ddiwygio'r strwythur fel sydd angen o fewn yr amlen ariannu.

4.    Nodi y bydd gofynion adnoddau'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyflawni'r Cynllun Twf wedi Mawrth 2024 yn rhan o adolygiad o adnoddau rhanbarthol i'w wneud gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol a fydd hefyd yn ystyried goblygiadau ehangach y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, y Gronfa Ffyniant Cyffredin a ffynonellau ariannu eraill a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cymeradwyo’r egwyddor o ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd at 31 Mawrth 2024 a gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio weithredu hyn ar unwaith.

2.    Nodi y telir costau'r ymestyniad hwn o ffynonellau ariannu presennol (yn cynnwys cronfeydd wrth gefn) ac ni fydd yn arwain at unrhyw ofynion ariannol ychwanegol gan bartneriaid.

3.    Nodi bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi yn flaenorol [Ionawr 2020] i'r Cyfarwyddwr Portffolio i wneud newidiadau i strwythur y Swyddfa Rheoli Portffolio mewn ymgynghoriad â Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lletya a'r Swyddog Cyllid Statudol i ddiwygio'r strwythur fel sydd angen o fewn yr amlen ariannu.

4.    Nodi y bydd gofynion adnoddau'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyflawni'r Cynllun Twf wedi Mawrth 2024 yn rhan o adolygiad o adnoddau rhanbarthol i'w wneud gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol a fydd hefyd yn ystyried goblygiadau ehangach y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, y Gronfa Ffyniant Cyffredin a ffynonellau ariannu eraill a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwyno cynnig a sail resymegol i’r Bwrdd ar gyfer ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod adnoddau digonol yn eu lle i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Sefydlwyd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn wreiddiol ym mis Ionawr 2020 gyda thîm bychan o staff. Yn sgil cais llwyddiannus am grant Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ESF), ehangwyd y tîm a recriwtiwyd i'r strwythur cyfredol dros y 18 mis diwethaf.

 

Mae'r grant ESF sydd wedi'i sicrhau tan ddiwedd mis Mehefin 2023 ac mae rhan fwyaf y staff o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gontractau tymor penodol hyd at 30 Mehefin 2023.

 

Mae hyn risg sylweddol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio gan fod staff sy'n allweddol i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn tynnu am flwyddyn olaf eu contractau a gallent geisio am gyfleoedd eraill sydd â mwy o sicrwydd cytundebol.

 

O ganlyniad i nifer o ffactorau yn cynnwys y pandemig, oedi wrth ddatblygu prosiectau a heriau recriwtio, mae'r Cynllun Twf tua blwyddyn ar ei hôl hi o gymharu â'r amserlen gyflawni wreiddiol. Gydag un prosiect eisoes yn cael ei gyflawni, mae'r 24 mis nesaf yn hanfodol yn nhermau symud gweddill y prosiectau ymlaen i'r wedd cyflawni pan fyddwn yn dechrau gwireddu'r buddion i'r Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at y penderfyniadau a geisid, gofynnodd y Rheolwr Gweithrediadau i’r Bwrdd ystyried gwneud yr ychwanegiad a ganlyn i ddiwedd pwynt 2.4:- 

 

“.. a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol.”

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd am y cyflwyniad a chredwyd fod y cais yn un rhesymol a rhesymegol.

·         Cydnabyddwyd bod risg sylweddol i golli aelodau o’r tîm ynghyd a’u gwybodaeth a’u profiadau.  Mynegwyd fod y cais hwn yn un synhwyrol. 

 

 

Dogfennau ategol: