Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

COFNODION:

 

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod y Cyngor yn prynu tai sydd ar y farchnad gydag arian cyhoeddus, pa system sydd gennych yn ei le i sicrhau nad yw’r Cyngor yn gordalu am y tai?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Yn ychwanegol i’r ateb ysgrifenedig, hoffwn ddweud fy mod wedi prynu fy nhŷ cyntaf tua 5 mlynedd yn ôl, a gallaf dystiolaethu i’r ffaith mai prynu tŷ ydi'r trydydd profiad mwyaf anodd ar ôl colli rhywun agos a mynd trwy ysgariad.  Nid ydych chi’n gwybod be’ dydych chi ddim yn gwybod, nid ydych chi’n gallu ymddiried mewn unrhyw un, ac mae prisiau tai yn codi bob dydd.  Nid ydych chi’n gwybod pwy sy’n cystadlu yn eich erbyn, ac roedd yn flwyddyn hunllefus i mi a’r teulu.

 

Un o’r 33 o gynlluniau sydd gennym yn y Cynllun Gweithredu Tai ydi ein bod ni, fel Cyngor, yn prynu tai er mwyn helpu i gartrefu pobl leol yn eu cymunedau.  Wrth gwrs, mae’r broses lle mae’r Cyngor yn prynu tai hyd yn oed yn fwy cymhleth na hynny.  Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn prynu tai mae rhywun lleol am geisio eu prynu.  Rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn gwneud camgymeriadau a’i fod yn costio gormod.  Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn prynu tai lle mae angen.  Mae’n gymhleth iawn a rŵan, wrth gwrs, yn wahanol i 4-5 mlynedd yn ôl, rydym ni’n cystadlu yn erbyn cronfeydd gwrych sydd nawr yn y farchnad prynu tai.  Nid oedd Airbnb yn gymaint o beth, a rŵan mae pobl yn symud yma ar ôl y ‘Zoom Boom a Chofid a Brexit.  Ond y gwahaniaeth rhyngom ni a thrigolion ydi ein bod ni’n gwybod beth ydi’r unknowns’.  Mae gan ein Hadran ni'r profiad o weithredu yn y sector yma.  Mae gennym y cymwysterau.  Nid ydw i’n siŵr faint o syrfewyr sydd yn yr Adran, neu yn y Cyngor, ond mae hyd yn oed ein Prif Weithredwr yn syrfëwr, ac rydym ni’n adnabod pawb sy’n gweithio yn y sector.  Mae gennym y sgiliau a’r profiad a’r wybodaeth, ond yn bwysicach na hynny yn fy marn i, mae gennym ni hefyd yr awydd.  Mae pobl yn tueddu i feddwl bod ein staff yn byw mewn twr ifori neu’n gweithredu yn ôl yr egwyddor ‘computer says no, ond gallaf dawelu eich meddyliau - nid yw hynny’n wir.  Rwy’n gobeithio bod y mwyafrif ohonoch yma yn gwybod sut rydw i’n teimlo am y sefyllfa tai a pha mor bendant ydwyf i wneud rhywbeth am y peth.  Rydw i eisiau i chi wybod bod y staff i gyd yn yr Adran Tai ac Eiddo hefyd yn teimlo'r un fath â mi am y pwnc.  Maen nhw’n dilyn Ffordd Gwynedd go iawn a gobeithio y byddwch yn gweld hynny yn fuan.  Maen nhw yma i gartrefu ein pobl ni yn ein cymunedau.  Dyna pam maen nhw’n dod i’r gwaith bob dydd, ac yn aml iawn, rydw i’n trafod hyn hefo nhw, ac yn trafod y prosiectau rydych chi i gyd yn mynd i weld yn fuan gobeithio, a’r tai rydym ni’n prynu a phob dim fel yna.  Rydw i mewn trafodaethau hefo nhw, ac mae’n brofiad emosiynol i mi i weld eu bod nhw ‘on board hefo’r hyn rydym ni’n ceisio gwneud fel cynghorwyr.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“O ystyried bod prisiant syrfewyr yn gallu amrywio, oes yna fwy nag un prisiant gan y Cyngor ar gyfer pob tŷ (h.y. ydych chi’n cael mwy nag un pris) gan syrfëwr gwahanol?”

 

Ateb gan y Pennaeth Tai ac Eiddo

 

“Mae yna sawl syrfëwr yn gweithio i’r Cyngor.  Mae gennym ni gyfanswm o 6, ac mae 2 ohonynt yn syrfewyr siartredig, ac wrth brisio, mae’n ofyn statudol ein bod yn sicrhau gwerth am arian, ac mae hynny’n greiddiol i’r holl benderfyniadau rydym ni’n wneud ynglŷn â phrynu.  Hefyd, wrth gwrs, maen nhw’n siarad hefo ei gilydd ynglŷn â phrisiau ac yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am ein harian cyhoeddus.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

“Yn dilyn newidiadau arfaethedig i’r diwydiant unedau gwyliau Llywodraeth Cymru “fod rheidrwydd ar i bob uned gwyliau fod ar gael i’w osod am o leiaf 252 diwrnod, a’i osod am o leiaf 182 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes”, ydi’r Cyngor yma yn barod i alw ar Lywodraeth Cymru i eithrio’r diwydiant Amaethyddol, (sydd wedi addasu cannoedd o hen feudai yn unedau gwyliau drwy’r drefn arallgyfeirio), o unrhyw ymrwymiad i’r newid deddfwriaethol yma?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas 

 

“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn ddiamwys mai’r angen i gael cartref i bobl Gwynedd ydi'r mater pwysicaf i Cyngor Gwynedd.  Mae pob rhan o Wynedd – nid yn unig y pentrefi glan môr – yn gweld cartrefi yn cael eu trosi i fod yn unedau gwyliau.  Ni allwn or-bwysleisio'r effaith mae’r golled yma o'r stoc dai yn ei gael ar ein cymunedau.

 

Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi nodi fod angen i gyfundrefn drethiant adlewyrchu’r niwed a achosir i gymdeithas gan yr hyn a drethir.  Barn y Cyngor yw bod unedau gwyliau hunan ddarpar heb reolaeth yn cael effaith negyddol ar gymdeithas ar y cyfan, ac felly dylent fod yn destun trethiant lleol.

 

Tra bod unedau gwyliau hunanddarpar yn cynnig cyfle i hybu’r economi dwristiaeth leol pan mae cyflenwad rhesymol ohonynt, ymddengys bellach nad yw’r niferoedd yn gynaliadwy, ac mae anheddau byw yn cael eu colli ym mhob rhan o’r sir erbyn hyn gyda phobl sy’n gallu fforddio prynu sawl eiddo yn gweld cyfle i fuddsoddi, ond ar draul cymunedau a theuluoedd na all fforddio cartref o gwbl.

 

Nid oes cysondeb ar hyn o bryd rhwng deddfwriaeth trethiant a deddfwriaeth cynllunio.  Ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad oedd os bydd trothwyon yn parhau yn eu lle ar gyfer trosglwyddo eiddo i’r gyfundrefn ardrethi annomestig, credwn y dylent fod wedi eu cysylltu â chaniatâd cynllunio yn hytrach na’r nifer o nosweithiau o osod.

 

Dylai’r drefn ganiatáu gwahaniaethu rhwng unedau sydd wedi cael eu datblygu yn benodol ar gyfer pwrpasau gwyliau a lle mae cyfyngiad cynllunio i’r perwyl hynny, a chartrefi sydd wedi bod ar y rhestr Treth Cyngor fel annedd byw.

 

Rydym wedi hysbysu Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, mewn ymateb i’r gorchymyn drafft sy’n addasu’r trothwyon, na ddylid edrych i’r nifer o ddyddiau o wir osod ac argaeledd os yw eiddo wedi ei adeiladu yn bwrpasol fel uned gwyliau hunan gynhaliol a bod amod yn y caniatâd cynllunio yn atal defnydd o’r eiddo fel prif neu unig gartref, neu os yw perchennog yr eiddo wedi cael caniatâd cynllunio i drosi defnydd o fod yn dŷ annedd i fod yn westy.  Rydym yn sicr yn ystyried adeiladau amaethyddol sydd wedi cael eu trosi yn unedau gwyliau o fewn y categori hwn.  Mae’r newid diweddaraf am effeithio nifer o fusnesau cynhenid, ac mae hyn yn fater o bryder.

 

Mae mater ehangach yn codi petai eiddo o’r fath yn symud i mewn i fand Treth Cyngor, sef yr hyn fydd yn digwydd o ran y Premiwm.  Mae oblygiadau bwriad y Llywodraeth i roi’r hawl i awdurdodau lleol gynyddu lefel y Premiwm i hyd at 300% dan ystyriaeth ar hyn o bryd, a bydd hyn yn fater i'r Cyngor llawn yn y man pella’.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

“Mae llawer o’r rhain wedi cael caniatâd cynllunio am wyliau tymor byr.  A fyddai Cyngor Gwynedd yn fodlon ei newid i fod yn llefydd i aros yn hirach na thymor byr, ac efallai y byddai rhai ohonynt wedyn yn dod yn dai i bobl leol?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Fy nealltwriaeth i ydi bod y Gweinidog yn ystyried eithriadau.  Nid ydw i’n ymwybodol beth ydyn nhw, ac rwy’n meddwl efallai bod rhaid i ni aros tan fod yr eithriadau yma yn dod yn gyhoeddus.  Ond yn sicr, rwy’n cydymdeimlo â nifer o fusnesau sy’n mynd i gael eu heffeithio gan hyn, ac yn sicr, mi fyddwn yn cyfleu’r neges honno i Lywodraeth Cymru.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 27 Gorffennaf 2021 i gyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GDMC): Rheoli Cŵn, hoffwn wybod sawl perchennog sydd wedi derbyn cosb am adael eu cŵn fynd i fannau gwaharddedig ar ein traethau ym Meirionnydd, ac ar ba draethau ym Meirionnydd mae’r dirwyon yma wedi cael eu rhoi?"

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

“Fel y gwelwch o’r ymateb ysgrifenedig, nid oes dirwy wedi ei gyflwyno ers cyhoeddi’r gorchymyn.  Mae yna fwriad i gynyddu’r staff morwrol oherwydd mae yna brinder ar hyn o bryd oherwydd ymddeoliad a staff yn symud i swyddi eraill.  Mae’r Cabinet hefyd wedi clustnodi cyllideb i gyflogi 2 warden gorfodaeth, ond er y bu i’r swyddi yma gael eu hysbysebu fwy nag unwaith, nid oes unrhyw un wedi ymgeisio.  Wrth gwrs, mae hon yn broblem drwy’r Cyngor – ceisio llenwi swyddi, ac yn y sector preifat hefyd.  Mae angen pwysleisio mai dirwyon ydi’r cam olaf sy’n cael ei gymryd ac addysgu perchnogion cŵn ydi’r nod.  Felly mae’r swydd ddisgrifiadau wedi eu haddasu i roi mwy o bwyslais ar newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth gan wir obeithio y bydd y swyddi yma wedi eu llenwi cyn bo hir.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Gan fod hyn yn broblem mor fawr ar draethau Llandanwg a Harlech, a wnaiff yr Aelod Cabinet ei orau i geisio ychwanegu'r traethau hardd yma i’r llefydd sy’n cael y fflagiau plu ac i flaenoriaethu'r traethau yma i gael sylw pan gyflogir y swyddogion angenrheidiol?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

“Fel rhywun sydd wedi cymryd rhan mewn sawl triathlon yn Harlech, gallaf dystio, nid yn unig bod traeth Harlech yn hardd iawn, ond mae’n draeth hir iawn hefyd!  Yn sicr, byddaf yn gofyn i’r Adran sicrhau bod fflagiau plu yn cyrraedd traethau Harlech a Llandanwg mor fuan â phosib’, ac ymhellach, pan fo’r wardeiniaid mewn lle, bod traethau Llandanwg a Harlech yn derbyn blaenoriaeth fel bo angen.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Mae’r canllawiau newydd ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth Gymraeg yn crybwyll cyflwyno trefniadau newydd ym mis Medi 2022.  Lle mae Gwynedd arni yn hyn o beth?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Y sefyllfa ydi bod rhaid i bob ysgol ddweud yn glir wrth rieni ac wrth yr awdurdod lleol ym mha iaith maen nhw am addysgu, ac mae’r drefn honno mewn lle ers 2007.  Y dewisiadau, wrth gwrs, ydi Cymraeg neu Saesneg, neu gyfuniad o’r ddwy iaith honno.  Yng nghyd-destun cyhoeddiad Llywodraeth Cymru - ‘Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr’ mae Llywodraeth Cymru eisiau adolygu eu polisi categoreiddio er mwyn i rieni fedru dewis llwybr addysg eu plant gyda mwy o hyder, ond o’n rhan ni yn y sir yma, polisi iaith Gwynedd beth bynnag ydi i sicrhau addysg Gymraeg a dwyieithog gynhwysol i bob dysgwyr, waeth beth fo eu hil, eu cefndir neu hunaniaeth.  Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod hynny’n rhywbeth i ni i gyd ymfalchïo yn fawr iawn ynddo, ac mae llwyddiant y polisi yna wedi bod yn amlwg yn y miloedd o siaradwyr naturiol Cymraeg rydym ni wedi cynhyrchu yn ein hysgolion yn y sir yma.  Mae’r drefn newydd o ran categoreiddio yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y sir yma, felly ni fydd yn arwain at fawr o newidiadau i ni, h.y. yn unol â’r canllawiau sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru a’u harweiniad nhw, bydd ysgolion cynradd y sir yn mynd i Gategori 3, sy’n cyd-fynd â pholisi iaith Gwynedd, sef mai’r Gymraeg ydi prif iaith addysg, cyfathrebu a hefyd ethos yr ysgol.  Bydd pob ysgol uwchradd yn y sir hefyd yn mynd i Gategori 3, namyn dwy ysgol sydd ddim cweit yn cwrdd â’r gofynion ar hyn o bryd.  Byddwn, wrth gwrs, yn disgwyl i’r ddwy ysgol dan sylw ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond mi fyddan nhw, am y tro, yn eistedd yng Nghategori T3 (Trosiannol) ac mi fydd yr Adran, wrth gwrs, yn gweithio’n agos iawn ac yn cefnogi’r ysgolion hynny i sicrhau’r cynnydd rydym ni’n dymuno ei weld.  Felly, i grynhoi, bydd ysgolion Gwynedd yn gweithredu’r drefn newydd o gategoreiddio o fis Medi, a bydd y drefn newydd yn gwbl unol â’r polisi iaith llwyddiannus sydd gennym yn y sir yma eisoes.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“Categori 3 ysgol uwchradd ydi lle mae ychydig dros hanner y disgyblion yn gwneud o leiaf 70% o’u gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Dyna’r isafswm.  Mae’r canllawiau yn annog ymestyn y ddarpariaeth.  Oni ddylid ymgyrraedd felly tuag at osod ysgolion Gwynedd yng Nghategori 3P, sef lle mae’r ysgol uwchradd yn dysgu 100% o’r disgyblion am o leiaf 90% o’r amser drwy gyfrwng y Gymraeg?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Dim ond 10 ysgol 3P sydd yna yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae pob un o’r rheini i lawr yn ardal y De Ddwyrain, lle mae’n rhaid iddyn nhw, wrth gwrs, ddiffinio eu hunain ochr yn ochr â llawer iawn o ysgolion cyfrwng Saesneg.  Wrth gwrs, mae’r sefyllfa yn bur wahanol yma yng Ngwynedd lle mae pob dysgwr yn cael addysg Gymraeg a dwyieithog ac yn dod allan o’n hysgolion yn siaradwyr Cymraeg naturiol.  Mae ein polisi ni yn gwbl gynhwysol felly.  Wrth gwrs, byddem i gyd yn dymuno gweld ysgolion yn cynyddu eu darpariaeth, ac mae Categori 3 yn caniatáu hynny yn llwyr gan mai isafswm ydi’r 70% o ddarpariaeth.  Gallwn gynyddu a gallwn annog a gweithio hefo’r ysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth honno, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny heb greu arwahanrwydd ieithyddol, ac i aros yn gynhwysol fel rydym ni ar hyn o bryd.  Mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio, ac mae o’n gynhwysol.  Mae data’r Cyfrifiad diwethaf yn dangos bod 73% o blant 3 oed yn siarad Cymraeg ac erbyn iddyn nhw gyrraedd 15 oed, mae’r ganran wedi codi i 92%.  Mae’r data yn dangos hefyd mai Gwynedd sydd â’r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig y tu allan i Gaerdydd, sy’n dyst i’r ffaith bod pob un dysgwr yma yn ein sir yn cael addysg Gymraeg mewn ffordd gynhwysol, ac rwy’n siŵr eich bod yn cytuno bod hynny’n rhywbeth mor bwysig.

 

Ar nodyn mwy personol, mae’r ffaith mod i’n sefyll ger eich bron heddiw yn siarad Cymraeg yn ddiolch i’r addysg rydw i wedi cael yn ysgolion y sir, gan mai mewnfudwyr o Loegr ydi fy rhieni i, ac yn Saesneg y cefais fy magu, ac rydw i wedi cael fy Nghymraeg yn ysgolion cynradd ac uwchradd y sir yma.  Felly mae’n bolisi sy’n gweithio ac mae’n bolisi llwyddiannus.”