Cyflwyno
adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol
Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol
mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Diolchodd y Cyfarwyddwr i Manon Elwyn Hughes (Uwch Swyddog Gweithredol)
am ei chymorth yn rhoi’r adroddiad blynyddol at ei gilydd. Fel rhan o’i chyflwyniad, amlygodd y
Cyfarwyddwr rai o’r gwersi a ddysgwyd, gan amlinellu’r blaenoriaethau am y
flwyddyn i ddod. Eglurodd hefyd sut y bu
i’r Gwasanaeth asesu anghenion pobl, a’u cynnwys yn ganolog wrth siapio’r
gwasanaethau a’r ddarpariaeth gofal.
Nododd fod perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd yn dda ar y
cyfan eto eleni, a bod barn Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyd-fynd â hynny. Ychwanegodd fod y 2 flynedd ddiwethaf wedi
gosod heriau anhygoel ar y Gwasanaeth, ac roedd yn amlwg o’r perfformiad bod
rheolwyr a staff wedi gwneud ymdrech arwrol i allu dygymod gyda’r gofynion a fu
arnynt yn ystod y cyfnod.
Ar ddiwedd ei chyfnod yn y swydd, nododd y Cyfarwyddwr y bu’n fraint bod
yn Gyfarwyddwr ac yn Bennaeth Adran cyn hynny, a diolchodd i bawb y bu’n cydweithio
â hwy dros y blynyddoedd. Diolchodd i’r
aelodau, yr aelodau craffu a’r aelodau cabinet yn y maes gofal dros y 10
mlynedd ddiwethaf. Nododd hefyd iddi
gael cefnogaeth wych gan dri Phrif Weithredwr yn ystod ei chyfnod yn y swydd,
sef Harry Thomas, Dilwyn Williams a’r Prif Weithredwr presennol, Dafydd
Gibbard. Manteisiodd hefyd ar y cyfle i
ddiolch i’r Penaethiaid Adran, Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a
Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) a’r diweddar
Gwenan Parry am eu gwaith yn y maes gofal, ac hefyd i Catrin Thomas (Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd) a Carys Fon Williams (Pennaeth Tai ac Eiddo) am
eu gwaith ar y rhaglen Cefnogi Pobl Gwynedd.
Diolchodd hefyd i’r holl staff mewnol, allanol, trydydd sector, gofalwyr
di-dâl a rhieni maeth fu’n rhan o’i siwrne dros y 10 mlynedd ddiwethaf, a
dymunodd yn dda i’r Cyfarwyddwr newydd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Nodwyd bod angen cynnwys mwy o wybodaeth dan fesur
perfformiad rhif 20 ar dudalen 196 o’r rhaglen (Canran y plant a ddychwelodd adref o ofal yn ystod y flwyddyn) er
mwyn gwneud yn glir i bobl y tu allan i’r system gofal, aelodau newydd, ayyb, bod
strategaethau mewn lle i sicrhau bod y plant hyn yn ddiogel. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r geiriad
yn cael ei adolygu, a gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Cyfarwyddwr os oeddent
o’r farn bod unrhyw beth arall yn yr adroddiad yn annelwig.
·
Gan
gyfeirio at y Cynllun Awtistiaeth (tudalen 169 o’r rhaglen), nodwyd y deellid
yn flaenorol bod y Cynllun yn cychwyn gyda phlant ac yn symud ymlaen i bobl,
ond bod sôn am blant a phobl yn yr un paragraff yma. Mewn ymateb, nodwyd balchder bod y Cynllun yn
ei le a’i fod wedi deillio o ddysgu o brofiadau unigolion sydd ag awtistiaeth,
a nodwyd y mawr obeithid y byddai hynny’n parhau. Cytunid bod yna waith i’w wneud o ran y
cyfnod trosiannol, ac er bod rhai siroedd wedi cyfuno eu gwasanaethau
awtistiaeth i blant ac oedolion, ni chredid ei bod yn ofynnol gwneud
hynny. Fodd bynnag, roedd yn rhaid
gwneud yn siŵr bod yr unigolion dan sylw yn trosglwyddo’n ddi-dor o un
cyfnod o’u bywyd i un arall o ran gwasanaethau’r Cyngor, ac roedd hynny’n
rhywbeth y byddai’n rhaid i’r tîm fyddai’n cael ei sefydlu a’r cyfarwyddwr
newydd gadw golwg arno.
·
Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd y credid bod y
Cyngor wedi hysbysebu am gydlynydd a 2 weithiwr cymdeithasol i ddatblygu a
gweithredu ar y Cynllun Awtistiaeth, ond y byddai swyddog o’r gwasanaeth yn
cysylltu’n ôl â’r aelod i gadarnhau’r sefyllfa.
·
Gan gyfeirio at y bwriad i sicrhau hyfforddiant a
chodi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar gyfer y gweithlu, holwyd a fyddai hyn ar
gyfer y gweithlu cyfan yng Ngwynedd, staff y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r
Tim Plant yn unig. Mewn ymateb, eglurwyd
bod rhai staff angen hyfforddiant mwy arbenigol nag eraill, ond y disgwylid y
byddai pawb, yn aelodau a staff, yn cael yr ymwybyddiaeth o’r maes pwysig yma.
·
Gofynnwyd i’r Cadeirydd anfon nodyn at staff rheng
flaen y Cyngor ar ran yr aelodau i ddiolch iddynt am eu holl waith mewn
amgylchiadau anodd iawn dros y 2 flynedd ddiwethaf.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: