Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth Roberts
I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr uchod.
10.45 a.m. – 11.30 a.m.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ymateb i gwestiynau
a godwyd gan Aelodau yn dilyn derbyn
Adroddiad Trosolwg o berfformiad y Cyngor
Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebwyd iddynt gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fel a ganlyn:
(a) bod gofynion newydd mewn perthynas â dyletswyddau lles ond nad oedd
dim byd pendant wedi ei dderbyn gan
y Llywodraeth hyd yma. Bydd rhaid ymgymryd
á’r dyletswyddau o fewn adnoddau presennol
ac y byddai’n rhaid cydymffurfio a’r ail-strwythuro ehangach o fewn yr Adran. Hyderir y byddir yn penodi
Rheolwr Llesiant o fewn y mis nesaf.
(b) mai oddeutu 20 o fyfyrwyr y flwyddyn sydd yn mynychu’r
cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mangor. Bu i’r
Adran hysbysebu am staff yn ardal Meirionnydd yn ddiweddar ac roedd yr ymateb
yn dda.
(c) Eglurwyd ar y bwriad
o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Her Gofal ac y byddir fel cam cyntaf yn arbrofi
gyda Chyngor Tref ac yna yn ddibynnol
ar yr ymateb
gellir penderfynu ar raglen waith
ehangach i gwrdd â grwpiau penodol. Nodwyd bod apêl i ymweld ag ardal Penllyn lle
mae 5 o Gynghorau Cymuned yn cydweithio
a’i gilydd. Sicrhawyd y byddir yn codi
ymwybyddiaeth
Aelodau Lleol o’r ymweliadau arbrofol fel eu bod yn
ymwybodol os oes unrhyw ymweliadau
yn eu hardal.
(ch) addawyd y byddir yn cylchredeg ffigyrau
i’r Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones o’r nifer sydd
ar restr aros y Gweithwyr Cymdeithasol
(a)
Bod llawer iawn o waith ymchwil
wedi ei wneud
parthed llwybrau gyrfaoedd, ond bod llawer iawn o waith
eto i’w gyflawni. Cydnabuwyd ei bod yn anodd
recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr gofal mewn ardaloedd
gwledig a bod rhai o’r darparwyr allanol
yn recriwtio gweithwyr gofal o dramor. Fodd bynnag, sicrhawyd
bod llawer o ymdrech wedi cael ei
wneud i gysylltu á’r Colegau Addysg Bellach i godi proffil o ran y cyfleoedd ond nad oedd
gofal yn yrfa yn atyniadol
o safbwynt y cyflog. Rhaid rhoi mwy
o sylw i sicrhau bod unigolion yn adnabod
y maes yn fuan a bod cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymhellach. Cadarnhawyd bod llawer iawn yn
cael ei wneud
ar lefel broffesiynol er mwyn datblygu unigolion
yn eu gyrfa. Cydnabuwyd bod strwythurau hyfforddi rhai darparwyr allanol yn ymddangos
yn gryfach nag eraill. Nodwyd efallai y dylai’r Cyngor ystyried gosod cymalau pendant mewn contractau er mwyn
sicrhau elfen o fuddsoddiad i ddatblygu llwybrau gyrfa.
(dd) O safbwynt y toriadau bod y prif elfennau o ran effaith wedi cael eu
cyflwyno a bod
rhai ohonynt yn mynd i gael
effaith ar y gwasanaeth megis effaith ar ymweliadau
ac asesiadau amserol, a.y.b. ac yn golygu
dewisiadau anodd. Fodd bynnag, o wneud yr ymdrech i gael gwared â gwastraff, hyderir y bydd yr effaith yn
llai ar unigolion
ond y byddir yn arafach o ran darparu’r gwasanaethau.
(b)
Yng nghyswllt problemau
recriwtio a chystadleuaeth gan ddarparwyr allanol, nodwyd tra’n derbyn ei
fod yn gamp i gadw unigolion mewn swydd am gyfnod
hir, ei bod yn haws i’r Cyngor gadw staff oherwydd amodau gwaith, pensiynau, a.y.b. Mynegodd aelod y dylid edrych ar ddulliau dychmygus
blaengar i gadw staff megis cynllun les ceir.
(c)
Mewn ymateb i sylw
wnaed gan Aelod ynglyn ag adroddiad gan y Trydydd Sector, ynglyn ag ardrawiad cyflogau / taliadau gan awdurdodau
lleol ar hyfywdra darparwyr, sicrhawyd y byddir yn anfon copi
i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn.
(d)
Yn yr un modd, awgrymwyd y dylid anfon copi
o adroddiad Llwybr Gyrfa Gofalwyr iddynt yn ogystal.
(ng) O safbwynt cofrestriad deuol, ategwyd bod y gwaith comisiynu yn mynd
rhagddo a rhagwelir y byddir yn ei
gwblhau oddeutu mis Ebrill ac y byddai modd cyflwyno
adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu
ar y modelau posib wedi hynny.
Os oes enghreifftiau
o Gynghorau wedi ymgymryd á’r ddarpariaeth
y byddir yn ei gynnwys o fewn
yr ymchwiliad.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r adroddiad.
(a)
Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu
hwn ar ganfyddiadau
gwaith comisiwn ar “gofrestriad deuol”.
(b)
Gofyn i’r Rheolwr
Cefnogi Aelodau – Craffu anfon y wybodaeth amlinellir yn (j) uchod i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn.
Dogfennau ategol: