Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth Roberts
I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd ar yr
uchod.
10.00 a.m. – 10.45 a.m.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd ynghyd a strategaeth drafft lletya pobl hŷn
a thynnwyd sylw ganddo i brif flaenoriaethau’r strategaeth sef:
·
Cefnogi unigolion i aros yn eu
cartrefi cyn hired â phosib
·
Canfod ardaloedd daearyddol penodol ble mae’n debygol
y bydd galw uchel
·
Sicrhau lletya addas i bobl hŷn
·
Sicrhau bod pobl hŷn Gwynedd yn ymwybodol o’r opsiynau
lletya sy’n bodoli o fewn y Sir a bod gwybodaeth hygyrch ar gael
(b) Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr
Tai at nod y strategaeth
sy’n gosod cyfeiriad o ran anghenion y boblogaeth. Edrychwyd ar ardaloedd
penodol a’r gwasanaeth sydd ar gael yn
barod. Atgoffwyd y Pwyllgor o’r heriau a wyneba’r
Cyngor ynghyd a’r twf yn y boblogaeth. Gwelir twf yn y boblogaeth
85+ gyda chanran uchel ohonynt yn
byw ar ben eu hunan ac yn
ddibynnol ar ofal cymdeithasol. Ymddengys os yw’r llety
yn addas ar gyfer unigolion
eu bod yn gallu aros yn
eu cartrefi gyda’r gost yn
llai i’r gwasanaeth.
Ystyriwyd tueddiadau ac fe welwyd bod diffyg darpariaeth mewn rhai ardaloedd yn enwedig y cymunedau
arfordirol. Yn ogystal, nodwyd
bod twf sylweddol yn y cleifion gyda
dementia a bod hyn yn creu pryderon i’r
dyfodol ac fe geisir cael cydbwysedd
rhwng y ddarpariaeth sy’n bodoli a’r
hyn fydd ei angen i’r
dyfodol.
Adnabuwyd 8 ardal o safbwynt pwysau o ran y boblogaeth ac fe welwyd mewn
rhai ardaloedd bod y boblogaeth yn hŷn,
rhai pobl ifanc yn symud
allan, a bod y patrwm mewnlifiad erbyn hyn yn weddol
gyson. O safbwynt yr 8 ardal,
ystyriwyd y math o ddarpariaeth
fyddai’n briodol ac a fyddai’n cwrdd â’r angen yn
llawn. Byddir yn edrych ar
y rôl sector preswyl i’r dyfodol gan
fod mwy o welyau preswyl / nyrsio na darpariaeth
tai gwarchod.
(c) Nododd y Rheolwr Strategol Tai bod goblygiadau tymor hir ac ariannol i’r strategaeth ac y byddai’n rhaid ystyried partneriaeth gyda chymdeithas tai a fyddai yn ei
dro yn ddibynnol
ar grantiau, a.y.b.
(ch) Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r strategaeth ac fe amlygwyd y pwyntiau
canlynol:
·
Paham na all y Cyngor ystyried cofrestriad deuol yn enwedig
gan fod y Bwrdd Iechyd / AGGCC yn gefnogol?
·
Pryder ynglŷn â lleihad mewn nifer
o welyau preswyl traddodiadol gyda’r gwelyau bellach wedi eu trosglwyddo
i’r Bwrdd Iechyd ac o ganlyniad nad oes lle
i bobl leol ym Mlaenau Ffestiniog
yn benodol, ac nad oes tir
ar gael i sefydlu tai gwarchod ychwanegol yno ar gyfer anghenion
y bobl leol.
·
Pryder pan fo cartrefi preswyl preifat yn cau,
bo’r cyfrifoldeb yn syrthio ar
y Cyngor i gadw’r cartref yn agored hyd
nes y gellir adleoli defnyddwyr y cartref
·
Bod yr ardaloedd a bennir yn y strategaeth yn rhai sydd
o dan bwysau enfawr gyda phobl
yn symud i mewn iddynt i ymddeol
ac oni ddylai’r strategaeth gyfeirio at gydnabyddiaeth ariannol i fedru ymdopi a’r
sefyllfa
·
Gwnaed cais am fanylion pellach o’r nifer o unigolion
sydd dros 65+
·
Siomedig nad oedd y cynllun
gweithredu yn nodi amserlen a phwy sydd yn
gyfrifol am y gweithrediadau
·
Bod diffyg cyfeiriad o fewn y strategaeth ynglyn â maint gwelyau ysbytai
a’r angen i gymryd ystyriaeth o hyn yn enwedig
ar gyfer cleifion sydd yn
dymuno aros gartref ac yn byw
mewn tai hynafol mewn trefi megis Blaenau Ffestiniog lle nad oes
modd ffitio gwely arbenigol ysbyty yn y tai ac o ganlyniad yn gorfodi
pobl oedrannus i fynd i gartrefi neu ysbytai.
(d)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod sefyllfa’r farchnad o ran cartrefi preswyl yn fregus iawn
ac nad oedd hyn yn unigryw
i Wynedd. Cadarnhawyd bod cartref preswyl wedi cau
yn ddiweddar ond fe lwyddwyd
i adleoli’r defnyddwyr mewn cydweithrediad agos â’r Bwrdd
Iechyd. Nododd bod costau cyflogau yn cael effaith
ar hyfywdra rhai o’r cartrefi
ond mae y broblem sylfaenol yw recriwtio
nyrsys. O safbwynt cofrestriad deuol, eglurwyd bod trafodaethau ac ymchwil cychwynnol yn mynd
rhagddynt gyda’r Bwrdd Iechyd er
mwyn ystyried y posibilrwydd o ddarparu cyfleusterau cofrestriad deuol. Bydd hyn yn
cynnwys cael barn gyfreithiol o’r hyn y gellir
ei gyflawni. Cadarnhawyd nad oedd modd
rhoi ymateb buan ar hyn
o bryd gan fod yn rhaid
cael canfyddiadau cychwynnol y gwaith yn gyntaf
o safbwynt deddfwriaeth, a.y.b.
(dd) Eglurwyd mewn
ymateb i ymholiad pellach ynglyn a gwahaniaeth mewn taliadau i gartrefi preswyl, bod costau cartrefi yn amrywio
ac yn ddibynnol ar gyflwr yr
adeiladau, lleoliad a’r math o arbenigedd gofal / darpariaeth, a.y.b. Ar hyn o bryd, nodwyd
bod gwaith yn mynd rhagddo ynglyn
a ffioedd er sicrhau gwasanaeth cost effeithiol o ystyried yr hinsawdd ariannol
sydd ohoni. Sicrhawyd y byddir yn darparu
adroddiad pellach i gyfarfod paratoi nesaf y Pwyllgor Craffu gan wahodd
swyddogion i’r cyfarfod i amlinellu prosesau gosod ffioedd cartrefi
preswyl ynghyd a hyfywdra cartrefi gofal preifat yng
Ngwynedd.
(e)
Esboniwyd, mewn ymateb i ymholiad
ynglyn a datrysiad gwledig y byddai’n ofynnol efallai gwneud datrysiad traddodiadol sef i wneud defnydd o ddarpariaeth sydd ar gael mewn ardal os nad
oes lle i dai gofal ychwanegol.
(f)
O safbwynt gwahaniaethu rhwng y nifer o ddefnyddwyr cynhenid o bobl hŷn a phobl sy’n dod o du allan
y Sir yng nghartrefi preswyl, cadarnhaodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr Adran yn
ceisio cael y ffigyrau i’r Cynghorydd Aled
Evans. Nodwyd ymhellach bod gan yr Adran ambell
achos lle mae awdurdodau dros y ffin yn
ariannu Cyflwynwyd y ddadl i’r Llywodraeth yn amlinellu y problemau mae symudiad
pobl i Wynedd heb eu rhwydweithiau
cefnogol ond yn anffodus cyfyngedig
yw’r llwyddiant hyd yma.
(ff) Esboniodd yr
Uwch Reolwr Tai bod y
Cyngor wedi derbyn grant ar gyfer dau
gynllun ac un ychwanegol ym Mhorthmadog ond nad oedd
ymrwymiad tu hwnt i hyn. Byddai’n ofynnol ystyried opsiynau gwahanol megis cynllun gofal
ychwanegol ysgafn sydd yn fodel rhwng
gofal tai gwarchod a gofal tai ychwanegol. Ni cheir gofal 24awr o fewn y cynllun hwn. Gweithredir model o’r fath ynf
Nghysgod y Gogarth, Conwy.
Penderfynwyd: Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
(i)
Sicrhau bod y materion isod yn cael
eu cynnwys o fewn y strategaeth lletya pobl hŷn:
·
Cydnabyddiaeth bod stoc o dai hynafol
mewn rhai ardaloedd ac felly yn amhosib darparu gwelyau ysbyty yn y tai oherwydd maint penodedig i wely ysbyty a’r
angen i ystyried opsiynau gwahanol yn yr ardaloedd
hyn
·
Bod angen cydnabyddiaeth ariannol ychwanegol ar gyfer rhai
ardaloedd i gyfarch y twf mewn nifer
o bobl hŷn sydd wedi ymddeol
i’r ardaloedd hyn a’r gost
o ddarparu gwasanaethau iddynt.
(ii)
gyflwyno gwybodaeth ychwanegol i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn sydd i’w
gynnal ar 23 Chwefror 2016 i gyfarch y materion canlynol
·
Ffioedd / costau a hyfywedd cartrefi preswyl preifat
·
Llenyddiaeth diweddar gan Brifysgol Bangor
·
Darpariaeth gofal ychwanegol ysgafn (“Extra Care
Light”)
Dogfennau ategol: