Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth Roberts
I ystyried
adroddiad mewn ymateb i adroddiad gwerthuso perfformiad yr Arolygaeth Goal a Gwasanethau Cymdeithasol (AGGCC).
11.30 a.m. – 12.15 p.m.
Cofnod:
Cyflwynwyd Rhaglen
Waith a luniwyd mewn ymateb i Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2014/15 yr
Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rhoddwyd cyfle i
Aelodau graffu’r rhaglen waith ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ganddynt ac
fe ymatebwyd iddynt gan y swyddogion perthnasol:
(a) teimlwyd bod y
materion dan sylw yn rhai a drafodwyd eisoes ac nad oedd cynnydd o ran amserlen
Eglurwyd bod y rhaglen
waith yn ymateb yn benodol i’r hyn a ofynnir gan yr Arolygaeth. Derbyniwyd y sylw ei fod yn ymddangos bod
arafwch dros y misoedd diwethaf ond
roedd hyn am resymau penodol a’r ffaith bod staff yn gorfod edrych ar ffurf
eraill o weithio.
Ategodd Aelod bod
2/3 prosiect wedi bod yn araf ond roedd hyn yn ddibynnol ar
benderfyniadau. Rhaid cofio bod llawer
o’r newidiadau yn newid ymwneud â diwylliant i’r Adran ond byddir yn croesawu
amserlen sy’n nodi dyddiadau penodol yn y cynllun gweithredu.
(b) Pam bod yr Arolygaeth yn mynd o amgylch
mudiadau / unigolion ar hyn o bryd?
Eglurwyd bod yr
Arolygaeth wedi dewis Gwynedd fel un o 6 awdurdod ar draws Cymru sydd yn derbyn
archwiliad ar wasanaeth anableddau dysgu yn benodol a’u bod angen trafod hefo mudiadau / teuluoedd ac
unigolion.
(b) Beth sydd wedi digwydd i drigolion Cartref
Plas y Bryn, Bontnewydd?
Esboniwyd bod y
Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi trefnu i
adleoli trigolion cartref Plas y Bryn i
wardiau penodol mewn ysbytai ac i leoliadau ar draws Gogledd Cymru yn ddibynnol
ar y gofal roeddynt angen. Yn ogystal
roedd rhai wedi symud i gartref Bryn Seiont Newydd. Mewn ymateb bellach i sylw ynglyn a ffioedd
Bryn Seiont, bod gwaith negodi wedi digwydd rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r
cartref ynglyn a ffi safonol am unigolion sydd yn cael eu lleoli yno.
(ch) Bod y
sefyllfa o gau Cartref Bryn Llifon yn broses wahanol ac yn ymwneud a hyfywdra
ariannol a phroblem recriwtio staff.
(d) O safbwynt
morâl staff yr Adran, cadarnhaodd y Pennaeth ei fod o’r farn ei fod yn isel ond rhaid cofio bod yr Adran
yn mynd drwy newidiadau sylweddol o ran diwylliant, ffurf a phrosesau gwaith
gyda’r ail-strwythuro yn creu ansicrwydd i staff. Hyderir, unwaith y bydd eglurder o’r
newidiadau, y byddir yn gallu symud ymlaen ac y bydd morâl yn gwella. O ran amserlen ac o gofio bod y newidiadau ar
raddfa sylweddol, rhagwelir y byddai’r sefyllfa yn cymryd oddeutu 12-15 mis i
setlo.
(dd) awgrymir y byddai’n fanteisiol i enwebu 2 neu
3 aelod o blith y Pwyllgor Craffu hwn i gynorthwyo gyda llunio briff i’r
cynllun strategol o safbwynt trefniadau cymorth i ofalwyr.
(e) Pwysigrwydd i gadw golwg a rhoi sylw i
gefnogi gofalwyr ac o gofio bod rhai
ohonynt yn blant ysgol yn enwedig pan fo unigolion yn cael eu hanfon o ysbytai heb
dderbyn asesiad.
(f) Mynegwyd pryder gan aelodau, o ystyried y
toriadau arfaethedig, na fyddai’r Adran yn gallu ymdopi a holl ofynion y Ddeddf
Llesiant ac y byddai’r Cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa o fesurau arbennig.
Mewn ymateb,
esboniwyd bod arbedion effeithlonrwydd y gellid ei gyflawni o fewn yr Adran a chydnabuwyd bod gwastraff o fewn
rhai sustemau ymhob gwasanaeth. Fodd
bynnag, nodwyd bod y toriadau arfaethedig yn ychwanegol ar ben yr arbedion
effeithlonrwydd ac wrth gwrs yn golygu y byddir yn gorfod lleihau rhai
gwasanaethau. Pwysleisiwyd y byddir yn ceisio sicrhau bod unrhyw doriad yn cael
cyn lleied o effaith ar drigolion Gwynedd ag sydd bosib.
(ff) Cyfeiriwyd at bwynt 4.2 lle nodir y bydd y
ddau Aelod Cabinet yn allweddol i sicrhau llwyddiant y rhaglenni moderneiddio a
gofynnwyd beth fyddai rôl y Pwyllgor Craffu yn hyn o beth.
Eglurwyd bod yr
holl Aelodau yn rhan o’r rhaglen o newidiadau sydd ar y gweill o ran arbedion a
thoriadau a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bod yr Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y
gwaith yn cael ei gyflawni. Yn ogystal,
nodwyd pwysigrwydd i rôl y craffwyr a bod yn digwydd mewn mwy nag un ffordd
boed hyn gan aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn, y Cyfarwyddwr Corfforaethol ac
Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod yr Adran yn mynd i’r
cyfeiriad cywir.
Penderfynwyd:
(a) Derbyn a nodi’r rhaglen gwaith yn
ddarostyngedig i dderbyn amserlen gadarn ar gyfer gweithredu i’w gyflwyno i
gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn ar 23 Chwefror 2016.
(b) Enwebu'r aelodau canlynol i gynorthwyo'r swyddogion
perthnasol a’r
Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn llunio briff ar gyfer y cynllun
strategol mewn perthynas â chymorth i ofalwyr:
Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones
Y Cynghorydd R H Wyn Williams
Dogfennau ategol: