Derbyn diweddariad ar sut mae Adran Economi a Chymuned yn gweithredu’r
Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran
Economi a Chymuned a cyfeiriodd yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Nodwyd bod lleihad bychan iawn i’w weld yn nifer y staff
sydd wedi cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Credwyd bod hyn yn adlewyrchiad o’r cynnydd yn y nifer o staff dros dro a
benodwyd yn ystod y flwyddyn diweddaf e.e. wardeiniaid ychwanegol er mwyn
ymateb i’r sefyllfa cofid.
-
Adroddwyd bod cyfleoedd wedi codi i ddatblygu iaith y
sawl sydd ddim yn cwrdd â’r gofynion. Nodwyd bod unigolion wedi manteisio ar y
cyfleoedd ac wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r anogaeth i ddatblygu eu
sgiliau ieithyddol. Ychwanegwyd bod heriau yn bodoli wrth gwblhau hunan asesiad
iaith oherwydd bod nifer o staff tymhorol dros dro o fewn yr Adran a rhai
bellach wedi gadael.
-
Amlygwyd rhai meysydd gwasanaethau newydd gafodd eu
cyflwyno yn ystod y cyfnod cofid. Yma cymerwyd y cyfle i roi pwyslais ar ddarparu
gwybodaeth drwy’r Gymraeg a hyrwyddo gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg.
-
Adroddwyd
bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Archifdai yn adnoddau gwerthfawr i deuluoedd
sy’n galluogi plant i glywed y Gymraeg ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mynegwyd pwysigrwydd y gwasanaeth Archifau sy’n paratoi pecynnau gwybodaeth a
deunyddiau Cymraeg i Ysgolion Gwynedd, bellach roedd mwy o bwyslais ar yr
adnodd yma.
-
Cyfeiriwyd
at y gwaith hyrwyddo’r diwylliant Cymreig sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth
Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau. Soniwyd am y gwaith ar effaith cynnydd
ymwelwyr y Sir ar yr iaith sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Nodwyd bod
mesuryddion bellach yn eu lle i fesur yr effaith ar iaith y Sir.
-
Mynegwyd disgwyliad yr Adran i bartneriaethau sy’n
cydweithio â nhw i ddarparu deunydd yn ddwyieithog. Ychwanegwyd fod yr Adran yn
sicrhau bod gwefannau ac apiau ar gael yn ddwyieithog yn ogystal â sicrhau eu
bod ar gael yn Gymraeg i Siroedd a phartneriaethau eraill. Adroddwyd bod yr
Adran wedi cryfhau’r gofynion iaith fel amod mewn tendrau wrth rannu
cytundebau.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol:
-
Diolchwyd am yr adroddiad llawn a mynegwyd y byddai’n
ddiddorol gweld beth fydd canlyniad y gwaith ar effaith ymwelwyr ar yr iaith
gan gydnabod maint y dasg.
-
Holwyd pryd fydd y gwaith hwn yn cael ei
gyhoeddi.
-
Gwnaethpwyd sylw bod lleoliad yn chwarae rhan ar ba
mor niweidiol gall twristiaeth fod ar iaith mewn ardal benodol. Croesawyd y
gwaith hwn a chredwyd y bydd y canlyniadau yn ddiddorol.
-
Gofynnwyd a yw’n bosib mesur faint o dwristiaeth mae
hanes, iaith a diwylliant Cymru yn llwyddo i’w ddenu i Wynedd ac i Gymru sef
twristiaeth fwy diwylliannol.
-
Mynegwyd siom fod y Cyngor Celfyddydau ddim yn
cefnogi prosiectau sy’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Economi a
Chymuned:
-
Bod llawer o ffactorau yn cyfrannu at effaith ymwelwyr
ar yr iaith ac nad yw’n hawdd dadansoddi’r effaith. Adroddwyd bod y gwaith hwn
bellach wedi ei gomisiynu. Credwyd y bydd y canlyniad yn hynod o ddiddorol a
byddai’r Adran yn hapus i rannu’r wybodaeth efo’r Pwyllgor yn y cylch nesaf.
-
Nodwyd bod gwaith ar y Cynllun Economi Ymweld wedi ei
baratoi ac wedi derbyn cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cyfnod ymgynghori.
Gobeithiwyd y bydd y gwaith ymgynghori yn dod i ben ym mis Mehefin. Rhagwelir
ar ôl yr haf bydd y Cynllun Economi Ymweld yn cael ei gymeradwyo. Nodwyd bod y
gwaith ar adnabod mesuryddion yn digwydd ar hyn o bryd a bydd gan yr Adran well
syniad o'r dangosyddion erbyn yr haf.
-
Cytunwyd ar y sylw bod lleoliad yn ffactor ar effaith
twristiaeth ar iaith ardal benodol. Amlygwyd pe bai llawer o dai Air B&B
mewn pentrefi yna gall hyn gael effaith negyddol ar iaith o gymharu ag effaith
ymwelwyr ar drefi mwy.
-
Nad oes data yn bodoli i ddangos faint o dwristiaeth
gafodd eu denu i’r ardal ar sail diwylliant yn unig. Credwyd ei fod yn gyfuniad
o ffactorau sy’n cynnwys diwylliant, amgylchedd ac atyniadau’r ardal. Yn
hytrach mae’r cynllun sydd wedi bod yn cael ei weithredu wedi bod yn
canolbwyntio ar geisio ymestyn y tymor fel bod twristiaeth yn ymweld trwy’r
flwyddyn ac nid yn unig yn ystod tymor yr haf. Adroddwyd bod hyn yn cael
effaith negyddol ar ansawdd y swyddi a’r cyflogau sy’n cael eu cynnig yn y
sector. Ychwanegwyd bod Hafan y Môr bellach yn cynnig cytundebau blynyddol yn
hytrach na tymhorol fel bod y staff yn cael cyflog trwy’r flwyddyn. Ategwyd fod
yr Adran yn ceisio canolbwyntio ar dwristiaeth ddiwylliannol sydd yn dueddol o
yn ymweld allan o dymor ac yn edrych ar gryfhau gwerthu diwylliant Cymreig fel
atyniad ynddo ei hun.
-
Adroddwyd nad yw’r Cyngor Celfyddydau wedi bod yn
gwrthwynebu prosiectau ond yn hytrach wedi bod yn blaenoriaethu adnoddau a heb
fod yn hyrwyddo. Credwyd fod cyfle yma i ddylanwadu, nodwyd bod yr Adran yn
cydweithio ac eisoes wedi cychwyn tynnu eu sylw i’r cyfleoedd maent yn ei
golli.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: