Adeiladu 23
annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystad mewnol, pwll
gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106
yn clymu 7 o’r tai fel rhai fforddiadwy a gwneud cyfraniad ariannol tuag at
lecynnau chwarae ac i amodau:
1.
5 mlynedd
2.
Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3.
Llechi naturiol.
4.
Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno
gyda’r ACLL.
5.
Amodau Priffyrdd - lleiniau gwelededd, cwblhau ffordd ystâd,
cwblhau llefydd parcio
6.
Cwblhau tirlunio yn unol gyda’r manylion a gyflwynwyd.
7.
Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E
ar gyfer y tai fforddiadwy.
8.
Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai.
9.
Sicrhau stribyn cynnal a chadw gerllaw’r Afon Cwrt.
10.
Cydymffurfio gyda’r adroddiad ecolegol.
11.
Unol gyda’r asesiad coed.
12.
Amod archeolegol.
13.
Oriau gwaith cyfnod adeiladu.
14.
Cyflwyno a chytuno datganiad dull adeiladu.
15.
Gwydr afloyw yn y ffenestr llawr 1af ar dalcen de ddwyrain
llain 3 i fod yn afloyw.
Nodiadau Dwr Cymru, Cyfoeth
Naturiol Cymru, SUDS, Datblygiad Mawr
Cofnod:
Adeiladu 23 annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystâd
fewnol, pwll gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol
a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd
ar gyfer 16 o dai annedd marchnad
agored a 7 tŷ fforddiadwy. Byddai’r tai ar y safle yn gymysgedd
o rhai deulawr a tri llawr, yn fathau
amrywiol fel a ganlyn: -
Math A a B tai 4 ystafell
wely gyda modurdy
Math C - tai 3 ystafell wely
gyda modurdy – y tai yn amrywio o ran eu cynlluniau mewnol
a gweddau allanol.
Math D - tai 2 lawr 2 a 3 ystafell
wely gyda (a heb) fodurdy cyfagos
Math E ac F - 7 uned fforddiadwy
yn darparu cymysgedd o 2 a 3 ystafell wely.
Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli yn rhannol y tu mewn
a tu allan i’r ffin datblygu
gyda’r tir ble bwriedir lleoli’r
tai wedi ei leoli oddi fewn
i ffin ddatblygu
Criccieth, a’r ardal parth tirweddu
a phwll gwanhau dŵr wyneb yn gorwedd y tu
allan i’r ffin. Ategwyd bod rhan o’r safle
sydd o fewn y ffin ddatblygu wedi ei ddynodi
yn benodol ar gyfer tai yn
y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) - safle T41. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r unedau preswyl yn erbyn gofynion
Polisi TAI 2 CDLl. Mynegwyd bod y safle wedi ei adnabod
fel un ar gyfer 34 o unedau, ond y cais yn
gofyn am adeiladu 23 o dai ar y safle
(sydd yn is na’r unedau amcangyfrifiedig
ar gyfer y safle ym Mholisi
TAI 2).
Amlygwyd
bod y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd gyda’r cais yn nodi
bod safle T41 wedi bod yn destun asesiad
manwl o gyfyngiadau oedd yn cynnwys
yr angen
i gadw cliriad
o 7 medr bob ochr i gwrs dŵr
Afon Cwrt sy’n rhedeg ar
draws y safle.
Yn ychwanegol, nodwyd na ellid
datblygu rhan o’r safle oherwydd
presenoldeb cylfat sy’n rhedeg ar
hyd ac yn gyfochrog â gerddi cefn tai Teras y Gogledd ynghyd a chael gofod clirio
bob ochr i ddraen dŵr wyneb o Afon Cwrt
i’r pwll gwanhau arfaethedig rhwng Bryn Cleddau a Llain 3.
Yn unol â Pholisi ISA 5, disgwylir i gynigion
ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau
agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol
â safonau meincod Fields in
Trust (FiT). Eglurwyd bod y
wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd yn dangos bod diffyg
llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn
lleol fel rhan o’r bwriad
ac felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer
cyfarfod a’r diffyg darpariaeth. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n
fodlon gwneud cyfraniad o £4848.66 a gellid sicrhau hynny drwy
gytundeb cyfreithiol 106.
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu creu ystâd
o dai ar gae amaethyddol gyda’r fynedfa bresennol i’r cae i’w gael oddi ar drac
sy’n rhedeg heibio pen gogleddol Teras y Gogledd. Fel rhan o’r cais bydd
mynedfa newydd yn cael ei chreu yn uniongyrchol i’r B4411. Adroddwyd bod yr
Uned Trafnidiaeth wedi cyflwyno sylwadau yn datgan fod y wybodaeth ychwanegol a
dderbyniwyd parthed y cais ynghyd ag asesiad llawn ar lain welededd y gyffordd
gyda’r B4411 yn cyfarch canllawiau NCT 18.
Ategwyd bod man newidiadau wedi ei wneud i’r cynllun i wella darpariaeth
i gerddwyr ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth sylwadau pellach i’w
cynnig.
Adroddwyd bod materion mwynderau
cyffredinol a phreswyl, materion bioamrywiaeth, draenio tir, treftadaeth
ac archeolegol yn dderbyniol ac o ganlyniad i’r asesiad llawn
ystyriwyd fod y bwriad yn un derbyniol
i’w ganiatáu yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol a bod cytundeb 106 yn clymu 7 o’r
tai fel rhai fforddiadwy ac yn sicrhau cyfraniad ariannol tuag at lecynnau chwarae.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr asiant y sylwadau canlynol:
·
Cais gan
adeiladwr tai lleol (Cwmni Rhys Efans Cyf) i godi
23 o dai gyda 7 ty fforddiadwy, ar safle wedi ei
ddynodi yn benodol yn y CDLl
ar gyfer adeiladu tai.
·
Argymhelliad i ganiatau gan
y Swyddogion a hynny yn dilyn trafodaeth,
ymgynghoriad ac asesiad trylwyr cyn cyflwyno
ac yn ystod cyfnod ystyried y cais.
·
Bod rhywfaint o wrthwynebiad i’r datblygiad gan drigolion lleol
- nifer yn amlygu pryder o’r
dynodiad tai. Er hynny, nid yw’r
datblygiad yn cael effaith andwyol
ar yr ardal nac ar drigolion
lleol.
·
Bod y dynodiad ar gyfer
darparu 34 o dai ond y cais yn
gofyn am adeiladu 23 o dai – hyn yn
adlewyrchu cyfyngiadau ar y safle ac yn
gadael tir ger Ffordd Caernarfon fel llecyn agored sylweddol
rhwng tai cyfagos a’r datblygiad newydd.
·
Bod pryderon gan rai trigolion am y fynedfa i Ffordd Caernarfon, ond y fynedfa wedi
ei asesu nifer o weithiau (gan gynnwys cais
am 18 ty a ganiatawyd gan y
Pwyllgor Cynllunio yn 2005 ar gyfer
yr un fynedfa). Wrth ystyried y dynodiad tai
wrth baratoi’r CDLl ac fel rhan
o’r cais yma, ystyriwyd bod y cynllun safle yn
dangos yn glir mai dim ond
o Ffordd Caernarfon y gellid
creu mynedfa.
·
O safbwynt marchnata’r tai, nodwyd bod yr adeiladwr lleol am fabwysiadu'r un strategaeth a ddefnyddiwyd ar ei ddatblygiad
diweddar yn Gerddi Madryn, Chwilog lle gwerthwyd
15 tŷ i Gymry Cymraeg lleol.
·
Bod y datblygwr eisoes wedi derbyn nifer
o ymholiadau gan bobl o ardal Criccieth
a Porthmadog am y tai a hynny heb
farchnata. Rhagwelwyd y byddai o leiaf 18 neu 80% o’r tai yn cael
eu gwerthu i bobl o’r
ardal leol.
·
Nad oedd
gwrthwynebiad i’r datblygiad gan y Cyngor Tref nac unrhyw un o’r
Ymgynghorwyr eraill gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth sydd wedi rhoi
sylw manwl i effaith y datblygiad
ar drafnidiaeth a cherddwyr sy’n defnyddio Ffordd Caernarfon.
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:
·
Bod y bwriad yn rhannu
dwy farn yn lleol
·
Awgrymu i’r Pwyllgor ymweld
â’r safle
d) Cynigwyd ac eiliwyd ymweld â’r safle
oherwydd yr effaith ar yr ardal ac ar gymdogion
Mewn ymateb i’r cynnig,
nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod y safle wedi ei ddynodi
ar gyfer tai: bod y dwysedd yn is na’r
hyn a ddynodwyd yn T41 a bod yr elfennau trafnidiaeth a dŵr wedi eu cyfarch.
Gyda’r egwyddor wedi ei sefydlu
oherwydd ei ddynodiad, amlygodd y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor ystyried
materion y gellid dylanwadu neu ychwanegu arnynt.
e) Pleidleisiwyd ar y cynnig i gynnal
ymweliad safle - Disgynnodd y cynnig
f) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
g) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y cynllun yn ymateb
i’r angen yn lleol
·
Yn gynllun
delfrydol
Mewn ymateb i
sylw yn ymwneud
a’r ffordd o fewn yr ystâd yn
dod i derfyn
ar y ffin a’r awgrym y gellid
adeiladu tai tu hwnt i’r ffin
yn y dyfodol, nodwyd bod yr ardal yma tu allan
i’r ffin datblygu, ond bod angen creu mynediad
amaethyddol ynghyd a mynediad at y pyllau draenio. Nid yw
yn awgrymu datblygiad pellach i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD: Caniatáu
yn ddarostyngedig i gytundeb 106 yn clymu 7 o’r
tai fel rhai fforddiadwy a gwneud cyfraniad ariannol tuag at lecynnau chwarae ac i amodau:
1. 5 mlynedd
2. Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Llechi naturiol.
4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar
gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.
5. Amodau Priffyrdd - lleiniau gwelededd, cwblhau ffordd ystâd, cwblhau
llefydd parcio
6. Cwblhau tirlunio yn unol
gyda’r manylion a gyflwynwyd.
7. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E ar gyfer y tai fforddiadwy.
8. Amod i sicrhau arwyddion
ac enwau Cymraeg i’r tai.
9. Sicrhau stribyn cynnal a chadw gerllaw’r Afon Cwrt.
10. Cydymffurfio gyda’r adroddiad ecolegol.
11. Unol gyda’r asesiad coed.
12. Amod archeolegol.
13. Oriau gwaith cyfnod adeiladu.
14. Cyflwyno a chytuno datganiad dull adeiladu.
15. Gwydr afloyw yn y ffenestr
llawr 1af ar dalcen de ddwyrain llain 3 i fod
yn afloyw.
Nodiadau Dwr
Cymru, Cyfoeth Naturiol
Cymru, SUDS, Datblygiad Mawr
Dogfennau ategol: