Addasu'r
capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a
llecynnau parcio
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-
Cofnod:
Addasu'r
capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a
llecynnau parcio
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer addasu ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl, creu mynediad newydd i
gerbydau ynghyd a darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil y safle sydd gyferbyn
a'r Stryd Fawr yn Neiniolen.
Adroddwyd
bod y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ar 01.11.21
gydag argymhelliad gan y Pwyllgor i ohirio’r cais fel bod modd derbyn
gwybodaeth ychwanegol ynglŷn a’r isod:
·
Cadarnhad byddai’r fynwent yn cael ei gwarchod.
·
Mwy o fanylion draenio tir gyda sicrhad na fydd y cylfat yn achosi
problemau ar y safle nac yn lleol.
·
Cadarnhad am yr angen am fflatiau yn Neiniolen
e.e faint sydd ar y rhestr aros?
·
Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bydd y datblygiad yn cael ei
feddiannu gan bobl leol?
Mewn ymateb
i’r pryderon uchod, cyflwynwyd y wybodaeth isod gan ymgeisydd.
Y fynwent -
asiant yr ymgeisydd wedi cadarnhau bydd y fynwent yn cael ei ddiogelu drwy osod
ffens diogelwch math Harris yn ystod y gwaith adeiladu. Ar ôl cwblhau’r gwaith,
bydd y ffens yn cael ei dynnu lawr a chynllun rheoli yn cael ei ddarparu ar
gyfer torri’r gwair a gwaith cynnal a chadw cyffredinol fydd yn cynnwys
glanhau’r cerrig coffa.
Manylion
draenio - cyflwynwyd cynlluniau’n dangos lleoliad a rhediad y cwlfert. Wrth
ystyried rhediad a gosodiad y cwlfert mewn perthynas
â’r adeiladwaith presennol, ni fydd y bwriad cyfredol yn amharu ar y cwlfert mewn unrhyw fodd. Tynnwyd sylw at sylwadau
diweddaraf yr Uned Dwr ac Amgylchedd sy’n datgan nad oeddynt yn rhagweld unrhyw
effaith tebygol ar y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle yn dilyn derbyn
gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd.
Yr angen am
fflatiau yn Neiniolen - derbyniwyd gwybodaeth pellach
gan gwmni gwerthwyr tai lleol cymwysedig yn datgan bod gwir angen am y math yma
o unedau preswyl yn Neiniolen gyda 30 ymholiad ar
gyfartaledd ar gyfer pob uned fforddiadwy i’w rhentu ac sydd wedi cael eu
cymhwyso ar gyfer fforddiadwyaeth. Nodwyd bod
ganddynt hefyd 62 o ymgeiswyr ar eu rhestr sydd yn edrych ar eiddo yn nalgylch
Deiniolen sydd yn gymysg o brynwyr tai cyntaf a rhai sydd yn edrych am unedau
llai. Ategwyd bod y cwmni gwerthwyr tai wedi ymgymryd ag asesiad o gyflwr
cyfredol y farchnad dai lleol yn Neiniolen a’r cylch
ac wedi cynnig ffigyrau sy’n parhau i gadarnhau (yn dilyn ymgynghoriad gyda’r
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd) y byddai prisiau rhentu a phrisiau perchnogion
preswyl/owner occupier yr
unedau yn fforddiadwy yn ôl y fformiwla o fewn Canllaw Cynllunio Atodol: Tai
Fforddiadwy.
Meddiannaeth
y fflatiau ar gyfer bobl leol - y cwmni gwerthwyr tai yn cadarnhau y byddent yn
hysbysebu’r fflatiau gan ddefnyddio llyfrynnau a hysbysebion dwyieithog ynghyd
a gosod graddfa amser i bobl leol gael y cyfle cyntaf i rentu/prynu’r fflatiau
cyn eu bod yn mynd ar y farchnad agored. Fodd bynnag, atgoffwyd yr Aelodau mai
un o’r fflatiau sydd angen bod yn fforddiadwy a gellid sicrhau fod yr uned yn
fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth i’r rhai hynny sy’n gallu profi’r angen
am dŷ fforddiadwy drwy gynnwys amod priodol.
Nodwyd bod yr egwyddor
o ddarparu unedau preswyl ar safle hen gapel ac ysgoldy yn Neiniolen
wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 3, TAI 15, PS 17 ac ISA 2, yn parhau i
fod yn dderbyniol. Yn dilyn asesu’r cais, ystyriwyd y
byddai’r bwriad i ddarparu 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy yn
ymateb yn bositif i’r anghenion ar gyfer unedau preswyl bychain yn Neiniolen ac ni ystyriwyd ei fod y bwriad yn groes i
bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol
yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi hyn.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau
canlynol:
·
Bod
y cais wedi ei ohirio ym mis Tachwedd am 4 rheswm gwrthod
·
Ei fod yn gobeithio y bydd y ffens a’r ymateb i’r
pryderon draenio tir yn ddigonol
·
Nad oedd, mewn 10 mlynedd fel Aelod Lleol, wedi
cael ymholiad am fflat
·
Mai pwysig yw profi’r angen yn ward Deiniolen yn
unig – nid y dalgylch
·
Os daw’r fflatiau yn wag, pwy gaiff eu cartrefu
ynddynt (o ystyried lleoliad Hostel Noddfa)?
·
A
oes modd gosod amod ar gyfer unigolion / cyplau ifanc mewn gwaith yn unig?
·
Derbyn
yr angen am rywbeth yn lle'r Capel
·
Nad
oedd trafodaethau lleol wedi eu cynnal ers Awst 2021
·
Angen sicrwydd o leoliad y fynedfa newydd
·
Deiseb
wedi ei harwyddo gan 100 o unigolion yn amlygu pryderon ynglŷn â’r
datblygiad
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nodwyd mai ffigyrau dalgylch oedd wedi eu hystyried ar gyfer yr angen
am dai ac nid ffigyrau ward Deiniolen;
bod y fynedfa newydd yn cael ei gosod yn ne - orllewin y safle ac wedi
ei gytuno gyda’r Uned Drafnidiaeth; nad oedd modd gosod amod ar gyfer ‘y math’
o breswylwyr i’r fflatiau.
c) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen sicrwydd am y nifer o bobl
Deiniolen sydd angen tŷ yn Neiniolen – angen
ffigyrau lleol ac nid dalgylch
·
Bod y cais yn un i’w groesawu – capel
yn wag ac yn addas ar gyfer fflatiau prynwyr tai tro cyntaf
·
Bod y ffens ar gyfer y fynwent yn
dderbyniol
·
Angen cadarnhad o’r gorffeniad gro chwipiad yn unol â sylwadau
CADW
·
Byddai cyflwr yr adeilad yn gwaethygu os na fyddai’r cais y cael
ei ganiatáu
PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau a dogfennau a
gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Amodau priffyrdd.
4. Cyflwyno cynllun tirlunio/plannu coed.
5. Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth a
gwella bioamrywiaeth.
6. Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar
gyfer y datblygiad ynghyd ag arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle.
7. Sicrhau cynllun/trefniant ar gyfer yr
uned fforddiadwy.
8. Angen arolwg ffotograffig o’r adeilad
yn unol â gofynion Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd.
9. Deunyddiau yn unol â sylwadau CADW
Dogfennau ategol: