Cais i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop,
3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghŷd â mynediad
gerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynllun
diwygiedig yn dangos ffenestr do yn gegin uned 1 ar lefel uwch fel y trafodwyd
yn baragraff 5.13 ac yn unol â’r amodau isod:
i. Nodiadau:
ii. Tynnu sylw at nodiadau Trafnidiaeth
Cynulliad
iii. Angen trwyddedau Ffyrdd perthnasol, cynllun
rheol traffig ac arwyddion Cymraeg
iv. Nodiadau Ffyrdd
v. Nodyn Dŵr Cymru
vi. Nodyn Wâl Gyfunol
Cofnod:
Cais i
ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ
fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio
(Ail-gyflwyniad)
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/04/22
i weld natur a chyfyngiadau’r safle
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad
wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad
arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal
siop (A1) gyda fflat (2 ystafell wely) uwchben y siop a thŷ (1 ystafell
wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn
cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda
gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un.
Cyflwynwyd y
cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol
Eglurwyd bod y
safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau
Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag
(sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb.
Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad
yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS
15 y Cynllun Datblygu Lleol.
Adroddwyd bod
Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol a’r safle o
fewn ffin datblygu’r ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y
bwriad yn cynnig un uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi
TAI8 Cymysgedd Priodol o Dai
Yng
nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o
ymdoddi i’w gyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol
a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd
cadarnhaol o safle adeilad helaeth sydd wedi sefyll yn segur am gyfnod hir.
Ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl.
Amlygwyd y
byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd
Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned,
ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar
strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn
hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y
dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw
pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn
â materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau,
ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y siop flaenorol megis y lorïau danfon a
pharcio staff wedi cynhyrchu symudiadau traffig trwm. Gellid dadlau y byddai’r
symudiadau traffig dau gar yn peri llawer llai o aflonyddwch na loriau danfon a
symudiadau cwsmeriaid a staff y defnydd blaenorol.
Adroddwyd
y rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu
safleoedd sydd wedi eu datblygu o’r blaen, ac ystyriwyd y byddai’r bwriad yn
cyflawni hynny gan wella ansawdd gweledol safle amlwg ar y Stryd Fawr gyda
dyluniad a graddfa’r datblygiad yn gydnaws a’r cyffiniau.
Yn manteisio ar
yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Bod y Cyngor Cymuned a chymdogion i’r safle yn
amlygu pryder bod y bwriad yn orddatblygiad
·
Pryderon am ddiogelwch sylfeini adeiladau cyfagos
·
Allanfa dân adeilad cyfagos wedi ei osod ar yr
adeilad sydd i’w ddymchwel
·
Na fydd y wal ar hyd y terfyn (rhwng y ddau adeilad
a thy cymydog) yn ddigon uchel – yn effeithio ar
breifatrwydd cymdogion
·
Pryder am oredrych dros
gefn eiddo a gardd cymdogion – awgrym codi wal o 1.8m i 2.4m
b)
Cynigiwyd gwrthod y cais – ni chafwyd eilydd
c)
Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Byddai’r bwriad yn welliant i’r safle sydd ar y
Stryd Fawr
·
Bod y bwriad yn un positif
·
Bod y safle wedi bod yn wag ers 14 mlynedd
·
Awgrym codi’r wal derfyn i 2.1m mewn ymateb i
bryderon y cymdogion
PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r
hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynllun
diwygiedig yn dangos ffenestr do yn gegin uned 1 ar lefel uwch fel y trafodwyd
yn baragraff 5.13 ac yn unol â’r amodau isod:
1. 5 mlynedd
2. Unol â’r cynlluniau
3. Llechi
4. Cytuno gorffeniad allanol
5. Ffenestr llawr cyntaf ar ochr
ddwyreiniol Uned 1 i o fod o wydr afloyw ac o ddyluniad ‘top hung’ i rwystro gwelededd.
6. Ni ddylai gosodiad y ffenestri to ar
ddrychiad dwyreiniol yr unedau fod dim is na 1.7 medr o lefel llawr mewnol.
7. Cyflwyno a chytuno cynllun tai
fforddiadwy a threfniant i roli’r fforddiadwyedd i’r
dyfodol.
8. Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle,
rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl mewn ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Ddatganiad Dull o’r
gwaith a fwriedir ei ymgymryd ar gefnffordd yr A470.
9. Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle,
rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl a ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Gynllun Rheoli
Traffig.
10. Rhaid cwblhau’r fynedfa i'r ffordd sirol
a’r llecynnau parcio cyn preswylio yn yr unedau preswyl.
11. Rhaid gosod bocsys adar y to yn unol ag
argymhellion rhan 8 o asesiad Ecolegol Cychwynnol, Cambrian
Ecology.
12. System Ddraenio Cynaliadwy (SUDS).
13. Rhaid rhoddi enwau Cymraeg ar yr unedau
sy’n ffurfio rhan o’r datblygiad.
14. Codi wal derfyn 2.1m o uchder yn lle 1.8
i. Nodiadau:
ii. Tynnu sylw at nodiadau Trafnidiaeth
Cynulliad
iii. Angen
trwyddedau Ffyrdd perthnasol, cynllun rheol traffig ac arwyddion Cymraeg
iv. Nodiadau Ffyrdd
v. Nodyn Dŵr Cymru
vi. Nodyn Wâl Gyfunol
Dogfennau ategol: