Adeiladu tŷ
fforddiadwy
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Wyn Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106
Amodau:
5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, draenio tir,
tirweddu, deunyddiau a gorffeniadau, enw
Cymraeg.
Cofnod:
Adeiladu
tŷ fforddiadwy
a)
Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn
cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 21-3-22 i gyfnod o gnoi cil. Gohiriwyd penderfynu’r cais er galluogi'r
ymgeisydd i brofi ei fod mewn angen ac yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Pwrpas
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau
posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol
ar y cais.
Amlygwyd
bod yr ymgeiswyr wedi e‘u hail asesu ar sail
gwybodaeth ariannol newydd cynhwysfawr a ddaeth i law, oedd yn cynnwys Prisiad
Llyfr Coch, prisiad eu tŷ presennol a gwybodaeth am eu morgais ac ecwiti
tebygol. Derbyniwyd copi o ymateb Tai Teg gan yr ymgeisydd yn cadarnhau eu bod
wedi asesu’r cais yn erbyn eu meini prawf. Gwrthodwyd ei cais oherwydd
ystyriwyd bod eu heiddo presennol yn addas ar gyfer maint y teulu, yn
fforddiadwy ac nad oedd unrhyw anghenion penodol ganddynt. O ganlyniad, nid
oedd yr angen am dŷ fforddiadwy wedi cael ei brofi yn llawn a bod rheswm
gwrthod yr ACLl, ‘Nid
yw’r ymgeiswyr wedi profi angen am dŷ fforddiadwy, felly mae’r bwriad yn
groes i faen prawf 1 a 7 o Bolisi TAI 6, Tai 15 a PS 17 Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn ac i ofynion y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy
(2019)’, yn parhau i sefyll.
Gwerthfawrogwyd
bod yr ymgeisydd yn profi problemau gwrthgymdeithasol yn eu heiddo presennol ac
yn dymuno symud, fodd bynnag, yn unol ag asesiad Tai Teg, roedd tŷ
presennol yr ymgeiswyr o faint a phris fforddiadwy ac yn addas i’w pwrpas. Ystyriwyd
hyn yn ‘ddymuniad’ gan yr ymgeiswyr yn hytrach nac ‘angen’ ac nad oedd materion
personol rhwng cymdogion yn faterion cynllunio perthnasol. Ni ddylai’r pwyllgor
roi pwysau ar hyn wrth ystyried y cais.
Yng nghyd-destun fforddiadwyedd y tŷ arfaethedig nodwyd mai £315,00
oedd pris marchnad agored y tŷ. Adroddwyd nad oedd yr Uned Strategol Tai
wedi ymateb i gadarnhau’r elfen fforddiadwyedd na
chanran disgownt tebygol fyddai’n rhesymol ar gyfer eiddo newydd sengl
canolradd, ond awgrymwyd disgownt o oddeutu 50% i ddod a’r pris yn fforddiadwy
ar gyfer eiddo canolradd i £157,000. Cyfeiriwyd at gynnydd mewn prisiau tai a
phryder y gall pris yr eiddo / tir gynyddu yn sylweddol yn y dyfodol i lefel
lle gellid dadlau na fyddai’r eiddo yn fforddiadwy beth bynnag fyddai’r lefel
disgownt, a phosibilrwydd o dderbyn cais i godi’r cytundeb 106. Ategwyd bod y CDLl ond yn cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy ble
gellid sicrhau eu bod yn aros yn fforddiadwy am byth, ond gyda’r bwriad
arfaethedig, mewn lleoliad o’r fath gyda golygfeydd arfordirol all ddylanwadu
ar bris y tŷ i’r dyfodol, ni ellid bod yn sicr y byddai’r tŷ yn
parhau’n fforddiadwy i’r dyfodol.
Amlygwyd y
risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y
swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael ei asesu yn drylwyr
gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod
gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau mabwysiedig
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a chenedlaethol
a pholisïau cynllunio cenedlaethol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cais yn un unigryw
·
Bod y teulu ar hyn o bryd yn byw yn
Nefyn o dan amgylchiadau anodd iawn, yn derbyn ymosodiadau gwrthgymdeithasol
·
Bod eu tŷ presennol yn anaddas -
nid yw bellach yn cwrdd â’u hanghenion - dim lle parcio, cegin rhy fach
·
Yr ymgeisydd wedi ymateb a
chydymffurfio gyda gofynion y Swyddogion drwy gyflwyno adroddiadau a gwybodaeth
ychwanegol
·
Y Pwyllgor wedi cefnogi’r cais ym
mhwyllgorau Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022
·
Cyfeiriwyd at ebyst
a dderbyniwyd gan Tai Teg lle nodir bod fforddiawyedd
pob cais yn cael eu hystyried fesul achos
·
Cartref presennol yn gyn dŷ Cyngor
gydag amod 157 - hyn yn cyfyngu pwy all fyw yno
·
Bod yr
Adran Tai wedi rhoi cynnig ar y tŷ a’r ymgeisydd wedi derbyn y
cynnig - tŷ felly yn cael ei ryddhau i deulu arall lleol
·
Bod Strategaeth Tai Gwynedd yn nodi’r
angen i drigolion Gwynedd gael mynediad i dai addas o safon fyddai yn gwella eu
hansawdd bywyd – y cais yn cyfarch hyn
·
Nifer wedi ymdrafferthu i ysgrifennu i
gefnogi’r cais – dim un gwrthwynebiad
·
Rhaid ymateb yn gadarnhaol i drigolion
lleol - rhaid cefnogi pobl leol
b) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
gyda chytundeb 106
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelod:
·
Bod y cais yn un unigryw
·
Bydd tŷ yn Nefyn cael ei ryddhau i bobl leol
PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106
Amodau:
5 mlynedd,
yn unol â’r cynlluniau, draenio tir, tirweddu,
deunyddiau a gorffeniadau, enw Cymraeg.
Dogfennau ategol: