Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er
mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys
cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Cais llawn i
newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain,
codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled
cysylltiedig, ail wynebu a mynediad
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli y tu allan
i unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad - y safle a'r ardal
gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn
ogystal â Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Eglurwyd,
gan mai safle ar gyfer carafanau teithiol oedd testun y cais mai polisi TWR 5 y
CDLl oedd y polisi perthnasol a oedd yn gosod cyfres
o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Nodwyd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai
unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w
hansawdd weledol.
Ystyriwyd
bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle sy’n eithaf gwastad o fewn y
dirwedd, o fewn cae sydd wedi ei amgylchynu gan gloddiau a gwrychoedd
sefydledig gyda chyfres o adeiladau allanol ynghlwm a’r anheddiad fyddai’n
rhannol guddio’r safle o’r gogledd. Er hynny, nodwyd bod y safle’n hollol
agored tuag at y llwybr arfordir.
Cydnabuwyd
fod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy wella ac ychwanegu at y
gwrychoedd presennol yn ogystal â chreu clawdd gyda choed cynhenid ar ei hyd,
ond amlygwyd bod y polisi yn gofyn i safleoedd fod wedi’i guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd. Fel y mae, ystyriwyd nad oedd y safle wedi cael
ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac na fyddai’r hawdd ei gydweddu
mewn i’r dirwedd. Disgrifiwyd y safle fel un mewn lle agored wrth yr arfordir
ac wrth ymweld â’r ardal leol mae’n amlwg mai ychydig o rywogaethau sy’n tyfu’n
llwyddiannus yn yr ardal yma oherwydd gwynt y môr.
Ystyriwyd y
byddai’r cloddiau presennol ac arfaethedig yn sgrinio rhannau isaf yr unedau,
ond oherwydd uchder cerbydau a charafanau teithiol byddai’r safle yn weladwy yn
y dirwedd ehangach - annhebygol fydd y tirweddu yn cuddio’r safle yn ei
gyfanrwydd heb effaith sylweddol niweidiol i’r dirwedd. Oherwydd hyn, amlygwyd
pryder sylweddol ynglŷn â llwyddiant y cynllun tirweddu ynghyd a’r amser
sylweddol i’w sefydlu - o ganlyniad ystyriwyd y byddai effaith weledol y safle
yn niweidiol i’r dirwedd yn y cyfnod tyfu a all fodoli am flynyddoedd.
Adroddwyd
bod amryw o safleoedd teithiol eraill yn yr ardal i’w gweld o sawl man
cyhoeddus dros y cloddiau a’r gwrychoedd presennol ac amlygwyd pryder y
byddai’r datblygiad yma yn cyfrannu at
effaith cronnus datblygiadau carafanau teithiol sydd eisoes yn cael effaith
negyddol ar y dirwedd. O ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd gyda
maen prawf 1 o bolisi TWR 5.
Nodwyd bod
y safle o fewn yr AHNE gyda sylwadau’r Uned AHNE yn cydnabod y byddai’r safle yn weladwy o sawl man cyhoeddus.
Atgoffwyd yr Aelodau mai prif amcan dynodiad AHNE yw gwarchod a gwella harddwch
naturiol y dirwedd ac felly’n hanfodol
bod unrhyw gynlluniau a gosodiad unrhyw ddatblygiad yn ffafrio diogelu harddwch
naturiol yr ardal.
Ategwyd bod
yr elfennau megis mwynderau cyffredinol a phreswyl, trafnidiaeth a mynediad yn
dderbyniol ac er derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd, bod y bwriad yn
annerbyniol oherwydd y byddai’n achosi effaith andwyol a sylweddol ar y dirwedd
a mwynderau gweledol y dirwedd.
b)
Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd perthynas i’r ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Bod y teulu yn lleol sydd a’i gwreiddiau yn gadarn ym Mhenllyn - wedi eu magu, addysgu ac yn gweithio yn lleol.
·
Bod y bwriad yn gynllun teulu cyfan gyda gobaith o allu datblygu
busnes cynhenid, llwyddiannus a hir dymor yn Nhudweiliog;
Gyda buddion lluosog i’r economi leol i siopau, tafarndai, bwytai a
chyrchfannau gwyliau a phentrefi ym Mhenllyn a thu
hwnt.
·
Bod y cais yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion y CDLl ac eithrio un cymal o bolisi Cynllunio TWR 5 sydd yn
gysylltiedig ag effaith y datblygiad ar y tirlun.
·
Bod yr ymgeisydd yn datgan rhyfeddod o
ystyried bod y cais cynllunio wedi ei gyflwyno ers dros flwyddyn ac mai dyma’r
cyfeiriad cyntaf at effaith y datblygiad ar y tirlun.
·
Er na dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Swyddog AHNE fel rhan o’r
broses ymgynghori ymddengys bod y Swyddog wedi pennu na fyddai modd i gynllun
tirlunio (sydd i gynnwys clawdd pridd
1.5 medr a chynllun plannu coed gwydn cynhenid cynhwysfawr) lwyddo oherwydd
ei agosatrwydd at yr arfordir. Er hynny, nid oes barn ymgynghorydd arbenigol i
ategu barn y Swyddog i lwyddiant y cynllun plannu.
·
Derbynnir pryder yr Awdurdod Cynllunio lleol am y gallu i
dirlunio’r safle yn llwyddiannus. Pe byddai’r pryderon hyn wedi eu rhannu yn
ystod y broses gynllunio, byddai cyfle i geisio lliniaru a datrys yr effaith
ynghynt.
·
Awgrym i gynnig amod cynllunio tirlunio yn y gobaith y bydd yn
cwrdd ac yn ategu effeithiau tirlun y datblygiad. Diben yr amod yw darparu
adroddiad arbenigol er mwyn amlygu sut mae sefydlu tyfiant coed a pha
rywogaethau cynhenid yw’r mwyaf gwydn mewn ardal arfordirol. Bydd yr adroddiad
yn cyflwyno gwybodaeth gywir i lunio cynllun plannu cynhwysfawr i dirlunio'r
ffin weledol.
·
Cynigiwyd ychwanegu ail gymal i’r amod
yn gysylltiedig â chyflwyno cynllun ôl-ofal i adolygu’r tyfiant dros gyfnod o
10 mlynedd, lle byddai unrhyw goeden farw yn cael ei hailblannu o’r newydd.
·
Gofynnwyd yn daer os yw’r cynnig yn un
rhesymol ac yn datrys pryderon y Swyddog neu’r Adran Gynllunio am amlygrwydd y
safle o fewn y tirlun?
·
Bod y sefyllfa sydd yn wynebu cymunedau cefn gwlad yng Ngwynedd -
arfordir Penllyn yn arbennig yn un ddirdynnol ac argyfyngus
gyda stoc tai lleol o bob maint a dyluniad
yn brysur cael ei brynu gan gyflenwyr sydd yn gofyn am dai gwyliau – Air BnB. Mae’r gallu i bobl weithio o adref hefyd yn annog
mewnlifiad ac mae cymunedau yn troi yn gynyddol Saesnig ei hiaith a’i natur.
·
Effeithiau bychan ar y tirlun yn y
tymor byr a geir yma. Ystyriwyd bod cyfleuster carafanio bychan yn cynnig
opsiwn llawer gwell i ymwelwyr allu ymweld â’n hardaloedd a mwynhau’r tirlun
gwych gan ddychwelyd yn ôl i’w cymunedau ar ddiwedd eu gwyliau.
·
Gyda diffyg yn y ddarpariaeth dros y
blynyddoedd diwethaf, gwelwyd llawer mwy o’r stoc dai leol yn cael ei brynu.
Drwy roddi darpariaeth i’r galw cynyddol am unedau gwyliau o safon, y gobaith
yw y bydd y ddibyniaeth ar unedau AirB&B a
chyffelyb yn lleihau.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Bod rhaid ystyried dulliau o arall
gyfeirio yn mynd amaeth y dyddiau yma
·
Bod chwech allan o saith maen prawf yn
cydymffurfio gydaTWR5 ac mai’r effaith weladwy oedd angen ei ystyried
·
Tri tŷ yn unig sydd o fewn yr
ardal wledig yma – ni fyddai’r bwriad yn cael effaith weladwy arnynt – brawd yr
ymgeisydd sy’n byw yn un o’r tai cyfagos
·
Bod modd cael hadau gwrychoedd cynhenid
i’r ardal arfordirol
·
Bod bwriad gwneud gwaith tirlunio cyn
agor y maes carafanau – croesawu agwedd gyfrifol yr ymgeisydd o wneud hyn
·
Y fenter yn paratoi ar gyfer
cenedlaethau’r dyfodol – rhaid rhoi cyfle i bobl lleol
·
Yr ardal yn wledig iawn – pwysig ei
gwarchod a’i hamddiffyn i’r dyfodol – y fenter yn cynnig hyn drwy gynnig
darpariaeth ar gyfer ymwelwyr sydd yn dod i fwynhau’r natur wyllt
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad.
Rhesymau:
·
bod y bwriad yn cynnig buddion
economaidd a chymdeithasol
·
bod y cynlluniau tirlunio/plannu yn
dderbyniol ac yn goresgyn yr effaith weledol
Mewn ymateb i’r rhesymau gwrthod, nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod oherwydd effaith ar y
golygfeydd – y bwriad mewn safle agored gweledol o fannau cyhoeddus, yn gais i ddatblgyu tir gwrydd o fewn yr
AHNE ac yn groes i bolisïau. Sut gellid cyfianwhau
bod y bwriad yn cwrdd â gofynion statudol?
Awgrymodd,
ynteu ohirio’r penderfyniad a chynnal ymweliad safle neu, yn unol â Rheolau
Gweithdrefn y pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag
adroddiad pellach gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r
cais.
e)
Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle
f)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pe byddai’r ymgeisydd yn estron, byddai
neb o blaid y cais
·
Annog ymwelwyr i aros mewn carafanau
fydd wedyn yn prynu tai yn lleol
·
Byddai ymweld ar safle yn cynnig datrysiad
PENDERFYNWYD Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: