Codi estyniad at uned ddofednod presennol er
mwyn cynnwys 16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â
gwaith cysylltiol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Berwyn Parry Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
Cofnod:
Codi
estyniad at uned ddofednod presennol er mwyn cynnwys
16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â gwaith
cysylltiol
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer
codi estyniad i uned amaethyddol i gadw ieir sy’n cynhyrchu wyau maes a gwaith
cysylltiedig ar Fferm Plas Tirion, Llanrug. Disgrifiwyd Plas Tirion fel daliad
amaethyddol sy’n cynnwys 521 acer o dir gyda chyfanswm o 200 o wartheg bîff, a dofednod - byddai’r
uned arfaethedig yn cyflwyno 16,000 o ieir ychwanegol i’r fenter gan greu
cyfanswm o 48,000 o ieir.
Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan y
CDLl ac felly yn safle cefn gwlad agored. Adroddwyd
nad oes polisi penodol yn y CDLl yn ymwneud a
datblygiadau amaethyddol, felly’r brif ystyriaeth oedd Polisi Cynllunio Cymru
(PCC) a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig
Cynaliadwy.
Amlygwyd y
byddai’r sied arfaethedig ynghlwm i’r sied ieir presennol, gyda’r estyniad yn
llai o faint a graddfa ond o’r un dyluniad a'r sied bresennol. Ystyriwyd fod y
sied yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diben amaethyddiaeth i ehangu’r busnes
ac nad oedd amheuaeth bod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol o fewn iard y fferm
sefydledig. Nodwyd fod y bwriad yn
cyd-fynd a polisi PCYFF 1 ac egwyddorion PCC a TAN 6 cyn belled nad oedd unrhyw
effeithiau annerbyniol yn sgil y bwriad.
Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd nad oedd bwriad y datblygiad yn anarferol yng nghefn gwlad ac felly yn dderbyniol
ar sail gofynion Polisi CYF 6, PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r CDLl.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, er bod y safle wedi
ei leoli yng nghefn gwlad nepell o ddaliad amaethyddol gweithredol, nodwyd bod
anheddau preswyl wedi eu lleoli yn nalgylch y safle ei hun. Lleolir yr anheddau
a adnabyddir fel Plas Tirion a Phlas Tirion Lodge
oddeutu 240m i’r gogledd o safle’r cais gydag anheddau/tyddynnod eraill wedi eu
lleoli dros 400m o safle’r cais. Bydd y bwriad yn golygu defnyddio 6 ffan
echdynnu (ar ben y 10 ffan echdynnu bresennol) ar do’r
adeilad er mwyn rheoli tymheredd oddi fewn i’r uned ei hun. Gan ystyried
lefelau sŵn y ffaniau ynghyd a chanlyniadau’r
Asesiad Sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais roedd Uned Gwarchod y Cyhoedd yn
argymell cynnwys amod yn sicrhau fod yr unedau ffan yn cynnwys lefelau sŵn
trydydd wythfed.
Ategwyd y
byddai’r uned weithredu system aml-reng sydd yn galluogi i’r tail i ddisgyn i
lawr i’r cludfelt yn gweithredu unwaith bob 5-7 diwrnod er mwyn gwaredu’r tail.
Bydd hyn yn golygu mai ychydig iawn o
dail fydd yn cael ei storio o fewn yr uned ac felly yn lleihau gweithgaredd
pla. Ynghyd â’r cynnydd bwriededig yn y nifer o ieir ar y safle, er mwyn
cydymffurfio gyda gofynion newydd Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
(Cymru) 2021 lle nodi’r angen i ddaliadau amaethyddol gynnwys adeiladau neu
ardaloedd ychwanegol i storio tail dan do yn ystod tymor y Gaeaf, nodwyd
bod cais C21/0773/23/LL i godi sied
storio tail ychwanegol yn gyfochrog a’r sied ieir presennol wedi ei ganiatáu ar
ddechrau 2022.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd mai’r bwriad yw
defnyddio’r fynedfa bresennol i wasanaethu’r uned. Bydd y bwriad yn arwain at
gynnydd bach mewn traffig gyda lorïau yn gwasanaethu’r uned drwy drosglwyddo
bwyd i’r ieir ddwywaith y mis a lori 7.5 tunnell yn casglu’r wyau dwywaith yr
wythnos. Cyfeiriwyd at ymateb a dderbyniwyd
gan yr Uned Trafnidiaeth yn datgan nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r
bwriad gan y tybiwyd na fyddai’r bwriad
ei hun yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd neu ffordd arfaethedig - y
bwriad felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA 4 o’r CDLl.
Yng
nghyd-destun materion bioamrywiaeth, amlygwyd bod cais wedi ei wneud i’r
ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol am Gynlluniau Rheoli Tail, Cynllun
Pori yr Adar a Datganiad Dull Atal Llygredd. Yn dilyn cyfnod o ail-ymgynghori
ar sail y wybodaeth ychwanegol, nid oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru na’r Uned
Bioamrywiaeth bryderon ynglŷn â’r cais, ond yn nodi y dylid cynnwys amod
yn datgan bydd angen cydymffurfio a chynnwys y cynlluniau a’r ddogfennaeth a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais - y bwriad
felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi AMG5 o’r CDLl.
Cadarnhawyd
bod y Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau ac yn gefnogol i’r cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol yn sylwadau canlynol:
·
Bod trigolion lleol wedi pryderu am y cais
gwreiddiol ac o ganlyniad, y Cyngor Cymuned wedi cynnal cyfarfod arbennig i
drafod y cais – un fyddai yn creu bywoliaeth i deulu a swyddi i eraill. Y
fenter bellach wedi bod mewn bodolaeth ers tair blynedd – dim problemau
sŵn wedi eu cofnodi ac nid yw’r siediau yn weladwy – anodd gweld bod y
fenter yn bodoli.
·
Cyngor
Cymuned yn gefnogol i’r fenter
·
Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion
·
Costau amaeth yn cynyddu ac felly angen ymateb i
hynny
·
Balch o gael cefnogi menter sydd yn galluogi
bywoliaeth a dyfodol i’r fferm
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelod:
·
Bod y fferm o faint sylweddol
·
Bod 48,000 o ieir i weld yn ormod ar y safle
·
Tyddynod yn cadw ieir a chynnal bywoliaeth hefyd – menter o’r maint yma yn lladd
busnesau bach
·
Dim cyfiawnhad economaidd yma
PENDERFYNWYD:
Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Lliw gwyrdd tywyll i edrychiad allanol
yr uned
4. Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig
5. Amod gwarchod y cyhoedd yn ymwneud a
chyfyngu ar lefelau sŵn o’r ffaniau rheoli
tymheredd ynghyd a crynodiad gronynnau.
6. Cwblhau cynllun tirlunio yn unol â’r
manylion a gyflwynwyd gyda’r cais a’r cyfnod ar gyfer cyflawni hyn.
Dogfennau ategol: