Datblygiad cyfleuster
tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys
pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a
datblygiad cysylltiedig
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dafydd Meurig
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Datblygiad
cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu
ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, compownd
cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y
Swyddog Rheolaeth Datblygu byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr
logisteg a dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn
actifadu'r pympiau trwy ffob awtomatig.
Eglurwyd bod y safle’n gorchuddio arwynebedd o tua 0.7ha ac yn golygu
datblygu llain wag o fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi
a’i warchod o fewn y CDLl fel Safle Cyflogaeth Strategol a Ddiogelir
Rhanbarthol. Nodwyd bod defnydd y bwriad yn disgyn o dan dosbarth defnydd
unigryw, ac o ystyried fod nifer o blotiau gwag ar y safle, mai darpariaeth ar
gyfer trafnidiaeth busnes fydd y bwriad ac na fydd y cyfleuster ar agor i'r
cyhoedd, bod yr egwyddor o leoli’r orsaf
ym Mharc Bryn Cegin yn dderbyniol.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol y bwriad gerbron yn golygu darparu cyfarpar ar
gyfer galluogi loriau HGV i godi tanwydd nwy o bympiau tanwydd cyffredinol - ystyriwyd
fod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 ynghyd ac PS20
ac AT1 o’r CDLl o ran effaith weledol.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl eglurwyd bod y safle
yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl -
1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar lefel uwch a bod bwriad i lefelu
safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r tai ynghyd a ffens acwstig ar ei
ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun goleuo
wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn nodi,
·
Bydd y pympiau yn cael eu goleuo yn
ystod oriau tywyll, ond dim ond yn ystod cyfnodau o waith bydd goleuadau’r compownd yn cael eu defnyddio.
·
Bydd effaith y golau yn lleiafrifol
oherwydd eu bod wedi eu canoli ar ardaloedd penodol (o dan y pympiau yn
bennaf). Bod triniaeth ffin bwriedig (ffens a
thir-weddu) ynghyd a graddfa a lleoli’r goleuadau yn golygu na fydd y gorlif
golau yn mynd heibio ffiniau’r safle - bydd y gorlif hynny yn llai na golau
lleuad.
·
Bod asesiad sŵn wedi ei wneud i ofynion BS4142/BS8233/Meini
Prawf WHO ac yn ystyried sŵn
gweithgareddau o ganlyniad i loriau ar y blaengwrt
ynghyd a’r holl gyfarpar ar y safle
·
Bod canlyniadau’r asesiadau yn dangos
na ddisgwylir i effeithiau sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â thanwydd
gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, (er yn dibynnu ar y cyd-destun).
Nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd yn pwysleisio’r angen i weithredu
mesurau lliniaru sŵn ac os gellid gweithredu mesurau lliniaru pellach i
ostwng y lefel gradd ymhellach, fe'i cynghorwyd i wneud hynny fel nad yw’r
safle yn cynyddu'r lefel sŵn cefndir presennol ac felly yn cydymffurfio
gyda gofynion polisïau PCYFF 2 a 3 o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod y safle yn elwa o
bwynt mynediad annibynnol trwy ffordd fynediad i'r gorllewin o'r plot. Er mwyn
hwyluso datblygiad y safle a sicrhau ei fod yn addas i’r HGVs
gael eu gwasanaethu, mae bwriad cael gwared ar y fynedfa hon a darparu dau
fynediad pwrpasol. Cyflwynwyd datganiad trafnidiaeth fel rhan o’r cais ynghyd a
Chynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu. Nid yw’r Uned Drafnidiaeth wedi darparu
ymateb ffurfiol ar gyfer y cais, ond derbyniwyd ymateb i’r ymholiad
cyn-cyflwyno cais oedd yn codi nifer o bwyntiau ynglŷn â’r mynedfeydd
newydd a defnydd o’r safle ar gyfer parcio dros nos. I’r perwyl hyn, mae
cadarnhad wedi ei dderbyn na fydd y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio
lorïau dros nos.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth adroddwyd bod asesiad ecolegol
cychwynnol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn nodi fod potensial i wrych
sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer nythu adar ac ystlumod gael ei effeithio o
ganlyniad i’r bwriad. Cyflwynwyd felly feurau
lliniaru oedd yn cynnig:
·
Rhaid i unrhyw waith clirio safle
ddigwydd y tu allan i’r tymor nythu ac yn dilyn chwiliad llaw am ymlusgiaid.
·
Rhaid darparu cynllun golau sydd wedi
ei gytuno gydag ecolegydd
·
Cynllun tirweddu i guddio golau cymaint â phosib
·
Darparu bocsys nythu ar gyfer adar ac
ystlumod.
Adroddwyd
bod cynlluniau tirweddu a goleuo wedi eu darparu fel rhan o’r cais sy’n
dderbyniol o ran diogelu mwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos, ond nid yw’n
glir os yw’n addas o ran materion Bioamrywiaeth. Nid oedd ymateb wedi ei
dderbyn gan yr Uned Bioamrywiaeth pan gyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor, ond ar
sail y wybodaeth sydd i law, ystyriwyd y gallai’r bwriad fod yn dderbyniol yn
ddarostyngedig i amodau i sicrhau fod y mesurau lliniaru yn cael eu cwblhau ar
y safle ac i gytuno cynlluniau tirweddu a goleuo o flaen llaw.
Wedi asesu’r bwriad yn llawn ystyriwyd ei fod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio
gyda gofynion y polisïau a chanllawiau perthnasol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Mai CG Fuels yw’r datblygwr mwyaf blaenllaw mewn gweithredu Bio-CNG
(nwy naturiol bio cywasgedig).
·
Y cwmni yn bwriadu darparu rhwydwaith eang o gyfleusterau
dibynadwy a chyfleus ledled y DU i wasanaethu eu cwsmeriaid ac i fodloni’r
gofynion cynyddol gan fflydoedd i ddatgarboneiddio gweithrediadau trafnidiaeth.
·
Bio- CNG wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n cydymffurfio
â deddfwriaeth y DU.
·
Bod y galw yn cynyddu wrth i gwmnïau cludo a dosbarthu ymrwymo i
leihau eu hôl troed carbon.
·
Eu cwsmeriaid yn cynnwys
archfarchnadoedd mawr a chwmnïau logisitig a
dosbarthu
·
Bod effaith CNG yn sylweddol - gall
leihau 90% ar gyfwerthedd Co2; lleihau gostyngiad o
50% mewn sŵn - sy'n hynod bwysig o ystyried fod y sector HGV yn anodd ei
ddatgarboneiddio.
·
Byddai'r orsaf ail-lenwi â thanwydd yn
cynnig cyfleuster CNG newydd i wasanaethu fflydoedd sydd yn defnyddio
rhwydweithiau lleol.
·
Bod y safle o fewn ardal o alw
sylweddol gan eu cwsmeriaid – yn gyfle i ddarparu defnydd gweithredol newydd o
fewn yr ystâd.
·
Buddsoddiad ariannol sicr.
·
Byddai'n caniatáu i fflydoedd fanteisio
ar fuddion amgylcheddol
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r gwrthwynebiadau
lleol
·
Derbyn bod y safle wedi ei glustnodi ar
gyfer cyflogaeth ond nid yw’r fenter yma yn cynnig cyflogaeth
·
Derbyn y byddai prysurdeb cyffredinol ar y safle o ystyried y
bwriad blaenorol o greu safle parcio ceir i rannu lifft, ond y bwriad yma yn
creu effaith negyddol ar fwynderau trigolion lleol
·
Croesawu tanwydd gwyrdd
·
Llywodraeth Cymru wedi creu gweledigaeth o barc busnes, technegol
a glan - nid yw’r bwriad yma yn gydnaws ar weledigaeth honno
·
Y safle yn un sylweddol ar bwriad yma
wedi ei osod ar y llain agosaf at y tai – pam na ellid defnyddio lleiniau sydd
yn llai agos at y tai?
·
Awgrym cynnal ymweliad safle
d) Cynigiwyd
caniatáu y cais - ni chafwyd eilydd
e) Cynigwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle i ymgyfarwyddo â lleoliad yr
orsaf arfaethedig
f) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Croesawu datblygiad tanwydd nwy naturiol a thechnoleg newydd
·
Croesawu pob ymgais i ddiogelu’r amgylchedd
·
O blaid yr egwyddor, ond pryder am agosatrwydd lleoliad yr orsaf
i’r tai cyfagos
PENDERFYNWYD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: