Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

`        Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pennaeth Cyfreithiol i’r Swyddog Trwyddedu, cadarnhawyd mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno adroddiad DBS i’r Awdurdod Trwyddedu. Cadarnhawyd hefyd nad oedd ystyriaeth wedi ei roi i’r tri phwynt am oryrru gan nad oeddynt yn groes i bolisi ac yn reswm i wrthod y cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan gynrychiolydd yr ymgeisydd i’r Swyddog Trwyddedu ynglŷn â’r cais, cadarnhawyd bod Cwmni Premier Cars yn cyflwyno nifer o geisiadau ac yn barod bob amser i gyd-weithio, yn agored ac yn ymwybodol iawn o’r drefn

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd bod amgylchiadau’r ymgeisydd ar y pryd yn anodd, ond ers hynny wedi troi ei fywyd o gwmpas drwy ofalu am ei ferch a’i dad. Ategwyd bod y ffurflen gais wedi ei chwblhau gan Reolwr Swyddfa Premier Cabs ac nad oedd unrhyw fwriad gan yr ymgeisydd i gam arwain yr Is bwyllgor drwy beidio a chynnwys manylion am gael ei wahardd rhag gyrru am 18 mis yn 2016. Yn unol a gofynion y Polisi, amlygodd bod cyfnod o dair blynedd wedi mynd heibio ers y gwaharddiad ac nad oedd troseddau eraill i’w hystyried. Dymuniad yr ymgeisydd oedd dychwelyd i waith er mwyn cynnal ei ferch. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Is-bwyllgor yn ymwneud a chwblhau’r ffurflen gais a bod y ‘bocs anghywir’ wedi derbyn tic, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd mai camgymeriad gan y Rheolwr Swyddfa oedd yma ac nad oedd unrhyw fwriad i dwyllo’r is-bwyllgor. Ategwyd bod y cais wedi ei wneud mewn ewyllys da ac mai’r cwmni oedd wedi gwneud cais am y ffurflen DBS fel modd o baratoi ar gyfer y gwrandawiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pennaeth Cyfreithiol, cadarnhawyd mai’r ymgeisydd oedd wedi arwyddo’r ffurflen.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan gynrychiolydd yr ymgeisydd

·      Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Yn mis Tachwedd 2016 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd o yrru o dan ddylanwad alcohol yn groes i Ddeddf Trafig Ffyrdd 1988. Derbyniodd yr ymgeisydd waharddiad rhag gyrru am 18 mis (wedi ei leihau gan 4misos yn cwblhau cwrs), dirwy o £260, costau o £85 a chostau ychwnaegol o £30.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae 2.3 yn nodi, at ddibenion y Polisi, gall "materion eraill i'w hystyried”, gynnwys, ymhlith eraill, gollfarnau troseddol / moduro

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am 3 blynedd o leiaf.

 

Ystyriwyd paragraff 13.0 sydd yn ymwneud a mân droseddau traffig yn ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda paragraff 13.1yn diffinio ‘man drosedd traffig fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb  Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn amlygu gall un gollfarn am fan drosedd gyrru arwain at wrthod y cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2016 yn ymwneud â throsedd o yfed a gyrru. Roeddynt yn fodlon bod cyfnod yr amser a nodir yn y Polisi lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath wedi mynd heibio. Nododd yr Is-bwyllgor fod yr un drosedd o 2016 hefyd wedi arwain at waharddiad gyrru hyd Mehefin 2018. Gyda’r drwydded wedi ei hadfer yn Mehefin 2018 a dim tystiolaeth o droseddu pellach, roedd yr Isbwyllgor, yn unol a’r Polisi, yn fodlon bod cyfnod priodol o amser wedi mynd heibio.

 

Yn ogystal, canfu'r Is-bwyllgor fod digwyddiad 2020 yn ymwneud â mân drosedd traffig. Wedi cymryd i ystyriaeth paragraff 13.2 o'r Polisi, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn na ddylai'r drosedd fod yn sail i wrthod y cais.

 

Ystyriwyd y camgymeriad a wnaed ar ffurflen gais yr ymgeisydd a oedd wedi methu  â chynnwys collfarnau a ddatgelwyd yn yr adroddiad DBS ar y ffurlfen gais. Derbyniwyd eglurhad y cyflogwr mai camgymeriad ar ran y cwmni oedd hyn ac nad oedd hyn wedi ei wneud yn fwriadol. Atgoffwyd yr ymgeisydd, ei fod, wrth lofnodi’r ffurflen, yn cymryd cyfrifoldeb am y cynnwys ond roedd yr Is-bwyllgor yn barod i dderbyn mai camgymeriad oedd llofnodi’r ffurflen heb wirio’r cynnwys y tro hwn.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor, er nad oedd yr ymgeisydd yn esgusodi’r drosedd fod ei amgylchiadau personol ar y pryd yn anodd iawn. Roeddynt hefyd yn fodlon bod ei amgylchiadau wedi newid ers hynny ac nad oedd tystiolaeth bod yr ymddygiad yn nodweddiadol ohono.

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.  Anogwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i sicrhau bod ymgeiswyr i’r dyfodol yn gwirio a chymryd cyfrifoldeb am eu ffurflen gais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.

 

Cymerodd cynrychiolydd yr ymgeisydd y cyfle i ddiolch i’r Adran Trwyddedu am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig - y cyfnod wedi bod un heriol iawn i bawb.