Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

`        Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatau y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir yr arnodiadau ar ei drwydded yrru a’i amgylchiadau personol. Cyfeiriodd at y 6 phwynt a dderbyniodd o beidio â chael yswiriant car gan nodi mai darparu bwyd i unigolyn bregus ydoedd yn ystod y cyfnod clo. Roedd yn derbyn y dylai fod yn ymwybodol mai defnydd cymdeithasol oedd ganddo ar y car ac nid defnydd busnes. Nododd ei fod yn mwynhau gyrru a’i fod yn deall a derbyn gofynion y swydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Swyddog Trwyddedu, nododd yr ymgeisydd nad oedd wedi derbyn cadarnhad am ei gyflogaeth gyda chwmniHuw’sTaxis’, ond ei fod wedi trafod gwaith gyda chwmnïau lleol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·      Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Ym mis Mai 2020 derbyniodd yr ymgeisydd chwe phwynt cosb am ddefnyddio cerbyd heb yswiriant yn erbyn risgiau trydydd parti ynghyd a 3 pwynt cosb o yrru tu hwnt i derfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus ym mis Medi 2020. O ganlyniad roedd wedi derbyn 9 o bwyntiau cosb ar ei drwydded yrru.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae 2.3 yn nodi, at ddibenion y Polisi, gall "materion eraill i'w hystyried”, gynnwys, ymhlith eraill, gollfarnau troseddol / moduro

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae IN10 (defnyddio cerbyd sydd heb ei yswirio yn erbyn risigiau trydydd parti). Mae paragraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda paragraff 13.1 yn diffiniomân drosedd traffigfel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn nodi os bydd gan ymgeisydd / ddeilydd y drwydded un gollfarn am fân drosedd gyrru, neu fod mater arall i'w ystyried yn gysylltiedig â hynny, ni fydd hyn fel arfer yn arwain at wrthod cais neu atal / ddirymu trwydded.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn mis Mai 2020 yn un o drosedd traffig difrifol. Fodd bynnag, gan fod y cyfnod yr amser a nodir yn y Polisi lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath wedi mynd heibio ac nad oedd y troseddau wedi amharu ar addasrwydd yr ymgeisydd fel gyrrwr tacsi, nid oedd yn sail i wrthod y cais dan baragraff 12.4. Yn ogystal, roedd digwyddiad Medi 2020 yn ymwneud â mân drosedd traffig ac wedi rhoi ystyriaeth i baragraff 13.2 o'r Polisi, canfu'r Is-bwyllgor na ddylai'r drosedd hon fod yn sail i wrthod ychwaith.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.