Agenda item

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans  (Rheolwr Gweithrediadau)

Penderfyniad:

 

1.       Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.       Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd bod y Bwrdd yn bryderus ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny, yn trafod hyn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys trafodaethau ar lefel genedlaethol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:-

 

·         Digidol – Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol);

·         Ynni Carbon Isel - Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni);

·         Tir ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo);

·         Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

 

Yna cyflwynodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif risgiau.

 

PENDERFYNIAD

 

1.              Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.              Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd bod y Bwrdd yn bryderus ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny, yn trafod hyn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys trafodaethau ar lefel genedlaethol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Croesawyd y ffaith y cafwyd rhywfaint o sicrwydd gan y Panel Adolygu Ffyrdd yng nghyswllt Warren Hall, Brychdyn, ond holwyd a geisiwyd yr un sicrwydd mewn perthynas â phrosiectau eraill sy’n cael eu hadolygu, megis Western Gateway, Wrecsam.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo y byddai hynny’n cael ei amlygu mewn sylwadau i’w cyflwyno gan Wrecsam i swyddfa’r Panel yr wythnos ganlynol yn tanlinellu’r effaith ar gyffyrdd yr A483, a’r effaith ar y dref, ac nid y safle Western Gateway yn unig, a hefyd ar y broses o gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â ffosffadau, o safbwynt camau lliniaru / lleihau ardrawiad, a phwysleisiwyd yr angen i barhau i ddwyn pwysau a dylanwadu ar lefel ranbarthol a chenedlaethol oherwydd bod hyn yn creu risg sylweddol.  Pryderid yn arbennig eu bod yn edrych ar ddadansoddiad afon gyfan o ffosffadau, oherwydd, er y gallai rhan o afon fod wedi’i heffeithio lai, yn nhermau’r dalgylch, byddai, er hynny, yn cael ardrawiad sylweddol ar unrhyw brosiect ar hyd holl lwybr yr afon honno.  Hefyd, gallai’r system drwyddedu fod yn weithredol ar gyfer pob cynllun trin dŵr gwastraff ar afon, yn hytrach nag ar gyfer y rhai hynny sydd yn y rhannau gwaethaf o’r afon yn unig.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo yr ystyriwyd bod y strategaeth leihau ei hun yn gam i’r cyfeiriad cywir yn nhermau amlygu dull o gyflawni camau lliniaru ffosffadau, a’r ffaith ei fod yn awr yn cael ei ystyried fel rhan o’r darlun cyflawn yn nhermau cyflenwi safleoedd datblygu cymhleth.  Gan hynny, byddai ffocws cynyddol yn cael ei roi ar hyn gyda mwy o adnoddau yn cael eu neilltuo ar ei gyfer er mwyn canfod datrysiadau i’r broblem.  Ystyriwyd mai dyna oedd y cyd-destun, yn hytrach na holl lwybr yr afon o Lyn Tegid i lawr i aber yr Afon Ddyfrdwy.

Nodwyd y credid bod mwy o waith i’w wneud ar y ddau fater uchod.  Roedd ceisio sicrwydd ar y prosiectau eraill, tebyg i’r hyn a gafwyd yng nghyswllt Warren Hall, yn hynod bwysig, yn hytrach na chyflwyno sylwadau’n unig, a byddai’n fuddiol i’r Bwrdd gael gwybod maes o law sut y bwriedir gwneud hynny.  Hefyd, byddai’n dda o beth i’r Bwrdd gael gwell dealltwriaeth o safbwynt y mater ffosffadau a lle mae angen ymgysylltu ar lefel genedlaethol.

 

Nodwyd ei bod yn amlwg bod nifer o’r risgiau yn symud i’r categori coch o ganlyniad i ffactorau allanol, megis chwyddiant uchel a safonau uwch o ran bioamrywiaeth, ac ati, a holwyd a fyddai’n bosib’ i’r Bwrdd, yn ei gyfarfod nesaf, ystyried mabwysiadu strategaeth i geisio lliniaru hyn.  Mewn ymateb, cytunodd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai hynny’n syniad da, gan ychwanegu bod y swyddogion yn ystyried y risgiau’n barhaus, a hefyd yn ymwybodol bod pob cynllun twf ar draws y DU yn wynebu’r un risgiau.  Roedd hynny’n cael ei gyfleu i’r Llywodraethau yn barhaus.  Nododd hefyd y trefnwyd sesiwn ar y cyd rhwng y Swyddfa Rheoli Portffolio a’r ddwy Lywodraeth yn ystod mis Mai i drafod y risgiau, a gellid adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Bwrdd ar ganlyniadau’r trafodaethau hynny.

 

Nodwyd bod yna bendraw i faint y gall y Bwrdd fynd yn ei flaen ar risg, heb wybod sut y bydd y costau ychwanegol yn cael eu hariannu, a phryderid y byddai prosiectau yn arafu fwyfwy, oni cheir datrysiad o ran sut i ddelio â’r costau ychwanegol.  Nodwyd bod y sector breifat yn wynebu’r un risgiau hefyd, gyda phrinder deunyddiau dybryd, cynnydd sylweddol yng nghostau cynhyrchu a chyflenwadau’n cyrraedd yn hwyr, a phwysleisiwyd yr angen i sicrhau bod gan y sector breifat yr adnoddau i gyflawni hefyd wrth gydweithio ar gynlluniau.

 

Nodwyd bod y Bwrdd wedi trafod y costau cynyddol 8 mis, neu ragor, yn ôl, ac wedi penderfynu ysgrifennu at y ddwy Lywodraeth i ddatgan pryder, a chychwyn trafodaethau ynglŷn â chydweithio gyda chynlluniau twf eraill.  Nodwyd hefyd y byddai’n rhaid i’r swyddogion barhau’r drafodaeth am y ddeufis nesaf, ac argymhellwyd, unwaith y byddai’r awdurdodau wedi’u ffurfioli’n wleidyddol yn dilyn yr etholiadau, bod cyfarfod arbennig o’r Bwrdd yn cael ei alw i drafod y risgiau yn unig, a’u heffaith ar y Cynllun Twf yn ei gyfanrwydd.  Pwysleisiwyd bod gan yr Arweinyddion gyfrifoldebau cyllidol ehangach sydd angen eu diogelu, ac roedd yn bwysig nad oedd y cynghorau’n llosgi eu bysedd oherwydd nad oedd y Llywodraethau’n fodlon rhoi mwy o arian i mewn i liniaru effaith y costau cynyddol.  Roedd disgwyliadau mawr ar y Bwrdd i gyflawni, ac nid oedd yn edrych fel ein bod yn mynd i fedru cyflawni ar hyn o bryd.

 

Nododd y Cadeirydd fod y Bwrdd yn ystyried risgiau pob prosiect wrth fynd ymlaen, ac yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar y risgiau, a bod rhaid i bob un prosiect ystyried sut mae’n delio â hyn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai’n fuddiol cynnal cyfarfod arbennig.  Roedd y trosolwg yn un mater i’w drafod, ond byddai yna ddadansoddiad gwahanol o’r ffordd ymlaen fyddai, efallai, yn wahanol ar gyfer pob prosiect.  Gofynnid i brosiectau feddwl am ffyrdd gwahanol o gyflawni’r amcanion, a chredid bod angen gosod pob prosiect yn ei ffrâm ei hun i weld ydi’r cyfleoedd i gyflawni yn wahanol, er mwyn gwneud y gorau o’r cyllid sydd ar gael. Roedd yn hollol glir ar hyn o bryd nad oedd mwy o gyllid yn mynd i ddod gan y Llywodraethau, ac felly byddai’n rhaid meddwl sut i newid sgôp y prosiectau, newid sut mae’r prosiectau hynny’n cyflawni’r amcanion, gan ddefnyddio ffurf carbon isel gymaint ag y gellid i gyflawni’r amcanion hynny.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid ychwanegu cymal at argymhelliad 2 yn nodi bod gan y Bwrdd bryderon ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun Twf.  Awgrymwyd ymhellach, os oedd y Bwrdd am amlygu ei bryderon, ei bod hefyd yn bwysig cyfeirio at gamau lliniaru, yn cynnwys trafodaethau ar lefel genedlaethol.

 

Dogfennau ategol: