Datblygiad
cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan
gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd,
tirlunio a datblygiad cysylltiedig
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dafydd Meurig
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu – amodau
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau
3. Cwblhau’r fynedfa yn
unol â’r cynlluniau
4. Dim lorïau yn parcio
dros nos
5. Cynllun tirweddu
6. Cydymffurfio a chynllun
goleuo
7. Dwr Cymru
8. Cwblhau yn unol a gofynion
asesiad sŵn ac asesiad golau
Nodiadau
Cofnod:
Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol
wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd
cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig.
Roedd rhai o’r Aelodau
wedi ymweld â’r safle 10/06/22
a)
Amlygodd y
Swyddog Rheolaeth Datblygu bod penderfyniad ar y cais
wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 11 Ebrill, 2022 er mwyn cynnal
ymweliad safle
Eglurwyd
bod y cynnig yn ymwneud â datblygu cyfleuster tanwydd cerbydau Bio-CNG (nwy
naturiol bio cywasgedig) yn cynnwys ynysoedd pwmp tanwydd, compownd peiriannau,
creu mynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig o fewn Stad Ddiwydiannol Bryn
Cegin. Nodwyd byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr logisteg a
dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn actifadu'r
pympiau trwy ffob awtomatig. Nodwyd bod y bwriad yn golygu datblygu llain wag o
fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi a’i warchod o fewn y
CDLl fel Safle Cyflogaeth Strategol a
Ddiogelir Rhanbarthol.
Yng
nghyd-destun ystyriaethau cynlluniau, prif bryderon yr Aelod Lleol a’r
trigolion cyfagos oedd effaith posib y bwriad ar sail aflonyddwch sŵn a llygredd
golau. Amlygwyd bod y safle yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl - 1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar
lefel uwch a bod bwriad i lefelu safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r
tai ynghyd a ffens acwstig ar ei ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun
goleuo wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais a bod canlyniadau’r asesiadau yn
dangos na ddisgwylir i effeithiau'r sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â
thanwydd gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, yn dibynnu ar y cyd-destun.
Nodwyd
bod yr Uned Gwarchod y Cyhoedd bellach wedi derbyn yr hyn yr oedd ymgynghorydd
sŵn wedi ei nodi a’r angen i asesu pob safle yn unigol ynghyd a’r lefelau
sŵn. Ategwyd bod y safle wedi ei nodi fel stad ddiwydianol ar wybodaeth
ychwanegol wedi mynegi na fydd y lefelau sŵn o’r safle yn cael effaith
negyddol ar dai y preswylwyr. Er y bydd lefel sgor 4db yn uwch na’r lefel
sŵn cefndir presennol ar y sefyllfa waethaf posibl, byddai’r lefelau’n dal
i gydymffurfio a’r lefelau a amlinellwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd pe bai’r
holl fesurau lliniaru sŵn yn cael eu gweithredu.
O ganlyniad i sylwadau Gwasanaeth y Cyhoedd,
argymhellwyd cynnwys amod yn cyfeirio at gydymffurfio gyda chynnwys yr asesiad
sŵn ac yr asesiad golau. Wedi asesu’r bwriad yn llawn ystyriwyd ei fod yn
dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau a chanllawiau
perthnasol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd
y sylwadau canlynol:
·
Mai CG
Fuels yw’r datblygwr mwyaf blaenllaw
mewn gweithredu Bio-CNG (nwy naturiol bio cywasgedig).
·
Y cwmni yn
bwriadu darparu rhwydwaith eang o gyfleusterau dibynadwy a chyfleus ledled y DU
i wasanaethu eu cwsmeriaid ac i fodloni’r gofynion cynyddol gan fflydoedd i
ddatgarboneiddio gweithrediadau trafnidiaeth.
·
Bio- CNG
wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n cydymffurfio â
deddfwriaeth y DU.
·
Bod y galw
yn cynyddu wrth i gwmnïau cludo a dosbarthu ymrwymo i leihau eu hôl troed
carbon.
·
Eu
cwsmeriaid yn cynnwys archfarchnadoedd mawr a chwmnïau logisitig a dosbarthu
·
Bod effaith
CNG yn sylweddol - gall leihau 90% ar gyfwerthedd Co2; lleihau gostyngiad o 50%
mewn sŵn - sy'n hynod bwysig o ystyried fod y sector HGV yn anodd ei
ddatgarboneiddio.
·
Byddai'r
orsaf ail-lenwi â thanwydd yn cynnig cyfleuster CNG newydd i wasanaethu
fflydoedd sydd yn defnyddio rhwydweithiau lleol.
·
Bod y safle
o fewn ardal o alw sylweddol gan eu cwsmeriaid – yn gyfle i ddarparu defnydd
gweithredol newydd o fewn yr ystâd.
·
Buddsoddiad
ariannol sicr
·
Byddai'n
caniatáu i fflydoedd fanteisio ar fuddion amgylcheddol
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn
derbyn bod y safle wedi ei gydnabod fel safle diwydiannol
·
Bod
pryderon sŵn, goleuo ac arogleuo wedi eu hamlygu
·
Ei fod yn
derbyn eglurhad yr ymgeisydd dros ddefnydd y llain benodol yma ar gyfer y
bwriad
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod camau
lliniaru wedi eu gosod ar gyfer materion sŵn a golau
·
Bod y safle
wedi ei glustnodi fel safle diwydiannol
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
1. 5
mlynedd
2. Unol
a’r cynlluniau
3. Cwblhau’r
fynedfa yn unol â’r cynlluniau
4. Dim
lorïau yn parcio dros nos
5. Cynllun
tirweddu
6. Cydymffurfio
a chynllun goleuo
7. Dwr
Cymru
8. Cwblhau yn unol â gofynion asesiad
sŵn ac asesiad golau
Nodiadau
• Priffyrdd
• SUDS
Dogfennau ategol: