Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er
mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys
cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones
Penderfyniad:
*Cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil
Cofnod:
Cais llawn i
newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain,
codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled
cysylltiedig, ail wynebu a mynediad
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn
amlygu manylion tirweddu ychwanegol.
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle
10/06/22. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi parcio car a charafan yn y cae i geisio
amlygu’r effaith.
a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod gohiriad i benderfyniad ar y cais wedi ei wneud ym
mhwyllgor Ebrill 2022 er mwyn cynnal ymweliad safle gan aelodau’r Pwyllgor.
Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli y tu allan i
unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad gyda’r daliad
presennol yn cynnwys tŷ annedd, iard fferm ac adeiladau cysylltiol a
ffordd gyhoeddus dosbarth 3 yn rhedeg heibio’r safle gan wahanu'r iard a safle
mynediad y safle carafanau arfaethedig oddi wrth yr annedd dŷ gerllaw.
Ategwyd bod y safle a'r ardal gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Llŷn yn ogystal â Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli.
Nodwyd, gan mai safle ar gyfer
carafanau teithiol oedd yn destun y cais yma, bod rhaid ei ystyried o dan
bolisi TWR 5 y CDLl sy’n gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu
datblygiadau o’r fath. Ategywd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai
unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w
hansawdd weledol.
Er yn derbyn bod cynllun plannu a thirweddu wedi ei gyflwyno gan yr
ymgieysdd, roedd y swyddogion yn parhau i argymell gwrthod y cais am nad oedd y
safle wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac nad yw’r safle
mewn lleoliad lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd. Oherwydd hyn,
ystyriwyd byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol arwyddocaol a niweidiol
ar fwynderau gweledol yr ardal leol ac ni ystyriwyd y byddai'r bwriad yn
gwarchod a gwella Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Ystyriwyd fod y
bwriad yn groes i faen prawf 1 o bolisi TWR 5, a pholisïau PS19 a AMG 1 o'r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 mabwysiadwyd 31
Gorffennaf 2017.
b) Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd perthynas i’r ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Bod y teulu yn lleol sydd a’i
gwreiddiau yn gadarn ym Mhenllyn - wedi eu magu, addysgu ac yn gweithio yn
lleol.
·
Bod y bwriad yn gynllun teulu cyfan
gyda gobaith o allu datblygu busnes cynhenid, llwyddiannus a hir dymor yn
Nhudweiliog; Gyda buddion lluosog i’r economi leol i siopau, tafarndai, bwytai
a chyrchfannau gwyliau a phentrefi ym Mhenllyn a thu hwnt.
·
Bod y cais yn dderbyniol ac yn cwrdd â
gofynion y CDLl ac eithrio un cymal o bolisi Cynllunio TWR 5 sydd yn
gysylltiedig ag effaith y datblygiad ar y tirlun.
·
Bod yr ymgeisydd yn datgan rhyfeddod o
ystyried bod y cais cynllunio wedi ei gyflwyno ers dros flwyddyn ac mai dyma’r
cyfeiriad cyntaf at effaith y datblygiad ar y tirlun.
·
Er na dderbyniwyd gwrthwynebiad gan
Swyddog AHNE fel rhan o’r broses ymgynghori ymddengys bod y Swyddog wedi pennu
na fyddai modd i gynllun tirlunio (sydd i gynnwys clawdd pridd 1.5 medr a chynllun plannu coed gwydn
cynhenid cynhwysfawr) lwyddo oherwydd ei agosatrwydd at yr arfordir. Er hynny,
nid oes barn ymgynghorydd arbenigol i ategu barn y Swyddog i lwyddiant y
cynllun plannu.
·
Derbynnir pryder yr Awdurdod Cynllunio
lleol am y gallu i dirlunio’r safle yn llwyddiannus. Pe byddai’r pryderon hyn wedi
eu rhannu yn ystod y broses gynllunio, byddai cyfle i geisio lliniaru a datrys
yr effaith ynghynt.
·
Awgrym i gynnig amod cynllunio tirlunio
yn y gobaith y bydd yn cwrdd ac yn ategu effeithiau tirlun y datblygiad. Diben
yr amod yw darparu adroddiad arbenigol er mwyn amlygu sut mae sefydlu tyfiant
coed a pha rywogaethau cynhenid yw’r mwyaf gwydn mewn ardal arfordirol. Bydd yr
adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth gywir i lunio cynllun plannu cynhwysfawr i
dirlunio'r ffin weledol.
·
Cynigiwyd ychwanegu ail gymal i’r amod
yn gysylltiedig â chyflwyno cynllun ôl-ofal i adolygu’r tyfiant dros gyfnod o
10 mlynedd, lle byddai unrhyw goeden farw yn cael ei hailblannu o’r newydd.
·
Gofynnwyd yn daer os yw’r cynnig yn un
rhesymol ac yn datrys pryderon y Swyddog neu’r Adran Gynllunio am amlygrwydd y
safle o fewn y tirlun?
·
Bod y sefyllfa sydd yn wynebu cymunedau cefn gwlad yng Ngwynedd -
arfordir Penllyn yn arbennig yn un ddirdynnol ac argyfyngus gyda stoc tai lleol
o bob maint a dyluniad yn prysur gael ei brynu gan gyflenwyr sydd yn gofyn am
dai gwyliau - AirBnB. Mae’r gallu i bobl weithio o adref hefyd yn annog
mewnlifiad ac mae cymunedau yn troi yn gynyddol Saesnig ei hiaith a’i natur.
·
Effeithiau bychan ar y tirlun yn y
tymor byr a geir yma. Ystyriwyd bod cyfleuster carafanio bychan yn cynnig
opsiwn llawer gwell i ymwelwyr allu ymweld â’n hardaloedd a mwynhau’r tirlun
gwych gan ddychwelyd yn ôl i’w cymunedau ar ddiwedd eu gwyliau.
·
Gyda diffyg yn y ddarpariaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd
llawer mwy o’r stoc dai lleol yn cael ei brynu. Drwy roddi darpariaeth i’r galw
cynyddol am unedau gwyliau o safon, y gobaith yw y bydd y ddibyniaeth ar unedau
Air BAB a chyffelyb yn lleihau.
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau
canlynol:
·
Bod ymgynghoriad eang wedi ei gynnal.
·
Dim gwrthwynebiad wedi ei gyflwyno gan
CNC, Cyngor Cymuned, Uned Trafnidaieth na AHNE
·
Bod angen ystyried yn ofalus y balans
rhwng effaith ar y dirwedd a hybu
economi leol – cynllun sgrinio wedi ei gyflwyno i liniaru effaith a bod
yr ymgeisydd wedi ymrwymo i’r cynllun sgrinio
·
Dim un llythyr / gohebiaeth wedi ei
dderbyn yn gwrthwynebu’r cais
·
Deiseb wedi ei lofnodi gan dros 300 yn
gefnogol i’r cais
·
Rhaid cefnogi teulu lleol i aros yn eu
cymuned a’u hannog yn eu bwriad i sefydlu busnes. Arall gyfeirio yw’r unig
opsiwn yn wyneb cynnydd mewn costau amaethu
·
Un corff yn gwrthwynebu gydag un rheswm
dros wrthod – y byddai’r bwriad yn creu effaith sywleddol arwyddocaol a
niweidiol ar y dirwedd
·
Bod modd dadleu y byddai’r cynllun
sgrinio yn gwella’r dirwedd - y safle, y fferm yn daclus a’r dirwedd yn cael ei
gwarchod
·
Bydd cloddiau, coed a gwrychoedd yn cael eu plannu i wrthsefyll
tywydd garw a hynny wedi i’r ymgeisydd ganfod barn arbenigwr rhyngwladol yn y
maes
·
Bydd unrhyw blanhigyn sydd yn gwrthod
gwreiddio yn cael ei ail blannu
·
Bod cais am safle carafanau teithiol
mwy amlwg wedi ei ganiatáu
·
Bydd deiliaid Tyddyn Isaf yn sgrinio’r
safle gan sicrhau bydd y carafanu yn cael eu cuddio yn dda
·
Yn gefnogol i ganiatáu’r cais
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol a’r argymhelliad
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Mater o farn fyddai gwrthod – CNC ac
AHNE yn gefnogol
·
Sylwadau’r arbenigwr coed yn synhwyrol
– rhaid cydnabod ei arbenigedd
·
Angen cefnogi trigolion lleol a’u cadw
yn lleol
·
Bod y safle yn daclus iawn
·
Safleoedd tebyg yn yr un ardal – pam
gwahaniaethu?
·
Bod y cynllun tirweddu a phlannu yn un
da
·
Bod y cais yn cwrdd gyda 6 o’r 7 maen
prawf priodol a bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno fel ymateb i’r elfen effaith
ar y dirwedd
·
Byddai’r cynllun plannu yn gwella
bioamrywiaeth yr ardal
·
Y teulu yn cynnig busnes cynaliadwy a
chymunedol fel sydd ei angen
·
Bod nifer o feysydd carafanau yn yr ardal - byddai’r cais yma yn
cyfrannu at effaith gronnol datblygiadau carafanau teithiol
·
Bod Dwyfor yn boddi dan garafanau – bod
dros 10,000 o rai sefydlog heb son am rai teithiol!
dd)
Pleidleisiwyd ar y cynnig.
Disgynnodd y
cynnig
e) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad yn
ddarostyngedig ar ofynion y cynllun tirlunio ac amodau sylfaenol
Mewn
ymateb i’r cynnig amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol y byddai rhaid cyfeirio y
cais i gyfnod cnoi cil. Yr AHNE, fel Parc Cenedlaethol gyda statws sydd angen
ei warchod. Prif amcan dynodi AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y
dirwedd. Byddai rhai blynyddoedd yn mynd heibio cyn i’r cynllun plannu
arfaethedig afael ac felly’r cais yn groes i’r amcan o warchod y dirwedd.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu y cais, yn groes i’r argymhelliad, yn ddarostyngedig ar ofynion y
cynllun tirlunio ac amodau sylfaenol
Cyfeiriwyd y
cais i gyfnod cnoi cil
Dogfennau ategol: