Codi pump tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau a chwblhau
cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un tŷ fforddiadwy:
1. Amser
2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau
3. Cytuno ar
fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi
4. Tirlunio/Coed
5. Materion
draenio/SUDS
6. Materion
Bioamrywiaeth
7. Materion
Archeolegol
8. Materion
Fforddiadwy.
9. Materion
Priffyrdd
10. Mesurau
Gwarchod a gwella’r gwrych
11. Triniaethau ffin
Cofnod:
Codi pum
tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio
a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cais wedi ei gyflwyno i’r pwyllgor Cynllunio yn
wreiddiol ar 21/06/21 pryd y penderfynwyd ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar
bennu disgownt priodol ar gyfer cyfyngu gwerth dau dŷ fforddiadwy a
chwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod y ddau dŷ yn rhai fforddiadwy ar gyfer
angen lleol. Ategwyd bod trafodaethau
helaeth wedi eu cynnal rhwng swyddogion a’r ymgeisydd ers penderfyniad y
pwyllgor ac o ganlyniad i gyflwyno tystiolaeth ariannol manwl, daethpwyd i’r
amlwg y byddai’n anhyfyw cynnwys dau dŷ fforddiadwy fel rhan o’r
datblygiad.
Yn unol â
phenderfyniad y pwyllgor i ganiatáu yn ddarostyngedig i drafod a chytuno ar
ddisgownt priodol ar gyfer yr unedau fforddiadwy, derbyniwyd prisiad marchnad
agored ar gyfer y tai fforddiadwy. Ar sail y wybodaeth ynghyd a chyngor gan yr
Uned Strategol Tai, penderfynwyd bod angen disgownt o 40% er mwyn sicrhau fod y
tai mewn cyrraedd pobol sydd mewn angen o dŷ fforddiadwy canolradd. Yn
dilyn hyn, derbyniwyd gwrthwynebiad i’r disgownt gan yr ymgeisydd gan fyddai
disgownt mor uchel yn effeithio hyfywedd y cynllun yn ei gyfanrwydd.
Eglurwyd bod gofynion perthnasol y polisi a’r CCA hefyd yn nodi os na
ddarperir y gyfran angenrheidiol o unedau fforddiadwy o fewn y safle, yna rhaid
ystyried taliad pro-rata yn hytrach na dim darpariaeth fforddiadwy. Yn yr achos
yma, ac wedi asesu costau’r datblygiad/adeiladu fel a gyflwynwyd o fewn y
prisiad llyfr coch diweddaraf, mae’n glir ar sail cynnwys un uned fforddiadwy
gyda disgownt o 40%, na fyddai’n hyfyw darparu uned fforddiadwy arall na gofyn
am daliad pro-rata yn lle’r ail uned fforddiadwy. Fel sydd yn cael ei nodi
felly yn y polisïau a’r cyngor perthnasol, mae’r elfen fforddiadwy yn yr achos
yma yn adlewyrchu nifer yr unedau fforddiadwy yng nghyd destun casgliadau'r
asesiad. O ganlyniad, gwnaed penderfyniad i dderbyn un tŷ fforddiadwy ar
llain 4 gyda disgownt o 40% i’w ategu trwy gytundeb cyfreithiol fel ei fod yn
parhau yn fforddiadwy ar gyfer angen lleol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd llawer o newid i’r cais
gwreiddiol a’i bod yn barod i gefnogi’r cynllun
·
Er pryderon carthffosiaeth gan drigolion, cafwyd ymateb derbyniol
·
Bod argyfwng tai ym Mhwllheli ac angen am dai fforddiadwy
·
Bod angen y tai cywir yn y lle cywir
·
Angen ystyried safbwynt y datblygwr –
cwmni adeiladu lleol sydd yn datblygu yma – Cymro lleol yn cyflogi yn lleol ac
felly yn gefnogol i hyn
·
Nid yw'r cynllun yn hyfyw - y system yn methu - angen adolygiad
o’r broses
·
Pryder nad oes datganiad iaith wedi ei gynnwys
oherwydd bod y safle o fewn y ffin datblygu ac ystyriaeth eisoes wedi ei roi
i’r safle wrth sefydlu’r Cynllun. Angen adroddiad mwy diweddar – y sefyllfa a
ffactorau yn newid yn aml
c) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a ffigwr dangosol ar gyfer
clwstwr Pwllheli ac os yw'r ddarpariaeth tai dangosol i Bwllheli dros gyfnod y
Cynllun wedi ei gyflawni, amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad
yma yn mynd y tu hwnt i lefel cyflenwad dangosol y dref ond bod 3 tŷ ar y
safle eisoes wedi eu cymeradwyo, ac felly y cynnydd o 2 uned byw ychwanegol yn
dderbyniol yn yr achos yma. Mewn ymateb i gwestiwn ategol os yw ardal tu allan
i Bwllheli yn cael ei ystyried, nodwyd nad oedd cyfiawnhad dros ystyried yr
ardal ehangach.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau
darpariaeth o un tŷ fforddiadwy:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
3. Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol
gan gynnwys llechi
4. Tirlunio/Coed
5. Materion draenio/SUDS
6. Materion Bioamrywiaeth
7. Materion Archeolegol
8. Materion Fforddiadwy.
9. Materion Priffyrdd
10. Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych
11. Triniaethau ffin
Dogfennau ategol: