Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod:-
Cofnod:
Adeiladu un
annedd
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
adeiladu tŷ annedd (3 ystafell wely) o ddyluniad deulawr yn bennaf ond
fyddai’n cynnwys storfa gardd o dan ran o’r tŷ arfaethedig (fyddai’n
gwneud y rhan hynny yn dri llawr) ar dir ger
Môr Awelon, Ffordd Brynhyfryd, Tywyn.
Cyflwynwyd fel rhan o’r cais Ddatganiad Iaith
Gymraeg, Datganiad Dyluniad a Mynediad, Datganiad Cynllunio, Asesiad Ecolegol
Cychwynnol a llythyr o
gyfiawnhad pellach am dŷ ar y safle sydd yn gorwedd yng nghefn gwlad ond
yn union gerllaw ffin ddatblygu Tywyn.
Ategwyd bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Dyffryn Dysynni gyda gwrychoedd o eithin yn bennaf ac ambell i goeden ar y ffin
gyda’r ffordd ddosbarth 1 A493 ac Ysbyty Tywyn sydd yn adeilad rhestredig Gradd
II ar yr ochr arall.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais y cyn
aelod lleol Cyng. Mike Stevens
Eglurwyd bod mapiau ar gyfer Tywyn yn amlygu
bod y safle yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu'r ganolfan gwasanaeth lleol
ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn
gwlad. Nodwyd bod Polisi Strategol PS 17
- Strategaeth Aneddleoedd yn ymwneud gyda dosbarthiad tai, o safbwynt safle yng
nghefn gwlad agored yn nodi mai dim ond datblygiadau tai sy’n cydymffurfio â
Pholisi Cynllunio Cymru a NCT 6 fydd yn cael eu caniatáu yng nghefn gwlad
agored. Yn unol gyda NCT 6 un o’r
ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd yng nghefn
gwlad yw pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man
gwaith neu’n agos ato. Ystyriwyd nad
oedd y cais presennol yn un am dŷ menter wledig ac felly y bwriad yn groes
i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a
NCT 6.
Yng nghyd -destun cyfiawnhau yr angen am
dŷ fforddiadwy ar y safle, amlygwyd nad oedd yr ymgeiswyr wedi cael ei
hasesu i fod mewn angen tŷ fforddiadwy, a bod maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint
tŷ fforddiadwy. Yn ychwanegol, ac yn niffyg prisiad o werth marchnad
agored yr eiddo ni ellid sicrhau y byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn
parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol. Ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle
a bod y bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 sydd ond yn gallu
caniatáu fel eithriad gynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd
sy’n union gerllaw’r ffiniau datblygu ac sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r
anheddle ac i gynnwys y Canllaw Cynllunio Ataoldo Tai Fforddiadwy.
Yn dilyn derbyn cynllun lleoliad a cynllun
safle diwygiedig ynghyd a gwybodaeth ychwanegol am y lleiniau gwelededd, nodwyd
bod rheswm gwrthod yn ymwneud a chreu mynediad newydd yn cael ei ddileu.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Bod yr eiddo yn un a fydd wedi ei hunan adeiladu
·
Yr ymgeiswyr yn lleol i Tywyn ac yn rhedeg buses llwyddiannus yn
yr ardal ers dros 30 mlynedd
·
Eu safle busnes yn cynnig eiddo preswyl ar y safle, ond yr
ymgeiswyr bellach eisiau ymddeol ac angen sefydlu cartref
·
Er bod yn berchen tŷ arall yn y dref, bod teulu eisoes yn byw
ynddo
·
Bod prinder tai ar werth yn yr ardal a chyfleoedd hunan adeiladu
·
Bod cefnogaeth leol i hunan adeiladu sydd yn ymateb i’r angen
·
Bod y safle yn addas gyda chysylltiadau da
·
Y dyluniad yn addas a bod bwriad defnyddio deunyddiau lleol
·
Bod addasiadau i’r fynedfa ac i ail leoli mynedfa i’r llwybr
cyhoeddus bellach yn dderbyniol
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Er yn Aelod Lleol, y cais wedi ei alw i mewn gan Aelod arall
·
Y safle tu allan i’r ffin datblygu ac felly dim yn cwrdd a’r
polisi
·
Y bwriad yn groes i ofynion polisi TAI 16
·
Bod y safle i’w ystyried fel un i’w gynnwys wrth adolygu’r Polisi Cynllunio - y cais yn gynamserol
·
Pryderon wedi eu hamlygu yn y dref a nifer yn gwrthwynebu’r cais
·
Pryderon cychwynnol gyda’r mynediad, ond derbyn yr addasiadau
·
Er yr nodi ‘angen’ am dŷ – bod byngalo ar gael ar eu heiddo
presennol
·
Yn cytuno gyda’r argymhelliad i wrthod y cais
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
PENDERFYNWYD: Gwrthod:-
·
Y safle yng nghefn gwlad agored ac nid yw’r bwriad yn un am dŷ
menter wledig ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a
Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Pholisi
Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: cynllunio ar gyfer cymunedau
gwledig cynaliadwy.
·
Nid yw’r ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ
fforddiadwy, mae maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ fforddiadwy
fel y diffinnir yn y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy ac yn niffyg prisiad
o werth marchnad agored yr eiddo ni ellir sicrhau y byddai’r eiddo o bris
fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol. Ni ystyrir felly y byddai’r bwriad dan sylw
yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y bwriad felly yn groes i
ofynion polisi TAI 16 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd ond yn
caniatáu cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy. Mae hefyd yn groes i gynnwys y Canllaw
Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy.
Dogfennau ategol: