Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru
presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i
greu maes parcio, allosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a
thirlunio cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Cofnod:
Dymchwel
rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r
is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i greu maes parcio, allosod
goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar
gyfer dymchwel adeiladwaith Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru (ar wahân i’r
is-orsaf drydan) er mwyn darparu maes parcio newydd, gosod goleuadau, gwefr
bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig ar safle sydd wedi
ei leoli rhwng y pentref a Llyn Padarn. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol
sy’n cynnwys: -
·
Dymchwel 2,932m2 o arwynebedd llawr yr adeilad presennol ar wahân
i 22m2 o arwynebedd yr is-orsaf drydan.
·
Darparu maes parcio ar gyfer y cyhoedd a fyddai’n ychwanegu 110
llecyn parcio ychwanegol i’r maes parcio gyfochrog presennol gan gynnwys 5
llecyn i’r anabl.
·
Darparu 12 gwefr bwyntiau AC cyflym ar gyfer cerbydau ynghyd ag un
wefr bwynt DC cyflym ar gyfer cerbydau.
·
Mynedfa i’r maes parcio estynedig drwy ddefnyddio’r fynedfa
bresennol oddi ar y ffordd sirol dosbarth I gerllaw (A.4086).
·
Gosod 9 colofn golau 6m o uchder er mwyn goleuo’r maes parcio o
ddyluniad a fyddai’n lleihau unrhyw lygredd golau ar y tir o amgylch safle’r
cais.
·
Cynllun tirlunio meddal i gynnwys plannu coed, llwyni a blodau
gwyllt y ddol.
Awgrymwyd mai prif ystyriaeth y cais oedd, a fyddai’r bwriad yn arwain at golli adnodd
gymunedol. Nodwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn datgan bydd y Cyngor yn
gwrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol drwy
gydymffurfio gydag o leiaf un o feini prawf y polisi, yn benodol yma, mewn
perthynas â chyfleuster sy’n cael ei redeg yn fasnachol (fel yn yr achos
arbennig hwn). Rhaid bod tystiolaeth:
·
Nad yw’r
defnydd presennol bellach yn hyfyw’n ariannol – yr ymgeisydd wedi datgan bod y ganolfan
ymwelwyr yn cael ei danddefnyddio ac yn rhy fawr i’r cyfleusterau oedd yn
bodoli y tu fewn iddo a bod cyflwr yr adeiladwaith eisoes yn creu dolur llygaid
o fewn yr ardal leol.
·
Na ellir
disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw’n ariannol - gan ystyried y wybodaeth sydd wedi cael ei
gyflwyno gan yr ymgeisydd parthed hyfywedd y ganolfan ymwelwyr, ni ddisgwylir
yn rhesymol byddai’r defnydd(iau) a wnaed o’r cyfleuster yn flaenorol yn dod yn
hyfyw’n ariannol yn y dyfodol agos neu yn yr hir dymor ac na fyddai’n gwneud
synnwyr economaidd i barhau defnyddio’r adeilad fel adnodd cymunedol a
chanolfan ymwelwyr.
·
Na ellir
sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall - gan ystyried y ffaith bod yr
adeiladwaith, yn ei gyflwr cyfredol, yn anghynaladwy ynghyd a maint arwynebedd
llawr/gofod o fewn yr adeiladwaith ei hun, ni ystyrir byddai’n bosib
defnyddio’r adeilad at fudd cymunedol mewn modd sy’n hyfyw’n ariannol
·
Bod
tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata’r cyfleuster sydd wedi bod yn
aflwyddiannus - nid
bwriad yr ymgeisydd yw cael gwared â’r safle drwy ei werthu ond yn hytrach i’w
ddiogelu a’i ddatblygu ar gyfer defnydd a fyddai’n addas ar ei gyfer yn
bresennol ac i’r dyfodol. Mae’r ymgeisydd o’r farn mai’r defnydd mwyaf addas
iddo yn y tymor byr/canolig yw fel maes parcio, sydd ynddo’i hun, yn gyfleuster
cymunedol amgen. O fewn y cyd-destun yma, mae’r bwriad arfaethedig yn golygu
colli un math o adnodd cymunedol a’i ddisodli gan adnodd cymunedol amgen arall.
Ategwyd bod
posibilrwydd i’r ymgeisydd gyflwyno rhybudd i’r Cyngor, yn unol a gofynion Rhan
31 o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganaiteir) i
ddymchwel yr adeilad. Gyda’r ymgeisydd wedi dewid cyflwyno cais cynllunio i
newid defnydd y safle, golygai hyn y byddai
gwell rheolaeth dros y bwriad gan y Cyngor.
Nodwyd bod ystyriaethau eraill megis materion
gweledol, preswyl, bioamrywiaeth a diogelwch ffyrdd yn dderbyniol. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau
lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn
gorbwyso ystyriaethau’r polisïau. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod yr adeilad wedi ei adeiladu yn yr 80au cynnar
ac wedi ei ddylunio a’i gynnig fel Neuadd Chwaraen i’r gymuned. Cafwyd
gwrthwynebiad i hyn gan drigolion lleol ac felly crëwyd amgueddfa a chanolfan
groeso
·
Nid yw’r adeilad yn addas fel Canolfan – trethi busnes
a chostau rhedeg uchel
·
O ganlyniad i’r Clwy Traed a Genau yn 2003
dechreuodd y busnes golli arian ac ers hynny anodd oedd adfer colledion
·
Ystyriwyd creu canolfan newydd ond gyda dyfodiad
pandemig covid 2020, ni luniwyd cynllun.
·
Erbyn hyn mae prif falfiau yn y chwarel angen eu
hadneywddu ac oherwydd y gwaith adnewyddu ni fydd modd cynnal ymweliadau i’r
chwarel sydd felly yn golygu dim defnydd i’r Ganolfan Ymwelwyr
·
Yn hytrach na gweld yr adeilad yn dirywio, y bwriad
yw dymchwel a chreu maes parcio mewn ymateb i’r galw am lefydd parcio yn y
pentref.
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei
bod yn gwrthwynebu’r cais
·
Siomedig
bod yr adeilad yn wag a’r ymdrech tila sydd wedi ei wneud i geisio defnydd
amgen o’r adeilad
·
Nad
yw creu maes parcio yn ymateb i’r angen lleol - byddai creu lle i 110 o geir yn
creu argraff negyddol heb fuddiant nac elw i’r gymuned. Byddai hefyd yn
cystadlu yn uniongyrchol gyda maes parcio cyfagos sydd yn fenter gymunedol
·
Trafodaethau ar y gweill a syniadau newydd wedi eu
cyflwyno – angen mwy o amser i drafod gyda chwmni digwyddiadau ‘Always Aim
High’ a Tim Archub Mynydd
·
Rhodd
i’r gymuned oedd y bwriad gwreiddiol. Rhesymau ariannol sydd o fudd i'r cwmni
sydd yn cael eu cyflwyno erbyn hyn
·
Nid yw’r rhy hwyr i achub yr adeilad
·
Cais i ohirio’r penderfyniad er mwyn cael cynnal
trafodaethau pellach
d) Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r penderfyniad yn unol a chais yr Aelod
Lleol
Mewn ymateb i’r cynnig, nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod angen
rheswm gwrthod ar sail materion cynllunio ac os am ohirio i ail gynnal
trafodaethau bod rhaid gosod amserlen. Ategwyd hefyd y bydd rhaid ystyried
apêl posib gan yr ymgeisydd am ddiffyg
penderfyniad ac nad oedd dim yn atal yr ymgeisydd rhag rhoi rhybudd a dymchwel
yr adeilad
dd) Cynigiwyd ac eiliwyd gohiro’r penderfyniad hyd
Medi 2022 er mwyn caniatáu cyfle pellach i’r gymuned i drafod defnyddiau amgen
o’r adeilad gyda’r ymgeisydd.
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y rhesymau dros ddymchwel yr
adeilad yn wan – nid yw cyflwr yr adeilad yn wael
·
Rhodd i’r gymuned oedd bwriad yr
adeilad yn y lle cyntaf – rhaid cadw at hyn a galluogi adnodd cymunedol
·
Nid oes angen lle parcio newydd – yn
enwedig os oes un gerllaw yn cael ei redeg gan y gymuned
·
Nifer o syniadau wedi eu cynnig gan y
gymuned
·
Cais i’r cwmni First Hydro / Engie
gymryd sylw o’r angen am adnodd gymunedol
·
A ddylid gwrthod y cais o ystyried nad
oes angen maes parcio?
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r
angen am ganiatâd cynllunio i ddymchwel yr adeilad, nododd y Pemaeth
Cynorthwyol nad oes angen caniatâd i ddymchwel ond os am addasu i faes parcio
bod rhaid cael canaitad cynllunio.
PENDERFYNWYD: Gohirio hyd Medi 2022 er mwyn
caniatáu cyfle pellach i drafod defnyddiau amgen o’r adeilad
Dogfennau ategol: