Datblygiad
preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr a un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith
cysylltiedig a creu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-
NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun
strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y
Cyngor.
NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i arwyddo cytundeb o dan
Adran 38 o’r Ddeddf Briffyrdd.
Cofnod:
Datblygiad
preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith
cysylltiedig a chreu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer codi 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy ynghyd a gwaith
cysylltiedig ar ddiwedd cul-de-sac o fewn Stad Bro Infryn ar gyrion dwyreiniol
pentref Glasinfryn ar lecyn o dir gwyrdd gwastad. Rhennir y cais i sawl elfen
wahanol sy’n cynnwys:
·
Darparu unedau fforddiadwy ar ffurf: 1 tŷ deulawr 2 lofft (3
person), 4 tŷ deulawr 2 lofft (4 person), 2 tŷ deulawr 3 llofft (5
person) ynghyd a thŷ un llawr 2 lofft (3 person).
·
Byddai’r tai 2 lofft ar gyfer rhent canolradd gyda gweddill y tai
ar gyfer rhent cymdeithasol.
·
Darparu isadeiledd i gynnwys llecynnau parcio, llwybrau troed, man
troi, ailgyfeirio cebl BT ac ailgyfeirio’r garthffos gyhoeddus.
·
Codi ffensys amrywiol o
amgylch ffiniau’r safle a rhwng y tai.
·
Lleoli storfeydd biniau a storio o fewn gerddi’r tai.
·
Gwaith tirweddu.
Eglurwyd bod
trafodaethau wedi eu cynnal rhwng yr ymgeisydd, y cynghorydd lleol blaenorol, y
Cyng Menna Baines, ynghyd a nifer o drigolion y stad. O ganlyniad, diwygiwyd y
cais i ddarparu llecynnau parcio ychwanegol ar ffurf encil fannau ar ymylon
gogleddol a deheuol y llecyn lawnt sydd wedi ei leoli yng nghanol y stad.
Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol
ar sail cyflenwad tai dangosol, cymysgedd tai a’r angen i gwrdd â chyfarch yr
angen am y math yma o dai yn yr ardal leol. Nodwyd bod ystyriaethau cynllunio
megis mwynderau preswyl gweledol,
diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth a materion ieithyddol yn dderbyniol. Ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd
unrhyw fater arall cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. I’r
perwyl yma, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys
yr amodau.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Adra
(Cymdeithas Dai leol) ar gyfer codi 6 tŷ deulawr a 1 bynglo - yr holl
unedau yn dai fforddiadwy ac yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolradd a thai
rhent cymdeithasol.
·
Bod trafodaethau pre-ap wedi eu cynnal
gyda’r adran gynllunio i drafod egwyddor y bwriad ac i dderbyn adborth ar
faterion cynllunio perthasol.
·
Yn dilyn cyflwyno’r cais ac yn ystod
cyfnod penderfynu’r cais , bu trafodaethau ychwanegol gyda’r cynghorydd lleol a
rhywfaint o’r trigolion lleol i drafod rhwyfaint o bryderon oedd ganddynt ar ol
gweld manylion y cais.
·
Un o’r pryderon a godwyd oedd parcio
a’r pwysau oedd yn yr ardal am lefydd parcio. O ganlyniad i’r trafodaethau yma,
cyflwynwyd diwygiadau i’r cynlluniau er mwyn darparu llefydd parcio ychwanegol
ar ffin llecyn gwyrdd presennol gerllaw, fel a gytunwyd gyda’r Aelod lleol a’r
trigolion.
·
Bod y trigolion eisiau sicrhau bod
llwybr troed ar gael er mwyn darparu mynedfa i gefn tai 1 - 4 Bron Infryn -
llwybr bellach wedi ei ddarparu fel rhan o’r cynlluniau arfaethedig.
·
Gwnaed newidiadau i ddyluniad y bynglo
er mwyn sicrhau ei fod yn addas ac yn cyfarch angen teulu penodol a fyddai yn
ei feddiannu. Trafodaethau wedi bod rhwng Adra a’r Therapydd Galwadigaethol yn
Derwen er mwyn sicrhau bod y dyluniad yn addas.
·
Bod yr angen ar gyfer tai fforddiadwy
yn lleol wedi ei gadarnhau yn Adroddiad Arolwg Anghenion Tai gan yr Hwylusydd
Tai Gwledig. Uned Strategol Tai y Cyngor yn cytuno bod y cais yn cyfarch angen
am dai yn yr ardal ac bod y cynllun wedi ei gynnwys mewn rhaglen i dderbyn
grant tai cymdeithasol gan Llywodraeth Cymru.
·
Bod adroddiad y swyddog yn cadarnhau
bod egwyddor y bwriad yn dderbynniol a bod yr holl faterion cynllunio
perthnasol eraill yn dderbyniol ynghyd a’r amodau a gynigir i’r ymgeisydd.
·
Bod y bwriad yn darparu tai fforddiadwy
sydd eu hangen i gyfarch angen lleol.
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
· Mai’r Cynghorydd Menna Baines
oedd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ynglyn a gwelliannau’r cais cyn i’r
ffiniau newydd ddod i rym Mai 2022
·
Er bod dwy farn yn lleol am y bwriad,
bod y cynllun yn estyniad taclus i’r stad bresennol
·
Bod yr unedau yn fforddiadwy ac yn
ymateb i’r angen lleol
ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn ag agosatrwydd y
stad, sydd yn un Gymraeg ei hiaith, at glwstwr tai dangosol Bangor, ar effaith
y gall hyn gael ar y stad, cyfeiriodd y Pennaeth Cynorthwyol at sylwadau’r Uned
Iaith. Nodwyd, er nad oedd angen Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais gan fod
digon o gyflenwad ar ôl ym mhentrefi clystyrau Gwynedd ar gyfer tai ychwanegol,
bod datganiad ieithyddol wedi ei gyflwyno oedd yn dod i’r canlyniad y byddai’r
bwriad, o’i ganiatáu, yn cael elfen o effaith bositif ar yr iaith Gymraeg o
ystyried y farchnad dai lleol. Byddai’r
bwriad yn darparu 7 tŷ fforddiadwy ar gyfer cyfarch ag angen lleol yn
bresennol ac i’r dyfodol ac ystyriwyd y byddai’r rhan helaeth o’r darpar
ddeiliaid yn lleol ac, i’r perwyl hyn, byddai’r bwriad yn cael effaith niwtral
ar y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nglasinfryn.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-
1. 5
mlynedd.
2. Yn
unol â’r cynlluniau.
3. Manylion
y paneli solar.
4. Cynllun
tirlunio.
5. Llechi
naturiol.
6. Datblygiad
i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru bioamrywiaeth.
7. Cyfyngu
ar oriau gweithio i 08:00 – 18:00 yn yr wythnos; 08:00 – 12:00 ar ddydd Sadwrn
a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.
8. Cyfyngu
ar lefelau sŵn.
9. Cyflwyno
Datganiad Dull Adeiladu.
10. Amod
Dwr Cymru i gyflwyno Datganiad Dull ag Asesiad Risg parthed y brif garthffos
sy’n croesi’r safle.
11. Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r tai fforddiadwy.
12. Tynnu
hawliau datblygiadau a ganiateir o’r tai fforddiadwy.
13. Sicrhau
enw Cymraeg i'r tai a’r stad.
NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno
cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor.
NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i arwyddo
cytundeb o dan Adran 38 o’r Ddeddf Briffyrdd.
Dogfennau ategol: