Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig
fel a ganlyn:-
“Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o
lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos
Sul Mehefin 5ed gyda ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i
sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma.
Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac
yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn
llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth
Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn
llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi
mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob
Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein
gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru DIOLCH.
Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo
Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.”
Penderfyniad:
Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o
lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gyda ein
Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau
terfynol y Gystadleuaeth yma.
Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm
Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas
Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm
i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r
Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl
Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru,
ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed
Cymru DIOLCH.
Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i
hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o
dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Ers
1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl
Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar
Nos Sul Mehefin 5ed gydag ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i
sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma.
Mae’r
Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt
yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor
hefyd yn llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth
Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn
llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi
mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob
Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein
gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru DIOLCH.
Yn
ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n
presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y
llwyfan byd-eang yma.”
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Mai
pwrpas y cynnig oedd llongyfarch y tîm ar eu perfformiad, ond yn llawer iawn
mwy na hynny, llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am y ffordd maent wedi
magu balchder yn y Tîm Cenedlaethol.
·
Bod
y Gymdeithas Pêl Droed wedi arwain y ffordd i feithrin hyn trwy ddod â
siaradwyr Cymraeg a di-gymraeg at ei gilydd i ymfalchïo ein bod ni yn wlad
gydag iaith a diwylliant unigryw ein hunain.
·
Bod
hyn yn wers, nid yn unig i bob cymdeithas chwaraeon arall yn ein gwlad, ond
hefyd yn wers i bob sefydliad arall yn ein gwlad.
·
Bod
angen i Lywodraeth Cymru fanteisio hyd eithaf eu gallu ar y ffaith y bydd Cymru
ar lwyfan byd-eang, a mynd ati i werthu ein gwlad fel gwlad hyderus, agored,
fyrlymus, weithgar, gyda’i diwylliant unigryw.
Mynegwyd cefnogaeth i’r
cynnig gan aelodau, a dymunwyd yn dda hefyd i Dîm Pêl-droed Merched Cymru yn eu
hymdrech hwythau i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Merched 2023.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
“Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar
un o lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gydag
ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn
cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma.
Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol
ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas
Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Genedlaethol Gymreig o fewn y tîm
i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r
Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl
Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru,
ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru
DIOLCH.
Yn
ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n
presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y
llwyfan byd-eang yma.”